Mast ffôn yn troi'r gwynt yn signal yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mast ffôn yn troi'r gwynt yn signal yn Sir Benfro

Fe allai cynllun peilot arloesol yn Sir Benfro arwain at wella signal ffonau symudol ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae mast ffôn newydd yn Eglwyswrw sydd yn cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy, ac yn darparu signal 4G i'r ardal.

Does dim angen cysylltu'r mast i'r grid cenedlaethol, ac yn ôl Vodafone mae hynny yn golygu na fydd angen palu ffosydd na gosod ceblau trydan.

Dywed llefarydd ar ran y cwmni y bydd hyn yn "help enfawr i'r amgylchedd yn lleol" a'i fod yn "llai niweidiol i fywyd gwyllt" gan ei bod hi'n hawdd iawn i adar ac ystlumod ei osgoi.

Mae'r AS Ceidwadol lleol Paul Davies wedi disgrifio'r cynllun peilot fel un "cyffrous allai olygu newid mawr o ran taclo problem dim signal ffôn mewn ardaloedd fel Eglwyswrw", ac mae yn dweud ei fod yn "falch iawn fod Sir Benfro yn arwain y ffordd yn y datblygiad yma".

'Signal ffôn yn fater o gydraddoldeb'

Ffynhonnell y llun, Alex Viner, Vodafone
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw i'r cynllun arwain at wella signal ffôn symudol ar draws y DU

Fe fydd y mast yn gallu cynhyrchu ynni hyd yn oed os yw'r gwynt yn ysgafn iawn.

Bwriad y cwmni yw astudio pa mor effeithiol yw'r datblygiad - a faint o bŵer y bydd gwynt, yr haul a batri yn gallu ei gynhyrchu - cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen i ddefnyddio mastiau tebyg mewn ardaloedd eraill.

Mewn arolwg y llynedd gan ffederasiwn Sefydliad y Merched ar y cyd ag undebau amaeth FUW ac NFU Cymru a'r CLA, dywedwyd fod bwlch enfawr rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol o ran argaeledd a sefydlogrwydd signal ffôn symudol.

Ffynhonnell y llun, Alex Viner, Vodafone
Disgrifiad o’r llun,

Gall y mast greu signal hyd yn oed os yw'r gwynt yn ysgafn

Dywedodd Eirian Roberts, cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru: "Rydym yn croesawu unrhyw gyfleoedd i wella signal ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig.

"Mae'n angenrheidiol, ac yn fater o gydraddoldeb, bod pawb yn medru dibynnu ar signal ffôn dibynadwy ble bynnag maent yn byw.

"Byddwn yn dilyn y cynllun peilot hwn gyda diddordeb."

Mewn ymateb, dywedodd Elinor Williams, pennaeth materion rheoleiddiol Ofcom Cymru: "Er bod signal ffôn symudol wedi gwella, mae yna ardaloedd sydd dal yn wynebu heriau o ran darpariaeth, felly, mae'n bositif gweld cynlluniau ar waith i fynd i'r afael â hyn.

"Mae Ofcom yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant symudol ar sicrhau bod y Rhwydwaith Wledig a Rennir yn gwella darpariaeth ffôn symudol ar draws y DU."

Yn ôl Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething mae Llywodraeth Cymru "yn benderfynol i helpu meithrin a chynhyrchu swyddi cynaliadwy o fewn diwydiannau'r dyfodol".

Dywedodd y gweinidog fod potensial y system i gyflenwi ynni "cost isel, gwyrdd a hygyrch" yn gyffrous.

"Mae hyn yn ddatblygiad hynod ddiddorol yn nhermau cynhwysiant digidol, yn ogystal â mastiau cost isel ar gyfer ffonau symudol sydd ddim angen cael eu cysylltu i'r grid pŵer, allai arwain at ddarpariaeth gynyddol mewn ardaloedd gwledig."

Pynciau cysylltiedig