Eisteddfod Llangollen 1947: Oeddech chi yno?
- Cyhoeddwyd
Mae gan Moira Humphreys, 92 oed, atgofion melys o gystadlu yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn 1947.
Er mwyn nodi 75 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf, mae Moira yn arwain ymgyrch i ddod o hyd i bobl wnaeth gystadlu yn 1947.
"Dwi'n siŵr fydd na neb hŷn na fi, dyna sefyllfa heddiw, ond dwi yma o hyd, felly fe gawn ni weld," meddai Moira o Goedpoeth ger Wrecsam ar raglen Bore Cothi, BBC Radio Cymru.
Yn ei harddegau oedd Moira yn 1947 pan fu'n aelod o Gôr Ieuenctid Coedpoeth. Sefydlwyd yr Eisteddfod fel gŵyl i hybu heddwch yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Eglura Moira: "Oedd 'na ddyn o Goedpoeth wedi bod i'r Eisteddfod Genedlaethol, toc wedi'r rhyfel wrth gwrs, ac oedd o'n meddwl, fasa fo'n neis tasa pawb yn canu, ond oedd y Genedlaethol jest yn canu yn Gymraeg. Felly aeth Harold Tudor i Langollen i weld W.S Gwynn Williams - oedd o ar y pwyllgor cyfieithu ac yn ymwneud â phethe mewn gwahanol ieithoedd - a ddaru o gymryd at y syniad o Eisteddfod Llangollen a dyna lle ddaru o ddechre.
"Wedyn wrth gwrs, ar ôl y rhyfel roedd pobl wedi bod yn gwneud cysylltiad efo gwledydd eraill a dyna sut ddaru'r holl beth international ddechre."
Atgofion Moira
Teithiodd perfformwyr o saith gwlad dramor i Langollen ar gyfer yr ŵyl agoriadol yn 1947, gyda thua 27 o gorau o Gymru, Lloegr a'r Alban.
Ddegawdau'n ddiweddarach mae mwy na 400,000 o gystadleuwyr o 140 o genhedloedd wedi perfformio ar y llwyfan byd enwog.
Brith yw cof Moira o'r Eisteddfod gyntaf un 75 o flynyddoedd yn ddiweddarach: "Dwi ddim yn cofio lot ond oedd o'n lot llai nag ydy o heddiw, oedd pobl yn siarad Saesneg rhan fwyaf a doedd dim llawer o bobl o wledydd eraill. Wnaeth hynny dyfu dros y blynyddoedd.
"Doedd 'na ddim bricks a mortar a phethe felly, mae wedi tyfu o sut oedd pethe o'r dechre wrth gwrs, un peth ar ôl y llall, fel mae popeth arall yn tyfu."
Dros y saith degawd dilynol parhaodd Moira i fynychu'r Eisteddfod, gan ymuno â'r fyddin o wirfoddolwyr y tu ol i'r llenni a gweithio gyda'r tîm lletygarwch i ddod o hyd i lety lleol i gystadleuwyr tramor, ac yn fwy diweddar bu'n helpu i groesawu ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd y maes.
"Dwi'n cofio un flwyddyn, ddaru rhywun o Lesotho aros yn Coedpoeth a ddaru ni gael mynd yno ar wyliau wedyn, oedd o'n bitiwffwl," meddai Moira.
"Dwi wedi bod i'r Almaen hefyd ar ôl i mi ffeindio llety i Almaenwyr oedd yn dod i Langollen. Oedden ni mor falch o'u gwadd a'u croesawu nhw a nhw mor falch o'n gwadd ni.
"Pan oedd pobl o dramor yn aros yn Coedpoeth bydden ni'n dal y bws efo nhw i Langollen, bwydo nhw a dod â nhw adre i gysgu. Oedd pobl y pentre yn edrych ymlaen at eu cael nhw, a mynd i'r Paris Hall i gael nhw yn canu i ni, a ni yn canu iddyn nhw. Oedd y cysylltiad mor glos a lyfli."
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2022
Eleni, mae maes Eisteddfod Llangollen yn dychwelyd rhwng 7-10 Gorffennaf. Gohirwyd yr ŵyl yn sgil y pandemig yn 2020 a bu'n rhaid cynnal gŵyl rithiol yn 2021.
Mae Moira yn edrych ymlaen at fynd i'r Eisteddfod eleni yng nghwmni ei merch, ac er na fydd hi'n cystadlu flwyddyn yma fel y gwnaeth hi'n 1947, bydd hi dal yn cael ei gwobrwyo.
Mae'n fwriad gan drefnwyr yr Eisteddfod i gyflwyno medalau coffa i Moira a'i chyd-gystadleuwyr o 1947 i nodi 75 mlynedd ers yr ŵyl gyntaf.
Gobaith Moira yw y bydd rhai o gystadleuwyr Eisteddfod 1947 yn bresennol: "Byddai'n braf gwybod bod yna hen gystadleuwyr fel fi dal allan yna. Mae'n syniad mor braf eu cydnabod ym mlwyddyn y dathliad yma."
Os ydych chi yn adnabod unrhyw un wnaeth gystadlu yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn 1947 cysylltwch â'r Eisteddfod neu BBC Cymru Fyw.
Hefyd o ddiddordeb: