Penodi Dai Flanagan yn brif hyfforddwr y Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Dai FlanaganFfynhonnell y llun, Huw Evans agency

Mae Dai Flanagan wedi ei benodi'n brif hyfforddwr ar ranbarth rygbi'r Dreigiau.

Fe fydd Flanagan yn symud i'r rhanbarth o'r Scarlets - ble mae wedi bod yn hyfforddwr yr olwyr.

Fe fydd yr hyfforddwr 36 oed yn gweithio fel rhan o dîm y cyfarwyddwr rygbi, Dean Ryan.

Dywedodd Flanagan ei fod yn "gyffrous" i fod yn ymuno â'r rhanbarth, ac yn "awyddus i adeiladu ar y seiliau sydd yma a gwella a datblygu ein perfformiadau".

Pynciau cysylltiedig