Pryder am wastraff plastig untro oherwydd Covid
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n anochel y bydd 'na gynnydd mewn gwastraff plastig un defnydd yng Nghymru eleni o achos y pandemig.
Gyda chynnydd mewn cyfarpar diogelwch PPE plastig fel masgiau a menig - eitemau nad oes modd eu hailgylchu - mae'r ymgynghorydd amgylcheddol Rebecca Colley-Jones yn dweud y bydd rhaid eu danfon i losgi neu safleoedd tirlenwi a bod hynny â "goblygiadau".
Er hynny mae 'na awgrym fod cyfraddau ailgylchu Cymru, sydd eisoes ymysg y rhai gorau yn y byd, wedi aros yn sefydlog os nad cynyddu mewn rhai awdurdodau lleol.
Wrth inni barhau i addasu i'r pandemig mae 'na alw rŵan i geisio gwneud hynny mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.
Ar draws awdurdodau lleol Cymru mae safleoedd ailgylchu, fel un Llandygai ger Bangor wedi aros yn agored drwy ran helaeth y pandemig.
Bellach mae'n rhaid archebu slot amser er mwyn dadlwytho nwyddau a'r drefn honno wedi bod yn bwysig wrth barhau â'r ymdrech i ailgylchu.
Ond gyda rhagor o gyfarpar diogelwch yn cael ei ddefnyddio mae Cyngor Gwynedd yn rhybuddio pobl i sicrhau nad ydynt yn taflu mygydau a menig ar y llawr ac yn annog pobl i feddwl yn gynaliadwy yn eu hymdrech yn erbyn Covid.
"Yn anecdotal yn sicr mae rhywun yn teimlo eu bod nhw'n gweld masgiau yn gorwedd o gwmpas," meddai'r cynghorydd Catrin Wager o Gyngor Gwynedd.
"Mae hynny yn bryder a dwi'n gofyn i bobl, plîs, dydi'r masgiau ddim i fynd i'r bocs ailgylchu ond yn hytrach i'r bocs gweddilliol ac i neud yn siŵr fod hynny'n cael ei wneud yn gyfrifol."
Mae'r cynghorydd o Fangor hefyd yn gobeithio annog mwy o bobl i feddwl am fasgiau lle mae modd eu golchi a hynny er mwyn rhwystro rhagor o blastig un defnydd.
"Mae 'na opsiynau amgen yna rŵan fel masgiau y mae modd eu golchi a ma'n hwb i'r economi leol," meddai.
Yn ôl arolwg diweddar gan gwmni gwastraff 'Trade Waste', fe all hyd at 20,000 tunnell o fasgiau plastig ar draws Prydain gael eu taflu i safleoedd tirlenwi erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf, a hynny yn ei dro am gael effaith fawr ar yr amgylchedd.
"Mae lot o blastig sydd wedi cael ei greu fel menig untro a mygydau untro, does dim y gallwn ni neud am rheina," meddai'r ymgynghorydd amgylcheddol Rebecca Colley-Jones.
"Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu llosgi neu fynd i safleoedd tir-lenwi."
Tra bod Ms Colley-Jones yn dweud fod y cynnydd mewn plastig un defnydd yn golygu "goblygiadau" i'r sector mae hi hefyd yn dweud fod y sefyllfa yn anochel.
"Ar y dechrau, roedd rhaid gwneud be oedd rhaid gwneud."
Yn ôl Ms Colley-Jones mae disgwyl mai "blip" fydd yr ystadegau eleni wrth ystyried hanes llwyddiannus Cymru i leihau cyfraddau plastigion.
Ychwanegodd fod disgwyl y bydd cyfraddau ailgylchu Cymru yn aros yn weddol sefydlog os nad yn gwella oherwydd bod nifer ohonom yn treulio rhagor o amser gartref ac yn meddwl mwy am ein gwastraff.
Mae disgwyl i gyfraddau ailgylchu Cymru gael eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2021.
Un mudiad sydd hefyd wrthi yn ceisio annog y defnydd o fasgiau, lle mae modd eu golchi ydi Gwrthryfel Difodiant.
"Mae miliynau o bethau un tro yn mynd mewn i'n tipiau sbwriel ni... yn mynd mewn i'r môr," meddai Steffan Webb o'r mudiad.
"Mae'n creu mwy o ddifrod at y dyfodol.
"Mae 'na bethau y gellid eu gwneud gyda masgiau y mae modd eu golchi, swni'n gofyn i bobl gwneud hynny."
Tra bod y mudiad yn annog defnydd felly maen nhw hefyd yn cydnabod fod y defnydd o fasgiau plastig wedi bod yn hanfodol wrth frwydro Covid.
Gyda disgwyl rhagor o wastraff dros gyfnod y Nadolig mae 'na alw parhaus ar bawb i gadw'n ddiogel drwy ddulliau gwyrdd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020