Gwadu preifateiddio canolfan Plas Menai ger Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Plas MenaiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi a gweithgareddau awyr agored

Mae Chwaraeon Cymru wedi gwadu bod eu canolfan gweithgareddau awyr agored ger Caernarfon yn cael ei "breifateiddio" ar ôl pryderon gan undeb.

Fe agorodd Plas Menai, neu Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, yn 1983 gan gynnig cyrsiau, gweithgareddau dyddiol a hyfforddiant personol mewn amrywiol weithgareddau, o hwylio i hwylfyrddio a beicio mynydd.

Chwaraeon Cymru - y corff cenedlaethol ar gyfer datblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol - sy'n rhedeg y ganolfan ar hyn o bryd.

Ond mae undeb y PCS yn dweud fod tendr i apwyntio "partner gweithredu" wedi cael ei lansio fis Ionawr er mwyn cymryd rheolaeth o'r safle a chyflogi'r staff.

Mae Chwaraeon Cymru yn dweud eu bod am weithio â chyrff eraill er mwyn i'r ganolfan dyfu a datblygu, ac y bydd telerau ac amodau'r staff yn cael eu gwarchod.

Gwasanaeth o ansawdd

Yn ôl swyddog cenedlaethol PCS Cymru, Darren Williams, mae eu haelodau ym Mhlas Menai yn weithwyr â sgiliau medrus arbenigol, sy'n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i'r cyhoedd.

"Maen nhw yn fwy na bodlon bod Chwaraeon Cymru yn chwilio am ffyrdd o wella'r ganolfan a hyd yn oed gwneud defnydd o arbenigwyr allanol ar gyfer hynny," meddai.

"Ond dydyn nhw ddim am i'r adnodd unigryw yma - na'u swyddi - gael eu trosglwyddo i ddarparwr newydd a allai fod yn rhoi elw o flaen unrhyw addewid i'r cyhoedd ac ymarferiad cyflogaeth teg.

"Fel undeb, dydyn ni ddim yn fodlon gweld ein haelodau yn wynebu dyfodol ansicr."

Mae'r Aelod Senedd Plaid Cymru dros Arfon, Sian Gwenllian, yn dweud ei bod yn rhannu pryderon yr undeb.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sian Gwenllian, mae angen diogelu gwaith staff lleol a'r defnydd o'r Gymraeg

"Dwi wedi codi'r pryderon am y newidiadau arfaethedig ym Mhlas Menai gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a dwi'n galw arni i ddod â'r broses ddiweddara' i ben a allai arwain at breifateiddio rheolaeth y ganolfan," meddai.

"Fe fyddai hyn yn mynd yn groes i fuddiannau defnyddwyr lleol, y gweithlu lleol a'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

"Mae angen i Chwaraeon Cymru weithio gyda'r gymuned leol i ganfod atebion ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

"Dyma ganolfan sydd yn adnodd arbennig yn lleol ac yn genedlaethol, ond mae'r gogledd-orllewin yn eilbeth i feddylfryd canoli popeth yng Nghaerdydd ac mae angen i'r gweinidog sicrhau oedi'r broes cyn y bydd y penderfyniad niweidiol a hynod ddadleuol yn dwyn ffrwyth."

'Lles ein staff ydy ein blaenoriaeth'

Ond dywedodd llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru mai'r bwriad yw i weithio gyda sefydliadau eraill a allai gynorthwyo'r ganolfan i ddenu mwy o bobl a gwarchod swyddi ar gyfer y dyfodol.

"Lles ein staff ydy ein blaenoriaeth a byddwn yn parhau i fod yn agored a thryloyw yn ein ffordd o weithredu drwy gydol y broses o adnabod sefydliadau addas i ffurfio partneriaeth gyda Chanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru ym Mhlas Menai," meddai.

"Dydy'r ganolfan ddim yn cael ei phreifateiddio a bydd yn parhau o dan berchnogaeth Chwaraeon Cymru.

"Ein hamcan ydy sicrhau bod 'na ddyfodol hir dymor cynaliadwy i Blas Menai, ar gyfer darparu cyfleoedd i bobl fwynhau'r adnodd pwysig yma, cynnal swyddi yn y ganolfan yn ogystal â diogelu amodau gwaith y staff.

"Rydym yn edrych ar sefydlu partneriaeth gyda sefydliad a fydd yn cyd-fynd â'n diwylliant a'n gwerthoedd, yn dod â sgiliau angenrheidiol sy'n cydweddu yn ogystal â bod enw da ac effaith Plas Menai yn ehangu."

Pynciau cysylltiedig