Merch, 4, yn yr ysbyty ar ôl cael ei tharo gan gar

  • Cyhoeddwyd
Heol Waun Wen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Waun Wen am tua 11:45 ddydd Iau

Mae merch bedair oed yn derbyn triniaeth am anafiadau sy'n peryglu ei bywyd wedi iddi gael ei tharo gan gar yn Abertawe ddydd Iau.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta gwyn a'r plentyn ar Heol Waun Wen yn ardal Mayhill am tua 11:45.

Fe gafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle mae hi'n derbyn triniaeth.

Cafodd dyn 24 oed oedd yn gyrru'r car ei arestio, ac mae bellach wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu De Cymru'n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig