Teyrnged i 'arwr' wnaeth foddi wrth achub plant yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhannu gan deulu tad 47 oed wnaeth foddi wrth achub plant yn Sir Benfro.
Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed Powys eu galw tua 20:40 nos Wener i draeth Poppit Sands ger Llandudoch yn dilyn adroddiadau bod grŵp o blant wedi mynd i drafferthion oherwydd y llanw.
Yn ôl yr heddlu, roedd Hywel Morgan neu "Hyw" i'w deulu a ffrindiau, wedi mynd i helpu'r plant oedd mewn trafferth.
Bu farw Mr Morgan ar ôl cael ei achub o'r môr.
Cafodd dau o blant eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod Mr Morgan yn "dad ffyddlon a chariadus" ac yn "arwr".
"Er gwaethaf ein poen a'n galar, mae'n rhoi cysur i ni ei fod - yn anhunanol - wedi ceisio atal eraill rhag colli eu bywydau.
"Roedd Hyw yn unigolyn anhunanol oedd wastad yn rhoi o'i amser i eraill. Roedd e'n dad ffyddlon a chariadus, roedd gan bawb barch tuag ato ac roedd pawb yn ei garu."