Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn 1995
- Cyhoeddwyd

Bu farw Jaswant Singh Sandhu yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu
Mae dyn 49 oed wedi cael ei arestio ym Mhacistan mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn yn ne Cymru yn 1995.
Bu farw Jaswant Singh Sandhu yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu yn dilyn ffrae mewn siop ddillad yn ardal y Coed Duon, Sir Caerffili dros 25 mlynedd yn ôl.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn gweithio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) ac awdurdodau ym Mhacistan i ddod â Mohammad Basharat i'r Deyrnas Unedig.
Yn ôl yr NCA, roedd Mr Basharat wedi bod yn byw ym Mhacistan gydag enw gwahanol.

Roedd Mohammad Basharat yn defnyddio enw gwahanol pan gafodd ei arestio, medd yr awdurdodau
Dywedodd Asiantaeth Ymchwilio Ffederal Pacistan (FIA) fod y dyn wedi mynd gerbron llys lleol yn Islamabad a'i fod wedi'i gadw yn y ddalfa.
Ychwanegodd Sheikh Zubair Ahmad o'r FIA wrth y BBC bod heddlu'r DU wedi datgan bod Mr Basharat ar ffo a bod ei arestio wedi digwydd ar ôl cydweithrediad gydag awdurdodau'r DU.
Roedd achos marwolaeth Mr Sandhu, a oedd yn dad i ddau, yn destun apêl ar raglen Crimewatch y BBC ym mis Mai 1995.