Paent wedi ei daflu eto dros gofeb Hedd Wyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu alwad am y difrod fore Sul
Mae yna sioc a thristwch yn Nhrawsfynydd ar ôl i rywun daflu paent llwyd dros gofeb Hedd Wyn yn y pentref.
Cafodd bag plastig ei rwymo o amgylch gwddf y cerflun o'r bardd, ac roedd paent hefyd wedi ei daflu ar ei droed a'r geiriau oddi tano.
Fe wnaeth yr heddlu dderbyn galwad ychydig cyn 11:00 fore Sul am y difrod.
Dyma'r ail ddigwyddiad o'r fath yn y 10 mis diwethaf.

Un sydd wedi gwylltio am y digwyddiad ydy'r Cynghorydd Helen Wyn Jones, sy'n aelod o Gyngor Cymuned Trawsfynydd ac yn gweithio yn yr Ysgwrn, sef cartref Hedd Wyn.
"Mae'n gywilyddus ac yn dangos diffyg parch... galla i ddim disgrifio i chi fel dwi'n teimlo," meddai.
"Mae pobl wedi ypsetio."

Mae'r Cynghorydd Helen Wyn Jones yn gweithio yng nghartref y bardd, Yr Ysgwrn
Mae'r cynghorydd Elfed Roberts, sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd, hefyd yn siomedig iawn am y digwyddiad.
"Dwi'n teimlo tristwch dros y gymuned. Fandaliaeth pur ydy rhywbeth fel hyn," meddai.
"Mae gennym ni CCTV felly dwi'n gobeithio allwn ni ddal pwy bynnag sydd wedi gwneud hyn."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw wrth i'w ymholiadau barhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2021
- Cyhoeddwyd6 Medi 2021