Cynllun i wneud Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030
- Cyhoeddwyd
Gobaith cynllun newydd sy'n cael ei gyhoeddi gan y llywodraeth ddydd Mawrth yw y bydd Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030.
Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru yn cynnwys camau penodol o fewn y llywodraeth i ganolbwyntio'n benodol ar adnabod a "mynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig" erbyn 2024.
Ymhen dwy flynedd, fe fydd y cynllun yn cael ei adolygu i weld pa fath o effaith mae'n ei gael.
Mae cymunedau ac unigolion ledled Cymru wedi cael cyfle i rannu eu profiadau o hiliaeth, ac i ddweud pa fath o newidiadau hoffen nhw ei weld yn digwydd.
'Hiliaeth ar y stryd'
Mae Saadia Abubaker, 20 o Abertawe, wedi cyfrannu at y cynllun trwy gasglu a chynrychioli barn pobl ifanc.
Mae hi'n dweud ei bod hi wedi dioddef o hiliaeth tra roedd hi yn yr ysgol, ac roedd pobl yn gweiddi sylwadau hiliol ati yn y stryd.
"Roedd pobl yn rhegi ataf," dywedodd, "doedd athrawon ddim yn ynganu fy enw yn gywir.
"Cyn gynted ag y nododd un o'r athrawon bod gen i enw o dramor, fe benderfynodd pobl nad oedden nhw'n gallu ei ynganu."
Mae'r cynllun wedi'i lunio gan grŵp dan gadeiryddiaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd, a phrif was sifil Cymru, Dr Andrew Goodall.
Yn ôl yr awduron, mae cynlluniau yn y gorffennol wedi treulio gormod o amser yn canolbwyntio ar geisio "trwsio unigolion neu gymunedau o leiafrifoedd ethnig" yn hytrach na "thrwsio systemau sydd wedi methu."
Mae gweinidogion wedi'u hymrwymo i sicrhau bod na "adnoddau addas" ar gael ym mhob un o adrannau llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun.
Mae cynlluniau wedi'u llunio i ddelio â hiliaeth mewn gwahanol feysydd gan gynnwys:
hiliaeth mewn bywyd bob dydd tra'n derbyn gwasanaethau,
yn y gweithle,
wrth chwilio am swyddi,
diffyg pobl o gefndiroedd gwahanol mewn swyddi dylanwadol
a'r profiad o hiliaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Cafodd y cynllun ei ddatblygu yn sgil marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau, ac effaith y pandemig ar gymunedau o leiafrifoedd ethnig.
Yn ôl Maria Monstanza Mesa, cyfarwyddwr yr elusen Women Connect First, sy'n ceisio hybu cyfleoedd i fenywod du ac o leiafrifoedd ethnig, mae angen cadw llygad dros y blynyddoedd nesaf i weld a oes 'na newid yn digwydd.
"Mae cymunedau BAME yn dioddef o wahaniaethu mewn sawl rhan o fywyd - mewn gwaith, iechyd ac addysg," meddai.
"Rydyn ni'n fwy tebygol o farw tra'n feichiog neu wrth rhoi genedigaeth. Mae'r bwlch rhwng cyflogau menywod gwyn a du yn sylweddol."
'Tegwch'
Dywedodd y gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, Jane Hutt: "Rydyn ni'n benderfynol o sicrhau nad dim ond ymarferiad o ddweud y peth cywir yw hwn, mae'n gynllun i weithredu dros gymunedau o leiafrifoedd ethnig.
"Dyna pam mae ganddom ni nodau ac amcanion penodol, o ran gweithredoedd mewnol llywodraeth Cymru, ac o ran ein newidiadau polisi uchelgeisiol.
"Fe fydd y cynlluniau hyn yn cynorthwyo i hybu marchnad swyddi decach, system addysg ac hyfforddiant tecach, a sicrhau cyfleon iechyd mwy cyfartal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2021
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020