Trefniadau gêm derfynol yn 'warthus', medd cefnogwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl o Gymru wedi beirniadu'r awdurdodau ym Mharis am y trafferthion cyn cyrraedd eu seddi yn Stade de France nos Sadwrn i wylio rownd derfynol cystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr.
Mae'r CPD Lerpwl wedi galw am ymchwiliad i'r "trafferthion annerbyniol" wnaeth achosi i filoedd o'u cefnogwyr orfod ciwio am gyfnod hir tu allan i'r stadiwm, ac arwain at ohirio'r gic gyntaf am dros hanner awr.
Yn ôl y corff rheoli UEFA, fe wnaethpwyd hynny am "resymau diogelwch" cyn cynnal y gêm a gafodd ei hennill gan Real Madrid.
Fe ddefnyddiodd swyddogion heddlu nwy dagrau tu allan i'r stadiwm wrth i nifer fach o gefnogwyr geisio dringo dros rwystrau diogelwch.
Ond mae swyddogion heddlu o Lannau Mersi oedd ar ddyletswydd ym Mharis yn dweud bod ymddygiad y rhan helaeth o'r cefnogwyr "yn rhagorol" a'u bod wedi "cyrraedd giatiau'r stadiwn yn gynnar a chiwio'n unol â'r cyfarwyddiadau".
'O'n i mor ofn'
Roedd bod yng nghanol torf oedd yn cynyddu o hyd yn brofiad ofnadwy, medd Tomi Vaughan o Dywyn.
Mae'n dweud bod yr awdurdodau wedi "cadw ni fyny a trin ni fel anifeiliaid", a hynny er bod eu tocynnau eisoes wedi cael eu gwirio gan swyddogion wrth i gefnogwyr gyrraedd man gwirio cyntaf y stadiwm.
"Trw'r canol o'dd cannoedd a channoedd o bobol yn pacio mewn ac o'n i mor ofn," meddai.
"Ma' rwbath ti fod i ddathlu, mae wedi cysgodi rŵan gyda be' sy' wedi digwydd.
"Ges i taflu tear gas arnof fi, a nath rhywun hitio fi efo riot shield... fi jyst falch bod neb 'di ga'l ei brifo a falch bo' ni'n gallu mynd adra'n saff."
'Gwarthus'
Roedd y sefyllfa'n annerbyniol, medd dau gefnogwr o Bow Street oedd hefyd wedi cyrraedd y stadiwm ddwy awr o flaen llaw.
Yn ôl Tomos Roberts dyma oedd "un o'r profiadau mwya' gwarthus" iddo fod yn rhan ohono.
"O'dd dim trefn yn nunlle - pobol lleol yn treial mynd mewn heb tocynne, a'r ffaith bo' ni yna dwy awr cyn i'r gêm ddechre a o'n ni dal ddim mewn tan chwarter wedi naw amser lleol," meddai.
"A wedyn gweld yn y stadiwm fod UEFA 'di rhoi datganiad allan yn dweud bod ni gyd wedi cyrraedd yn hwyr - ma' hwnna jyst yn warthus.
"Y peth da yw bod y journalists i gyd 'di bod tu allan a 'di gweld y sefyllfa i gyd, so gobeithio deith hwnna mas nawr."
'Plant a menywod yn crio'
"Dwi wedi trafeili i lawer o gemau Lerpwl dros y blynyddoedd a neithiwr oedd y profiad gwaethaf," meddai Dylan Roberts, gan ddisgrifio swyddogion heddlu'r cario "riot shields gyda nhw a tear gas a pepper spray".
Mae'n dweud bod "llawer iawn o bobol ifanc Ffrengig yn cymysgu gyda'r cefnogwyr Lerpwl yn aros i ddod mewn, a oedd dim digon o stiwardiaid a giatiau ar agor er mwyn cael y cefnogwyr Lerpwl i mewn i'r gêm yn saff".
Ychwanegodd: "Welon ni blant a menywod yn crio wrth y giatiau... o'dd beth o'dd yr awdurdodau wedi 'neud yn warthus a o'dd yr heddlu yn galed iawn".
"Mae'n gywilydd iddyn nhw'
"Dwi erioed wedi gweld dim byd tebyg," meddai Richard Vaughan o Dywyn, wrth feirniadu'r ffordd y cafodd cefnogwyr Lerpwl eu trin gan yr awdurdodau o amgylch y stadiwm.
"Mae'n amlwg bo' nhw'n beio cefnogwyr Lerpwl am greu y probleme ma' ond yn sicr, o be' sydd i'w weld ar y platforms ma' allan heddiw, mae'n glir iawn i weld roedd 'na ddiffyg trefn enfawr yna.
"Pum gallt lle oeddan ni'n mynd mewn, un giât o'ddan ni'n cael defnyddio a dau stiward yn sganio tickets ni.
"Yn naturiol o'dd pobol, cefnogwyr, yn build-io fyny nawr wrth fynd mewn - oedd 'na ddim steady flow o gwbwl, o'n nhw'n creu'r probleme eu hunain.
"O'ddan ni'n barod i spray-io chi efo'r pepper spray a tear gas ac o'dd hwnnw'n brofiad budur iawn.
"A gweld y teuluoedd ifanc, plant bach ifanc, pobol mewn oed - mae'n gywilydd iddyn nhw a gobeithio ddaw 'na gyfiawnhad allan o unrhyw ymchwiliad i'r digwyddiade yma."
Dywedodd CPD Lerpwl nos Sadwrn eu bod "yn siomedig eithriadol" bod cefnogwyr wedi cael trafferthion wrth geisio cael mynediad i'r stadiwn.
"Dyma'r gêm bêl-droed Ewropeaidd orau a ni ddylai cefnogwyr fod wedi profi'r golygfeydd y gwelsom ni heno.
"Rydym wedi gwneud cais swyddogol am ymchwiliad ffurfiol i achosion y trafferthion annerbyniol yma."
Dywedodd UEFA eu bod "yn cydymdeimlo gyda'r rheiny a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiadau yma a byddwn yn cynnal adolygiad pellach ar y cyd â heddlu ac awdurdodau pêl-droed Ffrainc".
Yn ôl llefarydd, fe gafodd y giatiau pen Lerpwl o'r stadiwm "eu blocio gan filoedd o gefnogwyr oedd wedi prynu tocynnau ffug nad oedd yn gweithio wrth y giatiau".
Ychwanegodd eu bod wedi gohirio'r gic gyntaf am 35 munud "i ganiatáu mynediad i gymaint o gefnogwyr â phosib oedd â thocynnau dilys".
Dywedodd heddlu yn Ffrainc bod cefnogwyr gyda thocynnau ffug wedi ceisio gwthio'u ffordd i'r stadiwm ond bod "ymyrraeth gyflym yr heddlu wedi adfer llonyddwch" a'u bod wedi gallu gwasgaru'r cefnogwyr "heb anhawster". Cafodd mwy na chant o bobl eu harestio.
Bydd Llywdoraeth Prydain yn gweithio gyda'r awdurdodau i ddeall beth aeth o'i le, yn ôl y Gweinidog Chwaraeon, Nigel Huddleston mewn neges Twitter yn mynegi pryder ynghylch y "golygfeydd gofidus" o amgylch Stade de France.