Teyrnged i yrrwr fan 'caredig' fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu gyrrwr fan fu farw yn dilyn gwrthdrawiad â char ger ffin Sir Wrecsam â Lloegr wedi ei ddisgrifio fel "caredig a hael".
Bu farw Lee Pemberton, 44, o Rosllannerchrugog mewn gwrthdrawiad ar yr A525 ger y gyffordd ar gyfer yr A539 i gyfeiriad Hanmer ychydig cyn 18:00 nos Sul.
Dywed yr heddlu mai fan Ford Transit gwyn a char Ford Focus coch oedd yn y gwrthdrawiad a bod Mr Pemberton, oedd yn gyrru'r fan, wedi marw yn y fan a'r lle.
Dywedodd teulu Mr Pemberton mewn datganiad fod y tad i bedwar yn "llawn egni".
'Helpu eraill cyn ei hun'
"Roedd Lee a'i bartner Gemma wedi dathlu genedigaeth eu plentyn cyntaf gyda'i gilydd yn ddiweddar - Raya-Mae, sydd ond yn naw wythnos oed.
"Roedd yn eithriadol o garedig a hael, a wastad yn llawn egni.
"Fe roddodd lawer o'i amser i'w deulu a'i ffrindiau, ac roedd wastad yn helpu eraill cyn ei hun. Roedd wir ganddo galon dda."
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad, ac yn arbennig o awyddus i glywed gan yrrwr arall oedd yn yr ardal ar y pryd.
"Ychydig cyn y gwrthdrawiad rydym yn credu bod car lliw glas, BMW neu gar tebyg o bosib, oedd yn teithio o gyfeiriad Whitchurch tua Bangor Is-coed, wedi gorfod cymryd mesurau osgoi wedi i'r fan ddod gyferbyn ato," meddai'r Sarjant Meurig Jones o'r Uned Plismona'r Ffyrdd.
"Dwi'n apelio ar yrrwr y cerbyd hwnnw i gysylltu efo ni er mwyn ein helpu gydag ein hymchwiliad sy'n parhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2022