Diwedd Rhyfel y Falklands ond nid diwedd y dioddef
- Cyhoeddwyd
Union 40 mlynedd ers diwedd Rhyfel y Falklands mae nifer o Gymry a'u teuluoedd wedi bod yn rhannu eu profiadau gan ddweud mai nad dyna ddiwedd y dioddef iddyn nhw - fe adawodd y rhyfel greithiau a chyflyrau hirdymor.
Ym mis Mehefin 1982 fe ildiodd Ariannin. Brwydr Mount Tumbledown oedd y rhwystr olaf i'r ymosodiad ar Port Stanley ac yn rhan o'r frwydr roedd ymdrechion Bataliwn Gyntaf y Gwarchodlu Cymreig yn Sapper Hill.
Bu farw 48 o filwyr o Gymru yn y rhyfel 10 wythnos a gychwynnodd yn nechrau Ebrill 1982 a chafodd llawer mwy eu hanafu.
Ond yn ogystal ag anafiadau corfforol - roedd rhai meddyliol a gafodd effaith andwyol ar deuluoedd hefyd.
Mae Rhian Roberts o'r Rhondda yn llysferch i filwr a ymladdodd yn y rhyfel.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd na chafodd ei llystad Paul Bromwell ddiagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) am gyfnod hir wedi'r brwydro, a bod y cyfan wedi cael effaith wael arno a'r teulu yn ehangach.
"Roedd e'n fyr iawn ei amynedd, roedd tymer eitha' gwael gallu bod ganddo fe ar adegau hefyd.
"Odd e just ddim yn ymdopi gyda sefyllfaoedd fel byse - fi yn gweud person arferol mae hynna yn swnio yn ofnadwy - ond fel bydde teulu arferol.
"O' ni ddim yn sylwi ar y pryd nes edrych 'nôl, ond oedd mam yn trio osgoi sefyllfaoedd lle roedd crowds mawr o bobl.
"O'dd e ddim yn ymdopi yn mynd i siopa hyd yn oed really, pethe chi yn cymryd yn ganiataol o'dd e byth really yn neud hynna gyda ni fel teulu."
Ymunodd Paul â'r fyddin pan yn 16, gan fynd i'r Falklands yn 17.
Dywedodd Rhian nad oedd ei llystad yn cael y gefnogaeth angenrheidiol ar y pryd, a "dyw e dal ddim yn berffaith o hyd".
Yn sgil hynny, aeth ati i greu ei grŵp lleol ei hun er mwyn helpu eraill 12 mlynedd yn ôl.
"Mae e wedi sefydlu elusen Valley Veterans ac maen nhw wrthi yn defnyddio equine therapy a defnyddio horticulture. Mae dros 50 o bobl fel arfer yn cwrdd.
"Maen nhw wedi llwyddo wedyn i sicrhau bod gwahanol asiantaethau a gwahanol bobl yno sydd yn gallu rhoi'r cymorth a chefnogaeth i unrhyw un sydd angen nid yn unig i bobl sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog ond i bobl sydd yn y gwasanaethau brys."
Roedd Maldwyn Jones o Fangor yn aelod o'r Gwarchodlu Cymreig, ac roedd ar long y Sir Galahad ddiwrnod yr ymosodiad a laddodd 32 aelod o'r Gwarchodlu Cymreig.
Wrth edrych yn ôl ar ddigwyddiadau 1982 dywed: "'Nes i ddiodda mewn ffordd efo'r hyn mae nhw'n ei alw'n survivors guilt.
"Ro'n i'n teimlo'n euog bo fi heb gael fy lladd ac oedd fy ffrindiau i wedi."
'Dwi'n trio peidio meddwl amdano'
Fe fethodd â siarad am ei brofiadau am 10 mlynedd a mwy wedi diwedd y rhyfel.
Wedi iddo ailymweld â'r ynysoedd yn 2005 dywedodd Maldwyn Jones wrth raglen Taro'r Post, Radio Cymru ei fod wedi bod yn dioddef mewn distawrwydd am yn hir iawn.
"Doeddan nhw [rhaglen Taro'r Post] mond isio tamad 10 munud ond mi nes i fwydro am bron i awr," meddai.
"Dyma'r tro cyntaf na'th mam glywed fi'n siarad - a'r unig adeg.
"Nes i wrando arno fo ac oedd o'n reit emosiynol a deud y gwir - clywed fi fy hun yn siarad am betha' nad oeddwn i erioed wedi siarad amdan."
Mae Clive Aspden o Flaenau Ffestiniog hefyd yn byw â'i atgofion bob dydd. Roedd ymhlith y milwyr gafodd eu cludo i'r ynysoedd ar long y QE2 ond wedi iddo gyrraedd roedd y tir yn wlyb iawn.
Er bod 40 mlynedd wedi gwibio ers y brwydro dywed nad yw'r atgofion am y cyfnod erchyll fyth yn bell o'i feddwl.
"Dwi'n trio fy ngorau i beidio meddwl amdano fo weithiau," meddai.
"Mae o just part and parcel o'm mywyd i dwi'n meddwl."
Mae modd gweld rhaglen ddogfen am wythnos olaf y rhyfel Ending the Falklands War ar BBC iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012