Ceisio denu athrawon sy'n siarad Cymraeg yn sgil prinder o 400
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd wedi ei lansio i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa "gymhleth" o gynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg mewn ysgolion.
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r angen i ddarpar athrawon gael gradd B neu uwch TGAU mewn mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.
Yn ôl yr ystadegau addysg diweddaraf, mae yna brinder o 14% (405) yn y nifer sy'n gallu dysgu Cymraeg neu bynciau drwy gyfrwng yr iaith mewn ysgolion uwchradd.
Mae undeb UCAC wedi croesawu'r strategaeth, ond yn cwestiynu os ydy'r proffesiwn "bellach yn denu".
Mae'r cyhoeddiad yn rhan o darged y llywodraeth i geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r nifer sy'n defnyddio'r iaith erbyn 2050.
Maen nhw'n dweud nad oes yna ddigon o bobl yn dewis bod yn athrawon yn y sector cyfrwng Cymraeg.
Trafferthion recriwtio
Tra bod y darlun yn "fwy positif" mewn addysg gynradd, mae ysgolion uwchradd yn dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd recriwtio athrawon, yn enwedig mewn pynciau fel gwyddoniaeth, mathemateg, Saesneg a Chymraeg.
Fel rhan o strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, maen nhw'n dweud y byddan nhw'n:
Cefnogi graddedigion sy'n siarad Cymraeg ac yn astudio yn Lloegr i ddychwelyd i Gymru er mwyn paratoi i addysgu;
Ehangu'r ystod o bynciau uwchradd sydd ar gael i bobl sydd mewn cyflogaeth ac sydd eisiau hyfforddi i addysgu;
Darparu cymorth i israddedigion gael profiad o fod mewn ystafell ddosbarth, fel llwybr i addysgu;
Peilota cynllun bwrsariaeth i gadw athrawon cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion uwchradd.
Beth yw'r farn yn Llanhari?
Dywedodd Pennaeth Ysgol Llanhari, Rhian Phillips, bod "recriwtio yn dod y her fwyfwy i ni".
"Llai yn y cynradd… ond yn yr adran uwchradd yn bendant mae pynciau penodol yn anodd i'w llenwi - gwyddoniaeth, mathemateg, saesneg, technoleg, technoleg gwybodaeth - mae hi yn anodd iawn i recriwtio i'r rheiny.
"Fy mhryder i yw mae 'na bobl sydd wedi symud i Loegr i wneud y cwrs TAR, ofn rhywun wedi ydy bod ni'n colli nhw a bod nhw ddim yn dod yn ôl i weithio.
"Mae angen lefel addas o hyfedredd rhifedd a iaith i fod yn athrawon, yn enwedig yn yr ysgolion cynradd, ond dwi'n meddwl bod o'n syniad da iawn bod nhw'n edrych mewn ac yn ymgynghori ar hyn i weld beth ydy effaith hyn ar bobl yn dod mewn i ddysgu."
I Rhys James, athro Saesneg yn yr ysgol, marchnata a hysbysebu'r swydd yw'r broblem fwyaf.
"Pan chi'n tyfu lan chi'n mynd trwy'r system addysg a mae pawb yn dweud byddwch yn doctor, byddwch yn llywodraethwr, gwleidydd, cyfreithiwr.
"Does neb byth yn dweud byddwch yn athro.
"Ond am yr elfen cymunedol, teuluol, creadigol yna, byswn i really yn caru gweld sefyllfa ble mae pobl yn gwthio'r elfennau hynny yn fyw na maen nhw ar hyn o bryd."
Yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, mae angen "newidiadau a chamau gweithredu pellgyrhaeddol" i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
"Mae ein cwricwlwm newydd yn rhoi lle canolog i'r Gymraeg yn y broses ddysgu, ond mae cael gweithlu sydd â'r sgiliau addas yn hollbwysig," meddai.
"Yn ogystal â denu mwy o siaradwyr Cymraeg i'r proffesiwn, rhaid inni fuddsoddi yn sgiliau ein gweithlu presennol, nid yn unig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond hefyd yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg."
Ar Dros Frecwast, gwadodd y byddai newid y graddau sydd eu hangen yn gostwng safonau o fewn y proffesiwn.
"Ni'n sicr ddim isie' gwneud hynny, ond yr hyn y'ch chi'n clywed os siaradwch chi gyda athrawon yw, bydde' rhai yn dweud pa mor elfennol, dweud y gwir, yw B mewn mathemateg os y'ch chi am ddysgu Ffrangeg, er enghraifft, neu ddysgu'r Gymraeg."
Dywedodd bod y drafodaeth honno wedi bod yn fyw ers tro, ond bod angen "sicrhau bod ni'n gwneud pethau creadigol, o'r newydd", ac felly bod ceisio denu graddedigion o Loegr yn rhan o'r strategaeth.
Mae cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg yn cynnwys Iaith Athrawon Yfory, sy'n darparu cymhellion o hyd at £5,000 i fyfyrwyr hyfforddi i addysgu pynciau uwchradd yn Gymraeg.
Ond mae'r llywodraeth yn cydnabod bod yr heriau i gynyddu'r nifer yn "gymhleth".
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae'r nifer o fyfyrwyr sy'n hyfforddi i ddysgu yn Gymraeg wedi cynyddu i 235 yn 2019/20. Mae hwnnw i fyny o 175 yn 2018/19, dolen allanol wedi gostyngiad dros bum mlynedd.
Mae hynny'n 22% o gyfanswm y nifer o fyfyrwyr dysgu blwyddyn gyntaf yng Nghymru.
'Rhaid sicrhau cydraddoldeb cyfleoedd'
Mae pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu'r cynllun a'r ffaith bod y llywodraeth yn "cydnabod bod problemau" ac yn gweithredu.
"Ni angen sicrhau bod cydraddoldeb yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg a Saesneg," meddai Meurig Jones.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol UCAC Dilwyn Roberts-Young bod sicrhau gweithlu addysg addas yn "greiddiol" i'r ymdrechion o gyrraedd targedau Cymraeg 2050.
"Mae'n gwbl amlwg na fyddai unrhyw obaith o gyflawni'r nodau heb y gwaith yma," meddai.
Ond mae'n cwestiynu faint o bobl sydd bellach eisiau mynd i ddysgu.
"Mae'r proffesiwn wedi mynd drwy gyfnod eithriadol o anodd ac mae'n rhaid i ni ofyn ydi o'n broffesiwn sydd yn denu?"
'Angen mynd ymhellach'
Ond yn ôl Cymdeithas yn Iaith, dydy'r cynllun "ddim yn gwneud digon, nac ar ddigon o frys".
Galwodd y gymdeithas ar y llywodraeth i wario £50m ar "Gymreigio'r gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd, nid dim ond athrawon", yn ogystal â "thargedau statudol i bob awdurdod lleol ar gyfer nifer y gweithlu addysg sy'n siarad Cymraeg".
Ychwanegodd y llefarydd bod angen "blwyddyn ychwanegol yn hyfforddiant cychwynnol athrawon i sicrhau eu bod nhw'n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg".
"Os ydy'r llywodraeth o ddifri' am gyrraedd [miliwn o siaradwyr Cymraeg] mae angen mynd ymhellach, ac yn fwy sydyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020
- Cyhoeddwyd4 Mai 2022
- Cyhoeddwyd22 Medi 2018