75 mlynedd CPD Pontrhydfendigaid: Y gwir Bryncoch United?

  • Cyhoeddwyd
John Meredith - y capten, gyda'r darian wrth ei draed
Disgrifiad o’r llun,

Tîm pêl-droed Pontrhydfendigaid gyda tharian wrth draed y capten ar y pryd, John Meredith

Mae clwb pêl-droed yng Ngheredigion - sydd â chysylltiad gydag un o'r cyfresi comedi Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed - yn nodi carreg filltir arbennig eleni.

Clwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid - neu Clwb y Bont - sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed.

Ymysg cyn-chwaraewyr y clwb mae'r diweddar Mei Jones, awdur y gyfres gomedi C'mon Midffîld.

Fe wnaeth Bryn Fôn - fu'n actio yn y gyfres - chwarae i'r tîm am sawl tymor hefyd.

Ac mae'n debyg bod yr ysbrydoliaeth am rai o'r cymeriadau yn y gyfres wedi deillio o gyfnod Mei Jones yn chwarae i Glwb y Bont.

Mae'r clwb yn nodedig am reswm arall hefyd gan ei fod wedi aros mewn cynghreiriau yn y canolbarth yn ddi-dor am bob tymor ers ei sefydlu ym 1947.

Richard Jones yw Cadeirydd y clwb: "Mae'r clwb yn golygu popeth i fi - fel cân eiconig Dafydd Iwan: 'Ry'n ni Yma o Hyd!'

"I ddathlu 75 mlynedd mae fe'n achlysur arbennig. Y'n ni wedi cael cyfnodau anodd, y'n ni wedi cael cyfnodau da, cyfnodau falle pan o'n ni ddim yn siŵr os oedd tîm yn mynd i fod gyda ni.

"Ond y'n ni wedi llwyddo i gadw fynd dros 75 o flynyddoedd oherwydd y gwaith sy' wedi cael ei wneud gan bobl cyn fi, a dwi just yn falch i fod yn rhan ohono fe.

"Mae llawer i glwb wedi mynd mewn ac allan o'r gynghrair oherwydd methu cael chwaraewyr, ond y'n ni wedi llwyddo i gadw fynd ac mae hynny'n tipyn o gamp."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fuodd John Meredith yn gapten ar y clwb, gan ddilyn ôl troed ei dad wrth chwarae

Mae gan y clwb gysylltiad agos gyda'i gymuned ac mae sawl cenhedlaeth o'r un teulu o Bontrhydfendigaid wedi chwarae i'r tîm.

Y cyn-ohebydd newyddion John Meredith yw Llywydd newydd y clwb. Bu'n dilyn yn ôl traed ei dad fel chwaraewr, ac mae plant John hefyd wedi gwisgo'r crys oren llachar.

"Roedd fy nhad yn chwarae ym 1947-48 ar ôl dod nôl o'r Ail Ryfel Byd, ac yna o'n i'n gapten yn '67, ac roedd y ddau fab yn chwarae yn y 90au a mab fy mrawd yn chwarae hefyd i'r Bont.

"Felly mae'r cysylltiad teuluol, y llinyn yn rhedeg trwy'r holl gyfnod."

Disgrifiad o’r llun,

Bont Rangers oedd clwb yr ardal, cyn sefydlu Clwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid yn 1947

"Mae fe yn anrhydedd cael bod yn Llywydd ac rwy'n falch iawn o gael derbyn.

"Ar nos Sadwrn, mae rhywun yn gweld beth yw'r sgôr yn y gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr ac Uwch Gynghrair Cymru, ond mae'n bwysig hefyd edrych beth mae Bont wedi'i wneud. Yn enwedig os ydyn nhw'n chwarae tîm fel Tregaron ynde!"

Yn ogystal â'r cysylltiadau cymharol ddiweddar, bu tad-cu John Meredith yn gysylltiedig gyda Bont Rangers - tîm a sefydlwyd yn y pentref cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe ddaeth y tîm hwnnw i ben oherwydd y rhyfel ond yn 1947 fe sefydlwyd Clwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid diolch i gyfraniad cychwynnol un dyn.

Disgrifiad o’r llun,

Guy Morgan - un o hoelion wyth y clwb yn sicr, a rhywfaint o Wali Tomos ei gyfnod efallai?

Pan godwyd y syniad o ffurfio'r tîm yn y pentref fe roddodd un o'r trigolion - Guy Morgan - hanner coron at yr achos.

Yn ôl teyrnged iddo gan Lyn Ebenezer, dyna'r cyfan oedd gan Guy Morgan yn ei feddiant.

Fe ddaeth yn un o hoelion wyth y clwb, byddai'n rhedeg y lein fel llumanwr yn ystod gemau.

Yn ôl Lyn Ebenezer: "Enillodd y Bont y bencampwriaeth yn eu tymor cyntaf, ac roedd llawer o'r diolch i benderfyniadau amheus Guy.

"Cyn bod sôn am Wali Tomos roedd Guy wrthi'n gwylltio reffarîs ledled gogledd Sir Aberteifi."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mei Jones (chwith) seilio ambell gymeriad yn C'mon Midffîld ar bobl go iawn o'r clwb, meddai Bryn Fôn

Ond mae 'na fwy o lawer i'r cysylltiadau gyda C'mon Midffîld.

Yng nghanol y 1970au, tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth fe chwaraeodd Mei Jones i dîm y Bont.

Rhai tymhorau yn ddiweddarach - ac yntau'n gweithio i Theatr y Werin yn Aberystwyth - bu Bryn Fôn yn chwarae hefyd.

Mae 'na sôn bod Mei Jones wedi seilio rhai o gymeriadau C'mon Midffîld ar bobl oedd ynghlwm â chlwb Pontrhydfendigaid.

Dywedodd Bryn Fôn: "Wrth gwrs roedd Mei wedi chwarae tipyn yng nghynghreiriau Sir Fôn a Gwynedd hefyd, clybiau bach sydd yn debyg i fel oeddan ni yn y Penygroes and District, lle roedd tipyn o gymeriadau.

Disgrifiad o’r llun,

Bryn Fôn oedd yn chwarae cymeriad Tecs yn y gyfres

"Ond mae 'na dipyn o debygrwydd rhwng Mr Picton a Lloyd Lucas [o Bontrhydfendigaid] - yr un mor stymddrwg â'i gilydd.

"Roedd Lloyd yn dod i fyny efo rhyw schemes go anhygoel weithiau i beidio chwarae neu i gael allan o ryw bicil.

"Teips ydyn nhw yn y diwedd ynde. Pobl sy'n caru pêl-droed, rhai sy'n gweithio'n dawel yn y cefndir fel oedd yr hen Wali druan yn gwneud pob dim i Picton.

"Maen nhw ym mhob clwb yn dydyn - roedd 'na gymeriadau yn sicr yn y Bont oedd yn gweithio'n galed dros y tîm. Roedd yn adeg arbennig ac ro'n i wrth fy modd yna!"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Hen lun o dîm y Bont, gan cynnwys Bryn Fôn

Tra'n nodi'r penblwydd arbennig ac edrych nôl ar y 75 mlynedd ddiwethaf, mae Richard Jones hefyd yn edrych tua'r dyfodol.

"Mae llawer o fechgyn lleol gyda ni, dwi'n trio dweud wrthyn nhw pa mor bwysig yw e i chwarae i Glwb y Bont a pa mor bwysig yw chwarae pêl-droed.

"Ymlaen mae'r Bont yn mynd - fe wnaethon ni bennu'n ail yn y gynghrair tymor d'wetha, hynny'n hyfryd a gobeithio trio gwella'n hunain erbyn y tymor nesa'."

Pynciau cysylltiedig