Siom gyda bwriad Banc Barclays i gau canghennau
- Cyhoeddwyd

Dywed y banc bod mwy o bobl yn bancio ar-lein a llai'n mynd i'w ganghennau mewn person
Mae cyhoeddiad Banc Barclays eu bod am gau eu cangen ym Mae Colwyn ym mis Medi wedi cael ei feirniadu.
Yn ôl yr Aelod o'r Senedd lleol, Darren Millar, mi fyddai cau'n cael effaith ddifrifol ar bobl hŷn yr ardal.
Ond dywed rheolwyr y banc bod 'na leihad wedi bod yn niferoedd y cwsmeriaid sy'n mynd i'r banc mewn person.
Mewn datganiad dywedodd Barclays bod penderfyniad i gau cangen "byth yn un hawdd" ond bod cwsmeriaid "fwyfwy" yn defnyddio ffyrdd eraill o fancio yn hytrach na mynd i gangen.
Ychwanegodd bod bwriad i gydweithio hefo cwsmeriaid "i gynnig opsiynau eraill".

Posteri yn ffenestr y gangen yn amlinellu'r trefniadau o 7 Medi ymlaen
Mae'r gŵr busnes lleol, yr arwerthwr David Rogers Jones, yn poeni mai dyma fydd dechrau'r diwedd i fanciau'r stryd fawr yn y dref.
"Tydi o ddim gymaint o fater i ymwneud â Bae Colwyn… mae banciau'n cau yn bob man," meddai.
"Y cwestiwn ydi pa r'un fydd y banc nesaf efallai ym Mae Colwyn i gau?"

Mae David Rogers Jones yn poeni y bydd rhagor o fanciau'n cau eu canghennau yn y dref
Dywedodd Darren Millar, yr AS sy'n cynrychioli Gorllewin Clwyd ym Mae Caerdydd, ei fod yn "siomedig efo penderfyniad Barclays".
Ychwanegodd: "Mae 'na lawer o bobol hŷn a busnesau yn defnyddio'r banc ym Mae Colwyn ac nid ydi pawb yn defnyddio gwasanaeth ar-lein ac apps bancio ar y ffôn symudol."
Mae Banc Barclays hefyd wedi cadarnhau bod tair cangen yn y canolbarth yn cau yn y misoedd nesaf - Llanbedr Pont Steffan yn cau ar 23 Awst, Y Trallwng ar 16 Medi a'r Drenewydd ar 23 Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019