Dim mwy o fagiau plastig untro yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn dal bagiau plastigFfynhonnell y llun, PA Media

Fe allai Cymru wahardd bagiau plastig untro a chadachau gwlyb (wet wipes) fel rhan o gynllun i leihau gwastraff.

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, eisiau eu hychwanegu at waharddiad ar blastigion - gwaharddiad na sydd, hyd yma, wedi dod i rym.

Mae rhai'n cwestiynu pam nad ydy Cymru, yn wahanol i Loegr a'r Alban, wedi gwahardd eitemau fel gwellt a ffyn cotwm (cotton buds).

Ym marn un Aelod o'r Senedd, mae'r oedi'n "anghredadwy".

Dywed Llywodraeth Cymru bod deddfwriaeth ôl-Brexit, oedd i fod i ddod i rym yn 2021 yn wreiddiol, wedi cymhlethu cyflwyno deddf newydd.

Os fydd y gwaharddiad ar fagiau plastig yn mynd yn ei flaen, mae'n debygol y byddai angen gofyn am ganiatâd Llywodraeth y DU er mwyn gweithredu'r ddeddf yng Nghymru'n gyflawn.

Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forol (MCS) ac eraill wedi galw am wahardd cadachau gwlyb, gan ddweud bod llawer iawn ohonyn nhw i'w gweld ar draethau. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am flocio carthffosydd.

Colled i elusennau?

Cymru oedd gwlad gyntaf y DU - yn 2011 - i orfodi masnachwyr i godi tâl, 5c yr un, am fagiau plastig untro, a rhoi'r arian i elusennau.

Dywed James Lowman, prif weithredwr Cymdeithas Siopau Cyfleustra ei fod yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaharddiad yn osgoi canlyniadau fel "cwsmeriaid yn ystyried bagiau am oes fel rhai untro ac yn eu taflu" a bod yn rhaid ystyried na fydd elusennau yn elwa fel y maent ar hyn o bryd wrth iddynt gael y tâl am y bag.

Fe wnaeth gweinidogion Cymru gyhoeddi ddwy flynedd yn ôl eu bod yn cynllunio i wahardd pob math o ddefnydd o blastig untro - gan gynnwys gwellt, platiau cynwysyddion bwyd a diod polystyren a ffyn cotwm - yn 2021.

Ond er gwaethaf ymgynghoriad dyw'r gwaharddiad ddim eto wedi'i weithredu a does dim dyddiad ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn y Senedd.

Mewn llythyr at bwyllgor newid hinsawdd y Senedd dywed Julie James y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu yn ystod tymor y Senedd bresennol - cyn diwedd 2026.

Yn yr un llythyr dywed ei bod yn bwriadu "cynnwys gwahardd cadachau gwlyb (wet wipes) sy'n cynnwys plastig a'r defnydd o fagiau plastig untro yn y ddeddfwriaeth".

Does na'r un wlad arall yn y DU wedi gwahardd y naill na'r llall er bod Llywodraeth y DU yn ystyried gwahardd cadachau gwlyb plastig yn Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae gwellt plastig yn cael eu caniatáu yng Nghymru

Dywed Llyr Gruffydd, cadeirydd y pwyllgor ac aelod o Blaid Cymru bod "Cymru ar ei hôl hi i gymharu â gweddill y DU".

Dywed bod Ms James wedi addo rhoi gwybodaeth am y camau nesaf erbyn Hydref 2021 ond "nad oedd gwybodaeth wedi dod i law".

"Mae yna gryn gefnogaeth i'r polisi ac mae'n anodd credu ei fod wedi cymryd mor hir."

Dywed Janet Finch Saunders o'r Ceidwadwyr ei bod yn falch bod "llywodraethau ar draws y DU yn deddfu ar eu defnydd" ac fe anogodd Lywodraeth Cymru i beidio oedi.

Roedd cynlluniau gwreiddiol Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach na chynllun gwreiddiol Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr a ddaeth i rym yn Hydref 2020 - ac mae'r ddeddfwriaeth honno'n yn cynnwys ffyn cotwm, gwellt a ffyn troi diodydd cynnes.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn y cyfamser mae'r Alban newydd gyflwyno gwaharddiad yn gynharach y mis hwn ac mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys y rhan fwyaf o'r eitemau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu eu cynnwys, ag eithrio plastig oxo-degradable.

Ond mae gwaharddiad Yr Alban wedi ei gyfyngu gan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU sy'n rheoli sut mae masnach yn gweithredu rhwng cenhedloedd y DU.

Dan y ddeddf, er bod rhai nwyddau wedi eu gwahardd yn Yr Alban, mae modd i fusnesau eu derbyn o rannau eraill o'r DU.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau cyfreithiol ar y ddeddf.

Dywedodd llefarydd: "Mae cynlluniau ar gyfer deddfu yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ac fe fydd cyhoeddiad am beth fydd yn cael ei gynnwys yn dod yn fuan.

"Mae cyflwyno Deddf Marchnad Fewnol y DU yn 2020 wedi cymhlethu deddfu plastig untro yng Nghymru ond ein bwriad yw cyflwyno, mor fuan â phosib, ddeddfwriaeth a fydd yn gwahardd y defnydd o'r plastigau untro sy'n fwyaf cyffredin."

Pynciau cysylltiedig