Marian Evans: Llansteffan yn ‘meddwl y byd i fi’

  • Cyhoeddwyd
Marian EvansFfynhonnell y llun, S4C

"Mae Llansteffan yn hynod o bwysig i fi achos dyma ble mae 'ngwreiddiau i, dwi'n 'nabod gymaint o bobl o'r ardal ac mae hanes saith cenhedlaeth o'n nheulu i yn y plwyf. Mae lot o hanes 'ma - mae'n hidden gem, mae'n le arbennig ac mae'n meddwl y byd i fi."

Dyma eiriau Marian Evans sy', ynghyd a'i gŵr Rob a'u dwy ferch ifanc, Catrin a Ffion, wedi prynu Fferm y Plas yn Llansteffan. Ynghlwm â'r fferm mae pocedi o dir sy'n cynnwys castell Normanaidd Llansteffan.

Breuddwyd y teulu yw i gynnig seremonïau priodas yn y castell eiconig, sy'n le arbennig iawn yn ôl Marian: "Ti'n gweld yr effaith mae'r castell yn cael ar bobl yn ymweld â'r lle heb sôn am bobl sy'n byw yn lleol - mae 'na deimlad bod e'n amddiffyn y gymuned, yr adeilad mawr 'ma ar y bryn."

Cartref newydd

Yn ogystal â datblygu'r castell, mae'r teulu yn adnewyddu eu cartref newydd mewn hen adeilad ar y safle a'r stâd o'i amgylch gyda'r gyfres Teulu'r Castell ar S4C yn dangos siwrne'r teulu wrth ymgymryd â'r gwaith.

Felly mae amser hamdden yn beth prin iawn i'r pâr.

Meddai Marian, sy' wedi ei magu ar fferm gerllaw ac oedd eisoes yn byw yn yr ardal: "Dwi'n joio bod yn brysur, dwi ar fy mwya' hapus pan dwi'n brysur 'da gwaith neu plant, 'sei'n lico bod yn segur.

"Dyw Rob ddim yn licio bod yn segur - 'sei'n gwbod os oedd e fel 'na pan gwrddes i ag e serch hynny!

"Ni'n trio 'neud gymaint a gallwn ni a chael bach o sbri yn neud e os yn bosib. Dwi'n joio'r teimlad o gyflawni pethe a wastad wedi bod fel 'na - rhywun sy'n cynllunio a gosod targedau ym mhob rhan o bywyd, dwi'n licio cael rhywbeth i anelu ato."

Ffynhonnell y llun, Marian Evans
Disgrifiad o’r llun,

Fferm y Plas

Mentora

Cyn prynu Fferm y Plas roedd Marian yn rhedeg busnes mentora ac ymgynghori Elevate BC ac hefyd wedi prynu a datblygu nifer o dai ers yn fenyw ifanc.

Wedi ei magu ar fferm odro yn yr ardal, roedd ei rhieni wedi pasio'r awch am fusnes i Marian a'i brawd a chwaer. Yn ogystal a chynnig seremonïau priodas yn y castell, mae Marian yn benderfynol o ddatblygu ei busnes mentora gan gynnig llety sy'n cyd-fynd â'r cyrsiau mentora ar Fferm y Plas.

Fel mae Marian yn dweud: "Mae sawl cyfnod prysur wedi bod. Beth sy'n wahanol tro hyn yw cael camera crew!"

Balans

Un o'r heriau pennaf yw jyglo gofynion teulu gyda'r holl waith: "Mae'n gallu bod yn anodd - mae'n amlwg yn ystod y gyfres fod y pethe mae Rob a fi'n mwynhau, dyw'r merched wrth iddyn nhw fynd yn hŷn ddim o hyd yn cael yr un pleser mas o'r un pethau a ni.

"Maen nhw'n mynd mwy annibynnol a dwi ishe iddyn nhw neud y pethe maen nhw ishe neud. Y jygl mwyaf yw neud yn siŵr bod ni'n garcus bod nhw'n cael yr amser maen nhw angen wrtho ni fel rhieni - mae'n newid wrth iddyn nhw fynd yn hŷn gan fod disgwyliadau plant yn newid dros amser.

"Ni'n ymwybodol o hwnna ac mae'n neud i Rob a fi ailystyried fel ni'n mynd at ambell i beth. Felly bach o jygl."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Marian a Rob a'r teulu

Busnes teulu

Ac mae Marian yn awyddus i basio ei sgiliau busnes 'mlaen i'r plant drwy eu hannog i werthu nwyddau gyda logo'r castell.

Mae hi'n cydnabod bod "cael y plant yw'r peth gorau dwi wedi neud achos o'n i mor uchelgeisiol, oedd gyrfa yn popeth i fi fel person ifanc. Bydde fe wedi bod yn rhwydd i beidio stopio.

"Diolch i Dduw bod fi wedi achos maen nhw'n rhoi dimensiwn hollol wahanol ar fywyd.

"A'r penderfyniad gorau oedd ffeindio rhywun sy' moyn mynd ar y siwrne 'na gyda ti, mae hwnna'n bwysig - mae hwnna'n meddwl bod 'da ti'r cefn 'na a'r gefnogaeth a rhywun yn sownd wrtho ti. Dwi'n ffodus iawn."

Cymuned

Fel un o'r ardal, roedd Marian yn poeni am ymateb y gymuned i'r newyddion mai hi a'i theulu oedd wedi prynu ac yn adnewyddu'r ystâd: "Y darn anoddaf oedd pan aeth y newyddion allan - pan ddechreuodd pobl ffeindio mas.

"'Sei'n gwbod os o'n i bach yn naïf yn meddwl 'O na, bydd neb yn gwybod, allwn ni gario mlaen yn dawel bach'. Doedd hwnna ddim yn mynd i bara, dwi'n cofio teimlo 'Beth mae pobl mynd i feddwl?'

"Mae bach yn eironig achos yn fy ngwaith dwi'n helpu cwmnïau ac unigolion sydd â imposter syndrome a diffyg hunanhyder - dwi'n gwybod yn gwmws beth mae'n teimlo fel. Ni'n dal ein hunain nôl wrth gael meddylfryd fel 'na. Mae'n rhaid gwthio trwy hynny.

"Mae pobl wedi bod yn lyfli a dwi wedi colli cyfri ar faint o bobl sy' wedi dweud bod e mor neis bod cwpl Cymraeg wedi prynu. Doedd dim eisiau i Rob a fi boeni.

"Do'n i ddim wedi ystyried faint mor falch bydde pobl (i gael Cymry Cymraeg yn prynu'r stâd) - mae hwnna'n deimlad neis.

"Oedd Rob yn dweud bydd neb ni'n nabod yn gweld y gyfres ar S4C - wel am understatement! Mae pobl wedi 'nabod ni yn y stryd, pobl yn dod lan ato ni.

"Ond mae'n lyfli - yn enwedig pan ni mas fel teulu. A'r merched di cael adborth neis gan ffrindie nhw felly dwi'n falch o hynny."

Pa gyngor sy' gan Marian i entrepreneuriaid eraill?

Meddai: "Mae ishe mynd amdani - mae ishe mentro, mae pobl yn dal nôl a ffeindio rhesymau i beidio neud rhywbeth. Mae'n bwysig i fentro ac i ofyn am gyngor, peidiwch bod ag ofn gofyn i bobl sy' wedi neud rhywbeth tebyg.

"Yn aml dwi wedi neud gwaith 'da menywod busnes fel un o'r llysgenhadon o Gymru a dwi'n gweld menywod yn dweud 'I'm not good enough to do it, it's too much of a risk' - pobl hynod dalentog byddai'n gallu mynd yn bell ond yn dal nôl achos self-doubt. Mae angen mentro a mynd amdani.

"Ni'n prowd yn edrych nôl. Pan gwrddon ni gynta', os bydden ni wedi meddwl bryd hynny beth fydden ni'n cyflawni, bydden ni ddim wedi credu. Ni yn prowd ond yn cadw traed ar y ddaear a ddim cymryd unrhyw beth yn ganiataol."

Gwyliwch y gyfres Teulu'r Castell ar iplayer.

Pynciau cysylltiedig