Urdd: Plant difreintiedig i gael gwyliau am ddim
- Cyhoeddwyd
Bydd 200 o blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn cael cyfle am wyliau am ddim yn un o wersylloedd yr Urdd eleni.
Daw'r cyhoeddiad ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd 2022 yn Sir Ddinbych.
Cafodd cronfa arbennig ei sefydlu gan y mudiad ieuenctid yn 2018 i roi cyfleoedd i bob person ifanc waeth beth fo'u hamgylchiadau ariannol.
Bydd yn talu am drafnidiaeth, llety a bwyd i blant a phobl ifanc yng ngwersylloedd yr Urdd yng Nglan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd.
Mae'r gronfa hefyd yn talu am amryw o weithgareddau, sy'n cynnwys canŵio, rafftio, weiren zip, beiciau modur, sgïo, nofio, canu a dawnsio.
Mae modd i rieni ac athrawon wneud cais ar ran plentyn drwy wefan yr Urdd, dolen allanol.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis bod y cynllun yn "rhan o ymrwymiad ac ymroddiad yr Urdd i sicrhau cyfle i bawb".
Mae'n "bwysig bod ni yn estyn allan ac yn creu cronfa", meddai, ac mae'r Urdd "yn falch iawn drwy gefnogaeth unigolion, sefydliadau a cwmnïau i noddi y gronfa yma yn y flwyddyn gynta' ma".
Dywedodd bod 100 o blant wedi elwa o gael y profiadau, a bod y trefnwyr yn "hyderus y gallwn bod ni yn mynd i gallu cynnig o leiaf 200 o lefydd eleni".
Mae adborth gan brifathrawon, meddai, yn awgrymu "pa mor bositif oedd y cyfnod yna wedi bod, y plant wedi llwyr mwynhau ac atgofion i fynd nôl gyda nhw i'r ysgol ym mis Medi".
Ychwanegodd: "Allan o 60,000 o aelodau yr Urdd mae 12% o rheina yn blant neu bobl ifanc sydd yn derbyn cinio ysgol am ddim a 'da ni yn neud lot o weithgareddau yn y gymuned."
Yn ystod y dydd fe fydd yr Urdd hefyd yn cyhoeddi manylion pecyn o adnoddau ar gyfer ysgolion, dan gyllid sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
Bydd yn adeiladu ar waith adran chwaraeon y mudiad yn ystod y pandemig pan drefnodd sesiynau iechyd a lles ar gyfer pobl ifanc ar-lein.
Ar raglen Dros Frecwast fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan bod yr Urdd "wedi codi i'r sialens ac wedi 'neud gwaith anhygoel" yn ystod y pandemig, "ac erbyn heddi mae clybiau maen nhw yn rhedeg wedi ail gor - 300 o glybiau a 11,000 o blant".
Ychwanegodd: "Beth y'n ni yn ymwybodol ohono yw bod nifer o bobl ifanc erbyn heddi yn dioddef o broblemau iechyd meddwl a ni yn gw'bod bod chwaraeon yn helpu gyda hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2021