Ymdrech dyn fu farw wrth achub plant yn 'gwbl arwrol'
- Cyhoeddwyd
Mae person oedd ar draeth Poppit Sands pan wnaeth dyn, 47, foddi wrth achub plant o'r môr wedi disgrifio ei ymdrechion fel "cwbl arwrol".
Bu farw Hywel Morgan, neu "Hyw" i'w deulu a ffrindiau, ar ôl cael ei dynnu o'r môr ger Llandudoch nos Wener, 10 Mehefin.
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, fe aeth Mr Morgan i'r dŵr i geisio achub grŵp o blant a gafodd eu dal gan y llanw.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod bachgen 11 oed wedi ei achub ond bod nofiwr - sef Mr Morgan - wedi marw.
Dywedodd llygad dyst, Millie Cook, ei fod wedi "rhoi ei fywyd i achub eraill".
Dywedodd RNLI Poppit mewn datganiad eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau o berson ar fwrdd syrffio bach (bodyboard) a nofiwr mewn trafferth yn y dŵr ger traeth Poppit Sands tua 19:00 nos Wener.
Cafodd dau gwch eu hanfon o'r orsaf ac fe gafodd y person ar y bwrdd syrffio bach ei achub.
Fe wnaeth y bad achub ddychwelyd i geisio achub y nofiwr o'r môr gyda hofrennydd Gwylwyr y Glannau wrth law.
Ond, fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys fod y nofiwr wedi marw ar ôl cael ei dynnu o'r môr.
Mae'r gymuned leol a theulu Mr Morgan wedi talu teyrnged i "arwr".
"Er gwaethaf ein poen a'n galar, mae'n rhoi cysur i ni ei fod - yn anhunanol - wedi ceisio atal eraill rhag colli eu bywydau," dywedodd ei deulu mewn datganiad.
Dywedodd y cynghorydd tref yn Aberteifi a ffrind i Mr Morgan, Philippa Noble, bod ganddi "atgofion da iawn" ohono ers iddyn nhw adnabod ei gilydd yn blant.
"Bob amser yn gwenu, wastad ag amser am sgwrs... dw i ddim wedi fy synnu o gwbl fod Hyw wedi rhoi ei hunan mewn perygl er mwyn helpu plant mewn trafferth.
"Er ein bod ni fel tref yn galaru, ry'n ni'n hynod o falch ohono."
Dywedodd ffrind i Mr Morgan, Matthew Mitchell, ei fod yn "barod i helpu unrhyw un".
"Gallech chi fynd ato gydag unrhyw fath o broblem, unrhyw fater," meddai.
"Roedd o hyd yn mynd allan o'i ffordd i helpu eraill. Os oedd rhywun mewn trafferth, mi fyddai'n gwneud beth bynnag oedd o fewn ei allu i helpu.
"Roedd yn hynod o alluog, doedd dim byd nad oedd yn medru ei wneud.
"Roedd pawb yn adnabod ei wyneb, os nad wrth ei enw ac yna wrth ei enw da oherwydd roedd mor adnabyddus ac roedd ganddo bersonoliaeth mor groesawgar.
"Mae pobl wedi bod yn torri eu calonnau oherwydd roedd yn rhan mor fawr o'r gymuned. Pwy bynnag oedd yn ei adnabod, roedd yn rhan anferth o'u bywydau."
Ychwanegodd cyfaill arall iddo, Michael Roberts: "Roedd e'n ddyn oedd yn adnabod ei dir, yn ddyn oedd yn adnabod yr ardal, roedd yn adnabod y môr hefyd felly mae clywed mai dyna sut mae e wedi marw yn sioc fawr.
"Pan glywais y newyddion, meddyliais fod rhywbeth mawr wedi mynd o'i le a bod Hywel wedi trio helpu gyda hynny.
"Dyna sut ddyn oedd e. Roedd yn byw i bobl eraill
"Mae e'r math o berson oedd yn un o fil, felly mae gwagle mawr ar ei ôl."
Mae ffrind i Mr Morgan wedi ei ddisgrifio fel person "galluog" a "doeth tu hwnt".
"Roedd yn hynod o alluog ac yn beiriannydd anhygoel", meddai ei ffrind Matthew Mitchell.
"Treuliais lawer o amser gyda fe gan fod ganddo fe weithdy y drws nesaf i fi.
"Byddai'n gwrando ar eich problemau. Byddai'n dweud wrthoch chi beth oedd angen i chi glywed, nid yr hyn oeddech chi eisiau ei glywed. Roedd ganddo gyfoeth o wybodaeth."
'Cymeriad'
Ychwanegodd y cynghorydd tref lleol, Clive Davies, y bydd Mr Morgan yn cael ei golli'n fawr gan bobl Aberteifi.
"Doeddwn i ddim yn ei adnabod yn dda iawn, ond yn ddigon da i ddweud yr oedd e'n gymeriad hyfryd - tipyn o gymeriad yn Aberteifi.
"Roedd yr ymdrech hon yn gwbl nodweddiadol ohono - anhunanol. Mae'n drasiedi gwirioneddol a bydd yn cael ei golli gan gymaint o bobl yn y dref."
Roedd baner gorsaf RNLI Poppit ar hanner mast ddydd Sul wrth i'r gymuned alaru a chofio am Hywel Morgan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2022