Pum munud gyda Jade Leung, cyflwynydd Hansh
- Cyhoeddwyd
Mae Jade Leung yn gynllunydd priodas profiadol a hi yw cyflwynydd newydd y gyfres Be di'r Ateb ar Hansh. Cymru Fyw sy'n dod i adnabod Jade...
Sonia ychydig am dy hun.
Dwi'n byw yn Llanrug hefo plant fi (dwy o genod). Hogan o 'dre' ydw'i (Caernarfon) ond dwi'n byw yn Llanrug ers naw mlynedd ers symud yn ôl i'r ardal ar ôl ychydig o flynyddoedd yn byw a gweithio yn Newcastle a Llundain.
Dwi'n gweithio'n llawn amser i gwmni IT fel Events Consultant yn trefnu digwyddiadau yn Ewrop, Asia a De America ac hefyd fel Arweinydd Prosiect i gwmni virtual events.
Ti yw cyflwynydd y gyfres newydd Be di'r Ateb ar Hansh. Beth yw'r gyfres a beth yw dy rôl di?
Mae'r gyfres yn helpu pobl i ofyn cwestiwn mawr i rywun arall. 'Da ni wedi cael amryw o gwestiynau, o ofyn am investment i ofyn am waith, ond 'da ni hefyd yn helpu pobl i ofyn i rywun fod yn gariad 'offish'!
Dydi fy rôl i ddim rili fel cyflwynydd traddodiadol, mwy fel y person sydd yn eu helpu nhw i ofyn y cwestiwn. Maen nhw'n galw fi'n fixer sydd reit rhyfedd. Lot o bwysau i neud pethau yn iawn! Ond dwi wrth fy modd, dwi'n cael dod i adnabod nhw a be maen nhw eisiau ac wedyn dod fyny hefo plan i ofyn y cwestiwn mewn ffordd unigryw neu arbennig.
Ynghyd â bod yn gyflwynwraig rwyt ti hefyd yn gynllunydd priodas. Sut fath o berson sydd angen i ti fod er mwyn bod yn gynllunydd priodas a beth wyt ti'n ei fwynhau am y gwaith?
Yndw! Dwi wedi bod yn trefnu priodasau ers pum mlynedd ond dwi newydd wneud un olaf fi. Never say never, falle â i nôl i neud mwy yn y dyfodol, ond wnes i benderfynu yn ystod y pandemig i gymryd brêc bach.
Ti bendant angen bod yn berson trefnus, ond mwy na dim person sydd yn gallu meddwl yn glir o dan bwysau. Fydd na bob tro rywbeth yn digwydd sydd ychydig bach allan o control, fel tywydd drwg. Mae angen peidio bod yn ofn plan B a gallu cael ymlaen hefo pobl yn dda i gadw nhw yn relaxed hefyd.
Beth fyddai dy gyngor i rywun wrth fynd ati i gynllunio priodas?
Cofio mai diwrnod chdi ydi o, neb arall. Dyna ydi'r peth pwysicaf! Mae gymaint o bobl yn gwneud pethau a gwario pres mewn llefydd oherwydd na dyna ydi'r 'normal'. Ond dim dyna ydi ystyr y dydd naci, ond y cwpl!
Beth yw'r digwyddiad fwyaf diddorol i ti gynllunio?
Dwi wedi cynllunio gymaint o bethau erbyn hyn mae'n anodd meddwl! Dwi'n meddwl mai'r peth dwi'n gofio fwyaf clir ydi trefnu ras rhedeg 5k yn Rio, Brazil fel rhan o conference mawr. A dwi'n cofio fo mor dda gan fod y tywydd yn uffernol o ddrwg! Ras ar hyd y traeth yn Rio ... dylai wedi bod yn anhygoel, ac mi oedd o ond am resyma hollol annisgwyl! Oedd pawb a phopeth yn wlyb socian! The glamorous life of events!
Ar Be di'r Ateb ar Hansh rwyt ti'n cynghori pobl ar sut i fuddsoddi arian, a fel cynllunydd priodas rwyt ti'n gofalu bod cwpl yn medru cael eu diwrnod delfrydol o fewn cyllideb penodol. Ydy meddwl sut i gael y gwerth mwyaf o dy arian a sut i fuddsoddi'n llwyddiannus wastad wedi dod yn naturiol i ti?
Ymm, na! Ha! Mae hwnna yn rhwybeth dwi wedi datblygu hefo oed/profiad.
Tu hwnt i dy waith, beth wyt ti'n fwynhau ei 'neud yn dy amser hamdden?
Dwi'n dipyn o music fan - felly dwi wrth fy modd yn mynd i festivals. Nes i rili methu hynna yn ystod y pandemig! Ar wahân i hynna dwi'n gwneud ymdrech mawr ar hyn o bryd i drio pethau newydd ac i wneud y mwyaf o'r ardal. Dwi ar mission i gerdded gymaint a dwi'n gallu, nofio yn y llyn unwaith yr wythnos a fyswn i'n licio dysgu syrffio yr haf yma hefyd! Watch this space!
Hefyd o ddiddordeb: