Cyngor Gwynedd yn ystyried dymchwel trosffordd Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Gallai trosffordd sy'n torri trwy ganol tref Caernarfon gael ei dymchwel am fod costau i'w chynnal yn rhy ddrud.
Mewn ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol, mae'n debyg fod nifer o bobl leol o blaid cael gwared arni.
Cafodd y drosffordd ei hadeiladu yn yr 1980au i leddfu tagfeydd traffig, ond i lawer, roedd yn ddolur llygad ac yn gwahanu ardal Twthill a chanol y dre'.
Ond gan fod y ffordd osgoi newydd wedi agor, mae llai o draffig ar hyd y lôn. Mae Cyngor Gwynedd felly yn ystyried dyfodol y drosffordd.
Dywedodd y cyngor wrth Newyddion S4C fod angen rhagor o waith ymchwil a chyllid cyn gwneud penderfyniad.
Mae 'na bedwar dewis. Y cyntaf ydy cadw pethau fel ag y maen nhw.
Yr ail, troi'r drosffordd yn bont werdd a thyfu coed a gwair ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Yr opsiynau eraill ydy dymchwel y drosffordd a chadw'r gylchfan bresennol, neu ddymchwel y drosffordd a datblygu cylchfan newydd.
Mae'n amlwg mai cymysg ydy'r farn yn y dref am beth i'w wneud gyda'r drosffordd, fel eglurodd rhai o drigolion Twthill.
"I sbïo arni rŵan, does 'na'm byd yn wrong arni nag oes," meddai un.
Ond mae eraill yn anghytuno: "'Sa wbath gwyrdd yn grêt, bysa. 'Da chi'n gweld lluniau o'r maes flynyddoedd yn ôl - oedd o'n lyfli efo'r blodau a ballu yn y canol - ond mae o'n afiach rŵan dydi."
Dywedodd un ddynes: "Os 'dio ddim am fod o use, might as well iddyn nhw gael gwared arno fo yndi, ond eto, mae o'n bres yn erbyn Caernarfon wedyn yndi.
"Os 'sa fo'n cael ei investio mewn siopau a ballu yn lleol, 'sa fo'n fwy o investment i'r dre' dwi'n meddwl."
Y gost o gynnal a chadw'r ffordd sy'n bryder i un arall o drigolion y dref.
"Mae'r cyngor sir wedi d'eud bod isio gwario cryn dipyn o arian i 'neud o fyny i'r gofynion ar ôl 39 mlynedd - dydi hynny ddim yn glyfar iawn nac ydy."
Beth bynnag y dewis, does dim disgwyl i waith adeiladu neu ddymchwel ddigwydd am o leiaf ddwy flynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021