Carchar i ddyn wnaeth ddifrod i ganolfannau brechu Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Paul EdwardsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn a wnaeth ddifrod i ddau ganolfan frechu Covid-19 yn y gogledd wedi ei ddedfrydu i 21 mis mewn carchar.

Cafodd Paul Edwards, 58 o Warrington, ei arestio gan Heddlu Gogledd Cymru fis Rhagfyr y llynedd ar ôl torri ffenestri canolfannau yn Llandudno a Llanelwy.

Clywodd y llys yn Yr Wyddgrug ddydd Iau fod Mr Edwards wedi achosi gwerth £11,000 o ddifrod trwy daflu cerrig.

Fe gafodd un swyddog diogelwch ei anafu gan wydr.

Dywedodd y barnwr, Rhys Rowlands, fod ymddygiad ac agwedd Mr Edwards yn "drahaus ac yn ddybryd".

"Dydych chi ddim wedi dangos unrhyw fewnwelediad i'r niwed mae'ch ymddygiad wedi ei achosi, neu'r potensial iddo achosi, i unigolion bregus," dywedodd y barnwr.

"Roeddech chi'n bwriadu torri i mewn i'r safleoedd ac achosi llawer yn rhagor o ddifrod."

Fe ddywedodd Mr Edwards ei fod yn ceisio rhwystro gwasanaethau yn y canolfannau gan fod y rhaglen frechu yn "peryglu'r cyhoedd".