Hedfan claf i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
ambiwlans awyr

Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw toc cyn 13:00 ddydd Iau.

Yn fuan wedi hynny, cafodd ambiwlans awyr ei anfon ac mae'r claf wedi ei gludo i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Does dim mwy o fanylion am gyflwr yr unigolyn ar hyn o bryd.

Pynciau cysylltiedig