Cyrraedd Cwpan y Byd 'yn fwy i Gymru na dim ond pêl-droed'

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Anadolu Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd degau o filoedd o gefnogwyr Cymru i Ffrainc ar gyfer Euro 2016 - ond fydd 'na drip i Qatar eleni?

"Ni 90 munud o greu hanes, a ddim jyst mewn sense pêl-droed, ac mae'n deimlad aruthrol."

I Rhys Hartley, aelod selog o Wal Goch tîm Cymru, byddai trechu Wcráin ddydd Sul yn golygu llawer mwy na dim ond lle yng Nghwpan y Byd.

"Fi'n meddwl am wledydd sy'n llai na Chymru ac wedi chwarae yna, ac mae pawb wedyn yn gwybod lle maen nhw," meddai.

"Does dim ffordd well na Chwpan y Byd am roi gwlad fach fel Cymru ar y map."

Disgrifiad,

Mae gan Gymru barch at Wcráin, ond cyrraedd Cwpan y Byd yw'r flaenoriaeth, medd Ben Davies

Mewn un ffordd mae bwganod hanesyddol y tîm cenedlaethol wedi eu trechu'n barod.

Daeth cyfnod hirfaith Cymru yn anialwch pêl-droed rhyngwladol i ben gyda haf hudolus Euro 2016, a'r tîm yn cyrraedd y twrnament eto llynedd i ddangos nad oedd Ffrainc yn eithriad.

Ond mae'r rhestr o fethiannau torcalonnus wrth geisio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 yn un hirfaith, gan gynnwys dau ganlyniad poenus yn erbyn Yr Alban.

"Pan chi'n siarad i rai o'r cefnogwyr hŷn 'dyn nhw ddim yn gallu cael e mas o'u pennau nhw bod 'na ryw fath o curse arno ni, er bod ni 'di bod i ddau Ewros nawr," meddai Greg Caine, cynhyrchydd ffilm fer ddiweddar am ddiwylliant gefnogwyr pêl-droed Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

102 o gapiau, 38 gôl, dau Ewros - dim ond un peth sydd ar goll o CV rhyngwladol Gareth Bale, sef cyrraedd Cwpan y Byd

Roedd Dylan Ebenezer yn fyfyriwr coleg wrth wylio un o'r siomedigaethau enwocaf - y golled i Rwmania yn 1993 - ond mae treigl amser wedi lleddfu rywfaint ar y boen honno bellach.

"Dwi'n meddwl bod yr Ewros wedi gwneud gwahaniaeth enfawr - fi'n gallu gwylio cic o'r smotyn Paul Bodin dyddiau yma, lle do'n i ddim," meddai'r sylwebydd.

Gydag Wcráin yn wrthwynebwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul, mae emosiwn yr achlysur wedi ei ysgrifennu i mewn i'r stori'n barod.

Ond bydd rhaid i Gymru roi hynny i un ochr am 90 munud o leiaf, meddai Laura McAllister, a cheisio peidio gadael i hynny fynd yn ormod iddyn nhw.

"Mae'n achlysur anodd achos mae gan bawb lot o sympathy ac empathy gydag Wcráin," meddai cyn-gapten tîm merched Cymru.

"Ond gêm o bêl-droed yw e, ac ar ddiwedd y dydd mae lot o emosiwn gan dîm Cymru hefyd - dyma siawns ni i qualifyio.

"Y dasg i Rob Page yw canolbwyntio ar y gêm. Nid rhywbeth gwleidyddol fydd hwn."

Ffynhonnell y llun, Greg Caine
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Greg Caine yn un o'r miloedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Mawrth i weld Cymru'n curo Awstria yn y rownd gynderfynol

'Dangos ein hunaniaeth i'r byd'

Cafodd Cymru lwyfan rhyngwladol "fel erioed o'r blaen" yn Euro 2016, ac yn ôl Rhys Hartley byddai cyrraedd Cwpan y Byd "fel hynny x10".

Fe deithiodd i Gwpanau Byd Brasil 2014 a Rwsia 2018, gan fwynhau'r cyfle i gymysgu gyda chefnogwyr eraill o du hwnt i Ewrop.

"Roedd gweld cefnogwyr o Peru yn cymysgu gyda chefnogwyr Lloegr, cefnogwyr o wledydd Affrica, Japan, does 'na ddim teimlad fel e," meddai.

"Ac i ni sydd 'di bod yn dilyn Cymru ar draws y byd, ni'n gwybod mai hwn yw'r holy grail, a dangos pwy y'n ni fel cefnogwyr drwy gael hwyl gyda phobl o bob cwr o'r byd."

Ffynhonnell y llun, Rhys Hartley
Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd Rhys Hartley a'i dad Tim i Frasil yn 2014 i wylio Cwpan y Byd

Bydd enillwyr y ffeinal ddydd Sul yn canfod eu hunain mewn grŵp gyda Lloegr, UDA ac Iran yn y twrnament yn Qatar ddiwedd y flwyddyn - ac mae Greg Caine yn cyfaddef y byddai wedi hoffi herio tîm o Dde America neu Affrica yn lle hynny.

Ar y llaw arall, meddai, gallai wynebu ein cymdogion agosaf fod yn gyfle i ddangos i'r byd "bod Cymru'n wahanol" i Loegr.

"Bydd gyda chi God Save The Queen, ac wedyn ni'n gweiddi ein hanthem ein hunain yn ein hiaith ni," meddai.

"O'r holl bobl nes i siarad gyda ar gyfer y rhaglen ddogfen, a sgyrsiau am yr iaith a hunaniaeth, mae pêl-droed yn gallu dangos hynny fwy na dim.

Ffynhonnell y llun, Greg Caine
Disgrifiad o’r llun,

Greg Caine yn holi un o selogion y Wal Goch, Leigh James, ar gyfer rhaglen 'The Welsh Football Revolution' i sianel YouTube Copa90

"Bydd canu'n hanthem ni mewn Cwpan y Byd yn arbennig am gymaint o resymau, ond peth mawr o hwnna fydd pobl o bob rhan o'r byd yn gwylio a meddwl, 'O'n i'n meddwl bod diwylliant Cymru jyst fel Lloegr, neu'n debyg iawn, ond maen nhw'n canu yn eu hiaith eu hunain, maen nhw'n wlad wahanol'.

"A dwi'n meddwl bod hynna'n bwysig."

Lle ar y llwyfan mwyaf

Cafodd Dylan Ebenezer flas o'r carnifal cyfryngol yn ystod Euro 2016, ac mae'n grediniol y byddai'r sylw ar Gymru cymaint yn fwy petawn nhw'n cyrraedd Qatar.

"Roedd trucks a chriwiau cynhyrchu o bedwar ban byd yna, ac Ewros oedd hwnna. Felly mae meddwl amdano fe yn nhermau Cwpan y Byd yn rhywbeth arall," meddai.

"Erbyn gêm Gwlad Belg roedd pawb arall o Brydain mas, dim ond ni oedd 'na, roedd mwy o trucks, mwy o ddarlledwyr, pobl o America, pobl o'r Dwyrain Pell, ac erbyn y rownd gynderfynol... o'n i'n ffaelu credu'r peth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Ebenezer yn sylwebydd pêl-droed adnabyddus ar raglenni fel Sgorio, yn ogystal â chyflwyno rhaglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru

Fel rhywun sydd wedi teithio Ewrop a thu hwnt yn ei gwahanol rolau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac UEFA, mae Laura McAllister yn gyfarwydd â'r cyfleoedd hefyd am "ddiplomyddiaeth meddal" i wledydd bychan sy'n canfod eu hunain mewn twrnament nawr.

"Mae'r goblygiadau'n massive achos dyma'r llwyfan chwaraeon mwyaf yn y byd, dyma'r llwyfan mae pawb yn y byd yn gwylio, a lot o fusnes yn cael ei wneud," meddai.

"Mae pawb yn mynd i Qatar a siarad yn y margins, ac mae'n step lan o'r Ewros, a dyna beth mae rhai pobl ddim yn ddeall - dyna pam mae mor bwysig i Gymru qualifyio."

Dydy'r sgyrsiau gwleidyddol ddim yn digwydd tu ôl i ddrysau caeedig yn unig, fodd bynnag, gyda beirniadaeth gyson wedi bod dros y blynyddoedd am record Qatar ar hawliau dynol ac LHDT+ ymhlith materion eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Yn 2021 daeth Laura McAllister o fewn chwe phleidlais i gael ei hethol fel cynrychiolydd merched UEFA ar Gyngor FIFA

Gallai hynny olygu bod rhai cefnogwyr yn amheus o deithio i'r wlad ar gyfer y twrnament, ond fyddai Rhys Hartley ddim yn un ohonyn nhw.

"Fi yn barod wedi bod i China, Rwsia, Israel i wylio Cymru, felly nes i golli'r ddadl wleidyddol sbel yn ôl yn enw dilyn Cymru!" meddai.

"Ond fi'n deall bod rhai pobl yn pryderu, ac mae'r ffaith bod Qatar yn defnyddio Cwpan y Byd i 'neud y sportswashing yma yn broblem fawr.

"Mae cwestiynau i FIFA, y chwaraewyr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru i'w hateb, ac i wneud safiad yn erbyn y ffaith bod hawliau dynol ddim yn cael eu parchu."

Disgrifiad,

"Fydd gweddill y byd eisiau i Wcráin ennill, wrth gwrs, 'dan ni'n deall hynny," meddai Iwan Roberts

Gêm fwyaf yn ein hanes?

Ai buddugoliaeth ddydd Sul i gyrraedd Cwpan y Byd fyddai'r canlyniad mwyaf yn hanes pêl-droed Cymru, felly - gwell hyd yn oed na churo Gwlad Belg yn Ewro 2016?

"I fod yn onest, na," meddai Greg Caine, ar ôl petruso.

"Mae rhai'n dweud mai hwn yw'r gêm fwyaf yn hanes y tîm, ond fi'n ffeindio fe'n anodd dweud bod play off yn fwy na gêm mewn twrnament."

Laura McAllister ydy'r unig un sydd ag ateb yn syth.

"Yn bendant," meddai, "am reswm reit syml.

"Dyma siawns i ni fod yn rhan o'r parti mwyaf yn y byd, a pharti busnes a gwleidyddol, nid jyst parti chwaraeon. I fi, dyma'r gêm bwysicaf."

Ffynhonnell y llun, Rhys Hartley
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Hartley (canol) a'i ffrindiau yn mwynhau cwmni cefnogwyr Y Swistir yn ystod Euro 2020 yn Baku, Azerbaijan

Gallai'r gêm hefyd fod yn benllanw i yrfaoedd rhyngwladol sawl un o genhedlaeth aur Cymru, gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen, Wayne Hennessey a Chris Gunter.

"Mae e unai'r gêm fwyaf iddyn nhw, neu'r gêm olaf i lawer ohonyn nhw - mae mor fawr â hynny," meddai Dylan Ebenezer.

"Mae 'na wir deimlad o gwmpas y lle, os nad y'n ni yng Nghwpan y Byd, bod llawer yn mynd i ddweud, 'na ni, digon yw digon.

"Ac os ydyn nhw, am daith maen nhw wedi ei roi i ni."

Ond mae Rhys Hartley yn dawel hyderus nad dyma fydd diwedd y siwrne.

"Ni heb golli adref ers 2018 ac mae'r Wal Goch yn hybu awyrgylch sy'n helpu'n chwaraewyr ni - mae hwnna'n fantais enfawr," meddai.

"Felly gobeithio defnyddio pob un peth i'n mantais ni, a gobeithio ddown ni mas yr ochr arall.

"Gewn ni fyth gyfle cystal â hwn, fi'n credu."