Rhybudd teithio wrth i Gaerdydd gynnal cyngherddau mawr
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd i bobl sy'n dod i Gaerdydd y penwythnos hwn i ddisgwyl oedi ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd wrth i'r Stereophonics a Syr Tom Jones berfformio yn Stadiwm Principality.
Daw'r cyngherddau wythnosau ar ôl i dri chyngerdd gan Ed Sheeran achosi trafferthion sylweddol i deithwyr ledled de Cymru.
Mae disgwyl 60,000 o bobl yn y stadiwm nos Wener a nos Sadwrn, a 40,000 yn rhagor yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Tafwyl.
Mae Tafwyl yn digwydd yn y brifddinas eto eleni, yn dilyn cyfnod o'i chynnal yn ddigidol yn ystod y pandemig.
Roedd cyngherddau Stereophonics a Syr Tom Jones i fod i gael eu cynnal fis Rhagfyr y llynedd ond bu'n rhaid eu gohirio oherwydd ofnau ar y pryd ynglŷn â lledaeniad yr amrywiolyn Omicron.
Mae gwaith peirianneg ar y rheilffyrdd wedi ei ohirio i geisio osgoi trafferthion i deithwyr, ond mae'r llywodraeth a chwmnïau teithio yn annog pobl i gychwyn teithio mewn da bryd.
Daw'r cyngherddau dair wythnos ar ôl i draffig giwio am 15 milltir ar yr M4 wrth i bobl deithio dros pontydd Hafren er mwyn gwylio Ed Sheeran yng Nghaerdydd.
Mae Louise Perego yn teithio o Lanelli gyda'i gŵr i weld y Stereophonics ac wedi archebu llety ar ôl profiad annifyr y tro diwethaf iddi ddod i Gaerdydd ar gyfer cyngerdd.
"Es i weld The Script yn y Motorpoint ym mis Mai ac roedd hi'n anrhefn ar y trenau.
"Fe gafodd y trên ei ganslo ac roedd yn rhaid newid trenau sawl gwaith ac roedden ni'n hwyr.
"Felly mi wnaethon ni benderfynu aros mewn gwesty nos Wener.
"Roedden ni wedi ystyried cychwyn draw yn gynnar ond mae'r ddau ohonom wedi cymryd y diwrnod i ffwrdd o'r gwaith."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Holy Macaroni!'
Mae Paul White, 62, yn teithio i Gaerdydd ddydd Sadwrn gyda'i chwaer ar gyfer y cyngerdd.
"Rwy'n ymwybodol o'r problemau mawr 'efo Ed Sheeran ac rwy' wedi teithio i lawer o gemau pêl-droed Cymru yng Nghaerdydd felly rwy'n gwybod pa mor ddrwg y gall y traffig fod.
"Rwy'n dod o Landeilo, felly ar ôl yr M4 a wedyn i Groes Cwrlwys a gweld y traffig, dwi'n aml yn dweud wrth fy hun 'Holy Macaroni!'
"Sut brofiad fydd hi ddydd Sadwrn pan fydd y siopwyr allan ac wedi mynd â'r llefydd parcio?"
Mae Trafnidiaeth Cymru'n cydnabod y byddan nhw dan bwysau ac yn wynebu deuddydd "heriol".
Mae'r cwmni yn dweud y bydd pob trên sydd ar gael yn cael eu defnyddio a'u bod nhw wedi addasu'r amserlen cynnal a chadw er mwyn galluogi hynny.
"Mae ganddon nhw gapasiti i symud 20,000 o bobl i leoliadau gwahanol," meddai Colin Lea o'r cwmni.
"Mi fyddan ni'n gallu mynd â 6,000 i'r cymoedd, 6,000 i Fryste a 5,000 tua'r Gorllewin."
Mae data o werthiant y tocynnau yn awgrymu y bydd "70% o'r bobl sy'n mynd i'r cyngerdd yn dod o Gaerdydd, y cymoedd ac Abertawe," meddai Mr Lea.
Mae cwmni trenau GWR yn dweud y bydd 17,000 o seddi ar gael i deithwyr ar ddiwedd y cyngherddau, ond bydd yn rhaid defnyddio system giwio sy'n debyg i'r un ar ddyddiau gemau rygbi rhyngwladol yn y stadiwm.
Dywedodd Kelly Jones ei fod o wedi gwahodd Syr Tom am ei fod fel "ail dad" iddo fo ond hefyd am fod yn rhaid iddo ddychwelyd plât.
"Ro'n i draw yn gwylio'r pêl-droed gyda Tom dros yr haf," meddai prif leisydd Stereophonics.
"Mi fyddwn ni'n mynd draw i'w le o i wylio gemau Cymru.
"Ro'n i'n ei ffonio fo i weld a fydda fo'n hoffi gwneud ac wrth gwrs, roedd o wastad yn barod amdani.
"Ma'n esgus i mi fynd â'i blât o 'nôl gan ei fod o wedi rhoi pwdin i mi fynd adre' gyda fi'r noson honno, brownie, a nes i ddim mynd â'r plât yn ôl," meddai.
Dyma fydd y tro cyntaf i Syr Tom, sy'n enwog am ganeuon fel Delilah, It's Not Unusual a Green, Green Grass of Home, berfformio yn stadiwm fwya' Cymru.
Dywedodd Kelly ei fod o wedi gofyn i Syr Tom ganu gyda nhw am ei fod o'n meddwl ei fod yn "anhygoel".
"Mae o wedi bod yn ffrind ac fel ail dad i fi am 20 mlynedd, yn rhoi cyngor ac yn adrodd hanesion," ychwanegodd Kelly, 48.
"Yn ei le o, roedd o'n dangos lluniau ar ei wal gyda phobl fel Aretha Franklin ac Elvis.
"Dan ni wedi bod yn gwylio fideos ohono fo yn canu gyda Little Richard a Jerry Lee Lewis - mae'r dyn wedi bod ar lwyfan gyda phawb, ac mae o cystal os nad yn well na rhai ohonyn nhw.
"Ma hi wir yn fraint i'w gael o yn canu gyda ni."
Stereophonics yn y Principality
Fe fydd to Stadiwm Principality ynghau am y ddwy noson gyda'r band roc Gymreig, Feeder, yn perfformio nos Wener.
Fe fydd Gruff Rhys yn perfformio nos Sadwrn - gyda Tom Jones ar y llwyfan am 18:15 a'r Stereophonics yn canu am 20:00.
Fe fydd drysau'r stadiwm yn agor am 15:00 gyda'r grŵp Buzzard Buzzard Buzzard yn agor y sioeau am 15:40.
Bydd y gig nos Sadwrn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar BBC One Wales a BBC iPlayer.
'Cynlluniwch ymlaen llaw'
Mae pobl sy'n teithio i'r cyngherddau wedi cael cyngor i neilltuo amser ychwanegol ar gyfer y daith i Gaerdydd gyda thraffordd yr M4 a'r rheilffyrdd yn brysur.
Fe fydd rhai ffyrdd yng nghanol Caerdydd ynghau cyn y cyngherddau am "resymau iechyd a diogelwch fel bod pobl yn gallu mynd i'r stadiwm a gadael wedyn yn ddiogel".
Mae Trafnidiaeth Cymru'n rhybuddio y bydd eu gwasanaethau yn brysur gyda phob trên sydd ar gael yn weithredol.
Mae gwaith ffordd wedi'i ohirio dros dro er mwyn lleddfu traffig.
"Rydym yn gweithio ac yn cynllunio i leihau effaith ar ein rhwydwaith," medd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
"Fel gyda phob digwyddiad mawr, fe fyddwn ni'n cynghori pobl i gynllunio ymlaen llaw cyn dechrau teithio a chaniatáu digon o amser ar gyfer eu taith."
Mi fydd yna newidiadau i wasanaethau Bws Caerdydd, Stagecoach a NAT.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021