Dathlu busnesau sy'n ymfalchïo yn y Gymraeg ar y Maes

  • Cyhoeddwyd
bathodynFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae 55 o sefydliadau wedi cael cydnabyddiaeth am eu Cynnig Cymraeg hyd yma

Bydd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn dathlu diwrnod y Cynnig Cymraeg am y tro cyntaf ddydd Mercher ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.

Cafodd y Cynnig Cymraeg ei lansio ym mis Mehefin 2020, cynllun sy'n rhoi cydnabyddiaeth i fusnesau ac elusennau sy'n ymfalchïo yn y Gymraeg.

Mae 55 o sefydliadau wedi derbyn cydnabyddiaeth hyd yma, gan gynnwys Principality, Mind Cymru a Macmillan Cymru.

"Rydym yn gweld y Gymraeg fel sgil ddefnyddiol iawn i'r bobl sy'n gweithio yn Boots," dywedodd Andy Francis o Boots, un o'r busnesau llwyddiannus.

"Mae'n arfer gennym i hysbysebu swyddi gwag yn ddwyieithog.

"Rydym yn hynod o falch fod llawer o'n fferyllwyr yn gallu siarad Cymraeg ac yn medru rhoi cyngor i gwsmeriaid yn eu hiaith," meddai Mr Francis, sef rheolwr y cwmni yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y busnesau sydd wedi cael cydnabyddiaeth swyddfa'r Comisiynydd ydy Boots

Mae'r cynllun yn ceisio cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, a chaniatáu i siaradwyr Cymraeg adnabod pa wasanaethau Cymraeg sydd ar gael.

'Gosod esiampl dda'

Elusen sydd wedi cwblhau eu Cynnig Cymraeg yw Cymdeithas Alzheimer's Society Cymru.

Yn ôl Sion Jones, sy'n gweithio i'r elusen, mae'n bwysig cynnig gwasanaeth dwyieithog i unigolion sy'n siarad Cymraeg.

"Fi'n credu mae e'n gosod esiampl dda i ni fel sefydliad i gael y Cynnig Cymraeg a dangos fod 'da ni'r ymrwymiad yna i'r bobl sy'n byw gyda dementia sy'n siarad yr iaith yng Nghymru."

Mae swyddfa'r Comisiynydd yn gweithio gyda thros 100 o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau.

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y sefydliadau llwyddiannus yn cael croeso yn stondin Comisiynydd y Gymraeg ar y Maes

Tra bod mwy o sefydliadau yn rhan o'r cynllun, mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn gobeithio cynyddu'r niferoedd sy'n ymgymryd â'r strategaeth, gyda 75% o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru'n credu y dylai busnesau weithredu yn y Gymraeg.

Ychwanegodd swyddfa'r Comisiynydd bod cynnal diwrnod y Cynnig Cymraeg "yn gyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth o'u gwasanaethau Cymraeg".

Mae'r cynllun yn gobeithio "gweld cynnydd mewn ymwybyddiaeth yn arwain at gynnydd mewn defnydd o wasanaethau Cymraeg," medd Awel Trefor, Uwch Swyddog Hybu yn swyddfa'r Comisiynydd.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu sefydliadau sydd wedi cwblhau eu Cynnig Cymraeg i dderbyn tystysgrif ar ein stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd."

Bydd y dathliad yn cael ei chynnal ar y Maes am 14:00 er mwyn rhoi clod i'r sefydliadau sydd wedi ymfalchïo yn y Gymraeg.