'Dyw 95 o bob 100 chwaraewr ddim yn gwneud hi'

  • Cyhoeddwyd
abertaweFfynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Bois yr Academi

Mae cael gyrfa fel pêl-droediwr proffesiynol yn freuddwyd gyffredin i filoedd o blant ledled Cymru, ac yn dilyn llwyddiannau diweddar ein tîm cenedlaethol mae'r dyhead hynny hyd yn oed yn fwy poblogaidd.

Ond yn anffodus dim ond nifer fach iawn sy'n llwyddo i wireddu'r freuddwyd honno.

Yn y rhaglen ddogfen DRYCH ddiweddaraf ar S4C, mae Bois yr Academi yn mynd tu mewn i academi fodern Abertawe yng Nglandŵr, i ddweud stori tri bachgen talentog sydd yn gobeithio bod yn yr 1% o chwaraewyr academi sydd yn llwyddo i chwarae ar y lefel broffesiynol.

Mae Bois yr Academi, sydd yn cael ei ddangos am 21.00 ar 21 Mehefin yn olrhain taith tri aelod o academi Abertawe; Iwan Morgan, Dylan Pritchard a Yori Griffith, tri bachgen mewn cyfnodau gwahanol yn eu datblygiad.

Yn ymddangos yn y rhaglen hefyd mae Jon Grey, Rheolwr Academi Abertawe:

"'Dan ni'n cael arwyddo chwaraewyr ifanc o fewn awr a hanner o deithio o'r academi, rhwng 12 a 16 oed, ac o fewn awr o deithio rhwng oedran naw a 12.

"Unwaith 'dan ni'n edrych am chwaraewyr dros 16 oed mae posib chwilio rhywle o fewn Cymru a hefyd yn Lloegr, ond mae rhaid cael clearance rhyngwladol i'w harwyddo nhw. Ond be ni'n trio ei wneud yw rhoi gymaint o gyfleoedd â phosib i dalent lleol."

Ffynhonnell y llun, CPDABERTAWE
Disgrifiad o’r llun,

Jon Grey, Rheolwr Academi Abertawe

"Mae ganddon ni dîm o sgowts sy'n mynd mas ac edrych ar gemau a darganfod chwaraewyr maen nhw'n meddwl gall ddod i mewn a chreu argraff, neu efo'r potensial i gael y skillset i fynd 'mlaen i chwarae'n broffesiynol.

"Mae gennym system broffilio o wahanol safleoedd ar y cae, a mathau gwahanol o chwaraewyr, ac mae'r sgowts yn defnyddio'r system 'ma. Yna mae'r chwaraewyr yn dod fewn aton ni ar dreial am chwe wythnos, maen nhw'n cael induction ble maen nhw'n dysgu am hanes y clwb, yn ogystal â manylion y treialau a'r disgwyliadau ohonyn nhw.

"Mae'r stadiwm yno o fewn golwg. Maen nhw eisiau gwneud y daith yma o'r academi i'r stadiwm. Does dim gwell ysbrydoliaeth na gweld hwnna pob tro maen nhw'n dod yma. Mae'n siwrne fer ond mae'n gallu bod yn un hir iawn."

Rheoli disgwyliadau

Heddiw, mae dros 200 o ferched a bechgyn rhwng pump a deunaw oed yn rhan o'r academi. Ond am bob un Joe Allen, Ben Davies neu Ben Cabango, mae'r mwyafrif llethol yn methu allan ar chwarae yn y byd proffesiynol digyfaddawd.

"Mae'r aberth mae rhieni yn gwneud yn anhygoel. Y pwysau ariannol, yr aberth a'r ymrwymiad maen nhw'n dangos er mwyn i'w plant geisio gwireddu eu breuddwyd, mae'n anhygoel.

"Ond mae'n rhaid i ni fod yn onest gyda phob chwaraewr sy'n dod drwy'r drysau a 'dy'n ni'n rhoi'r ystadegau iddyn nhw o ran pa mor llwyddiannus ni'n meddwl bydden nhw - dyw 95 o bob 100 chwaraewr ddim yn gwneud hi i yrfa broffesiynol. Mae'n rhaid i ni fod yn brutally honest gyda nhw, mae'r ffigyrau yn syfrdanol o isel felly mae rhaid bod yn realistig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen a Ben Davies; dau o sêr tîm presennol Cymru a ddaeth drwy academi Abertawe

"Y peth olaf ni eisiau ei wneud yw dod â phlentyn fewn a nhw'n meddwl bod nhw am fod yn bêl-droediwr proffesiynol, ac yna blwyddyn yn ddiweddarach 'dan ni'n cwrdd â nhw i ddweud bod ni ddim am gymryd nhw mlaen.

"Beth ni yn gwneud yw cefnogi nhw tra bod nhw yma, a hefyd pryd maen nhw'n gadael - gan gadw cysylltiad efo nhw i wneud yn siŵr bod nhw'n iawn. Mae'n rhaid i ni fod yno i gynnig y gefnogaeth iddyn nhw gyda beth bynnag sy'n digwydd."

'Y gêm genedlaethol'

"Pêl-droed yw'r gêm genedlaethol yng Nghymru bellach, felly allwch chi ddychmygu faint o blant sydd eisiau mynd mlaen i chwarae'n broffesiynol, ond dim ond 'chydig iawn geith y cyfle ac mae'r safon yn mynd yn uwch ac yn uwch bob blwyddyn.

"Mae llwyddiant diweddar Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn wych ac yn dipyn o gamp i wlad ein maint ni. Mae'n dda i ni fel cenedl ond hefyd i'r clybiau sydd yma, ac fe fydd y safon yn codi."

Cyn cael ei benodi fel rheolwr yr academi ym mis Medi 2021, roedd Jon yn rheolwr ar dîm dan 18 ac yna tîm dan 23 Abertawe.

"Nes i ddechrau gweithio yma rhan amser 14 mlynedd yn ôl - roedd rhaid imi stopio chwarae pêl-droed yn broffesiynol yn dilyn anaf gwael. Nes i fy mathodynnau hyfforddi ac yna ges i'r cyfle i ddod yma yn llawn amser, gan gwblhau fy nhrwydded broffesiynol UEFA eleni."

Ffynhonnell y llun, CPDAbertawe
Disgrifiad o’r llun,

Academi Bêl-droed Abertawe - y lle sydd yn gyfrifol am ddatblygu rhai o'r chwaraewyr gorau Cymru. Mae'n cael ei adnabod fel man cychwyn sawl chwaraewr rhyngwladol dros y degawdau diwethaf, gan gynnwys chwe aelod o dîm diwethaf Cymru i chwarae yng Nghwpan y Byd yn 1958

Cymry yn nhîm Abertawe a'r garfan rhyngwladol

"Byddai'n wych cael tîm gyda'r mwyafrif wedi dod drwy'r academi - dyna fydde'r Utopia" meddai Jon. "Hefyd, bydde mor braf cael rheolwr sydd wedi dod drwy ein system academi - dyna fydde'r prif llwyddiant i ni.

"'Dy'n ni'n gwneud yn dda ar hyn o bryd gyda wyth o garfan presennol Cymru wedi dod drwy system Abertawe, felly dwi'n hoffi meddwl ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn iawn yma.

"Mae'r adran Talent ID gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, i ffeindio chwaraewyr gyda rhieni neu nain a taid o Gymru yn gwneud gwaith gwych. Mae holl glybiau Cymru yn gwneud yn dda i ddatblygu talent - nid jest ni yn Abertawe ond hefyd Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Pritchard o Dresaith

Mae Dylan, sy'n 11 oed ac yn dod o Dresaith yn Sir Benfro, yn chwarae fel gôl-geidwad i'r tîm Dan 12.

Meddai Dylan: "Mae lot o bwysau ar fod yn goalkeeper. Un mistêc a byddwn ni'n gallu colli'r gêm, so mae rhaid i fi fod ar dop o fy ngêm."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Iwan Morgan, sy'n ymosodwr i'r tîm dan 18

Mae Iwan o Gaerdydd yn 15 oed, ond eisoes yn chwarae i dîm Dan 18 y clwb fel ymosodwr.

Meddai Iwan: "Fi'n lyfio pêl-droed felly does dim byd gwell na dod i fan hyn ar ddydd Llun a chwarae tipyn bach o bêl-droed. Di ysgol ac addysg ddim yn dod drosodd i fi, dw i'n casáu e rili. Dwi'n caru pêl-droed a 'sa i'n gweld be arall fi'n gallu gwneud yn y dyfodol. Does dim Plan B - mae'n Plan A or nothing i fi."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Yori Griffith o Hwlffordd, Sir Benfro

Mae Yori sy'n 15 oed ac yn dod o Hwlffordd, yn asgellwr i'r tîm Dan 16. Wedi gorfod cymryd seibiant ar ôl anaf, mae Yori yn gorfod disgwyl i weld os bydd yn cael ei gadw ymlaen yn yr academi ar ddiwedd y tymor.

Meddai Yori: "Mae cael anafiadau yn gwneud i mi feddwl, dyna pam mae angen Plan B. Plan B fi yw i jest cario ymlaen gweithio yn ysgol. Gobeithio galla i fod yn bêl-droediwr proffesiynol, ond os dyw hynny ddim yn digwydd, bydd rhywbeth arall i gwympo nôl arno.

"Ond mae colli un wythnos o training yn gallu cael effaith hir dymor, oherwydd gall fy spot fi yn y tîm gael ei gymryd gan rywun arall. Felly mae hwnna yn gallu effeithio fi yn cael scholarship. Dyw e ddim yn gystadleuaeth ond mae pawb eisiau cael scholarship yn y diwedd."

Hefyd o ddiddordeb: