Costau byw: 'Rhaid lleihau'r stigma ynghylch banciau bwyd'
- Cyhoeddwyd
![Tracy Murphy](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/138EF/production/_125011108_mediaitem125011107.jpg)
Mae Tracy Murphy bellach yn gweithio gyda phrosiect sy'n cynnig bwyd am brisiau isel iawn
Pan gollodd gŵr Tracy Murphy o Aberfan ei swydd oherwydd salwch, bu'n rhaid i'w theulu droi at fanc bwyd am help.
Teimlodd ei gŵr gywilydd oherwydd y stigma sy'n gysylltiedig â'u defnyddio, meddai.
Cafodd dros 131,000 o becynnau bwyd eu dosbarthu gan fanciau bwyd y Trussell Trust yng Nghymru y llynedd.
Ond mae pobl sy'n byw mewn cymunedau clos yn fwy tebygol o beidio defnyddio banciau bwyd rhag i eraill eu beirniadu, yn ôl ymchwilwyr.
Mae Dr Andrew Williams o Brifysgol Caerdydd wedi astudio banciau bwyd ers 2014, ac wedi cyfweld â dros 100 o wirfoddolwyr a defnyddwyr banciau bwyd.
"Rydw i wedi siarad â phobl sydd wedi cerdded 12 milltir i dref gwahanol er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n derbyn pecyn bwyd gan athro eu plentyn oedd yn gwirfoddoli yn y banc bwyd lleol.
"Mewn cymunedau clos lle mae pawb yn adnabod busnes ei gilydd mae amharodrwydd i gyhoeddi eich bod yn stryglan," meddai.
![Banc bwyd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1CF3/production/_125011470_mediaitem125011469.jpg)
Cafodd dros 131,000 o becynnau bwyd eu dosbarthu gan y Trussell Trust yng Nghymru y llynedd
Mae pobl sydd angen help yn osgoi banciau bwyd, yn ôl Dr Williams.
Ei obaith yw gweld newid i'r system docynnau banciau bwyd sy'n dangos bod rhywun yn gymwys i dderbyn bwyd am ddim, ac yn lle, hoffai weld mwy o hybiau cymunedol ar gyfer bwyd rhad neu fwyd am ddim yn lle.
"Y stigma o orfod dibynnu ar fwyd am ddim oedd y rheswm dros deimlo embaras. Balchder hefyd, siŵr o fod.
"Dydyn ni erioed wedi gofyn am help gan unrhyw un arall yn y gorffennol. Roedd hwn yn brofiad gwbl newydd," dywedodd Tracy Murphy.
Prosiect i chwalu'r stigma
Erbyn hyn mae Ms Murphy yn gofalu am ei gŵr ac yn gwirfoddoli gyda phrosiect lleol, 'H Factor'.
Mae'r prosiect yn Aberfan yn sefydlu pantri bwyd a fydd yn rhoi cyfle i unrhyw un sy'n byw yn yr ardal i brynu bwyd am brisiau isel iawn.
Lynne Colston sy'n gyfrifol am sefydlu'r pantri gydag 20 aelod o staff. Fe fydd y pantri'n gweithredu o garej gwesty lleol.
![Lynne Colston](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0457/production/_125011110_mediaitem125011109.jpg)
Nid dim ond pobl heb waith sy'n ei chael hi'n anodd i brynu bwyd bellach, medd Lynne Colston
"Rydyn ni'n trio cael gwared ar y stigma sydd o gwmpas banciau bwyd a gwneud bwyd ar gael i bawb am brisiau isel iawn," meddai Ms Colston.
"Dw i ddim yn credu ein bod ni'n gwybod pwy yw'r bobl mwyaf tlawd bellach. Roedden ni fel arfer yn ystyried y bobl ar fudd-daliadau fel y rhai tlawd, ond nawr mae pobl sy'n gweithio hefyd yn stryglan."
'Ddim am i eraill wybod am eu problemau'
![Gardd Afon Gwreiddiau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5277/production/_125011112_mediaitem125011111.jpg)
Mae bwyd o ardd Afon Gwreiddiau yn cael ei werthu i bobl leol am bris isel
Mae Lowri Farnham yn wirfoddolwr sy'n gweithio yng ngardd Afon Gwreiddiau sy'n rhan o brosiect H Factor. Mae'r ardd yn tyfu bwyd sy'n cael ei gynnig i bobl leol am brisiau rhad iawn.
"Rydyn ni wedi siarad â rhai pobl yn y gymuned ac maen nhw'n teimlo siom o orfod mynd i'r banc bwyd, a dydyn nhw ddim am i bobl eraill yn y gymuned wybod am eu problemau.
"Ond mae hwn ar agor i bawb ac mae pobl yn gallu dod yma i fwynhau felly does yna ddim stigma."
![Lowri Farnham](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1518B/production/_125011468_mediaitem125011467.jpg)
Mae rhai yn y gymuned yn teimlo siom am ddefnyddio banc bwyd, medd Lowri Franham
"Gyda'r haf yn dod a phopeth yn tyfu mor gyflym, bydd siawns i bobl ddod i'r siop i bigo beth bynnag maen nhw eisiau.
"Ond hefyd os ydyn nhw'n sbïo ar rywbeth sydd yn yr ardd yna mae nhw'n gallu dod i bigo fe hefyd," meddai.
Tu hwnt i gynnig help i deuluoedd sy'n ei chael yn anodd fforddio bwyd, mae siop dros dro wedi agor yng nghanolfan siopa'r Cwadrant yn Abertawe.
Mae'n galluogi pobl i logi nwyddau i ddefnyddio o amgylch y tŷ ac ym mywyd bob dydd - er enghraifft, sugnwyr llwch, driliau a phramiau.
![Rebecca Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1036B/production/_125011466_mediaitem125011465.jpg)
Mae'r siop yn Abertawe yn galluogi pobl i gael nwyddau i'r tŷ heb boeni am gostau mawr, medd Rebecca Jones
Dywedodd Rebecca Jones, swyddog marchnata Cwadrant Abertawe: "Y peth yw, mae costau byw yn mynd lan gymaint, y peth pwysicaf i bobl yw eu bod nhw'n gallu talu'r rhent, neu'r morgais - neu eu bod nhw'n gallu bwydo'r teulu.
"Wedyn mae siop fel hyn yn gwneud e'n bosib i bobl wneud pethau i'r tŷ ac i'r ardd heb orfod poeni am gostau mawr upfront fel petai."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd1 Mai 2022