Cofio'r Cymry fu farw yn ystod Rhyfel y Falklands
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiadau wedi cael eu cynnal yng Nghaerdydd i nodi union 40 mlynedd ers diwedd Rhyfel y Falklands ac i goffáu'r unigolion na ddychwelodd i Gymru nôl yn 1982.
Cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal nos Iau yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac yn gynharach yn y dydd fe gafodd torchau o flodau eu gosod ger Cofeb y Falklands ym Mharc Cathays.
Cafodd bron 1,000 o unigolion eu lladd yn ystod dau fis a hanner o frwydro - 250 yn aelodau o'r tasglu a anfonodd llywodraeth Margaret Thatcher 8,000 o filltiroedd i Dde'r Iwerydd i amddiffyn Ynysoedd y Falklands wedi ymosodiad gan yr Ariannin.
Fe gollodd y Gwarchodlu Cymreig fwy o aelodau nag unrhyw gatrawd Prydeinig arall - bu farw 32 o'i milwyr ar long y Sir Galahad pan gafodd honno ei bomio yn ystod y rhyfel.
Fe wnaeth perthnasau'r meirw a chyn gyd-filwyr osod torchau er cof amdanyn nhw yn y digwyddiad cyntaf ddydd Iau.
Cafodd y Caniad Olaf ei chwarae ac roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a chynrychiolwyr y Fyddin, yr Awyrlu a'r Llynges Frenhinol ymhlith y gwestai.
Yn ei deyrnged i'r unigolion na ddychwelodd i Gymru, dywedodd Mr Drakeford: "Maen nhw wedi gadael teuluoedd a phobl oedd yn eu caru - ac iddyn nhw, doedd y byd byth yr un fath eto."
Roedd Maldwyn Jones o Fangor ar fwrdd y Sir Galahad pan gafodd y llong ei bomio gan awyrennau'r Archentwyr. Fel swyddog meddygol bu'n rhaid trin anafiadau a llosgiadau cyd-aelodau'r Gwarchodlu Cymreig.
"Dim enwa' 'di 'hein - ma' 'hein yn wyneba' i ni," meddai, gan gyfeirio at y gofeb ym Mharc Cathays.
"O'n i'n nabod bob un... dau, dri yn ffrindia' o'n i'n agos efo... dwi'n dwad i gofio'r hogia. 'Dan ni gyd 'di d'eud nawn ni byth anghofio nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022