Arestio dynes ar amheuaeth o lofruddiaeth ger Pontypridd

  • Cyhoeddwyd
Rhodfa'r Garth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steven John Davies ei ddarganfod mewn tŷ yn Rhodfa'r Garth yng Nglyncoch ger Pontypridd

Mae dynes wedi'i harestio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod ger Pontypridd.

Cafwyd hyd i gorff Steven John Davies gan ei gymydog mewn tŷ ar Rodfa'r Garth yng Nglyncoch ger Pontypridd fore Mercher am 11:00.

Mae archwiliad post mortem wedi cadarnhau bod y dyn, 39, wedi marw ar ôl iddo gael ei drywanu.

Mae dynes, 34, o Bontypridd, wedi ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis o Heddlu'r De: "Yn amlwg mae hyn yn sioc ac yn bryder i gymuned Glyncoch ac ardal Pontypridd yn ehangach.

"Ry'n yn meddwl am deulu Steven a'i ffrindiau ar gyfnod mor anodd."

Ychwanegodd bod swyddogion yn ceisio olrhain symudiadau Mr Davies rhwng 1 a 15 Mehefin a'u bod yn credu ei fod wedi treulio cyfnod yn Rhydyfelin.

Pynciau cysylltiedig