Datgysylltiad tiwb ocsigen 'wedi prysuro marwolaeth'
- Cyhoeddwyd
![James Johnson](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/BC5A/production/_125581284_19250523-c749-44fb-bb5d-c19b7c10e243.jpg)
Roedd James Johnson wedi gorfod cysgodi yn ystod y pandemig oherwydd sawl cyflwr iechyd
Mae cwest wedi clywed bod marwolaeth cyn-brifathro o Wrecsam a aeth i Ysbyty Maelor gyda niwmonia Covid "wedi ei phrysuro" wedi i diwb ocsigen i'w fwgwd ddatgysylltu.
Roedd James Johnson, 83, yn cael ei drin mewn ward oedd yn gofalu am gleifion Covid a oedd angen cymorth CPAP i anadlu pan roedd y wardiau gofal critigol arferol yn llawn.
Clywodd cwest yn Rhuthun bod Mr Johnson wedi mynd i'r ysbyty ar 3 Ionawr 2021, a bod ei gyflwr wedi dirywio erbyn 13 Ionawr gan arwain at drafodaeth ynghylch rhoi gofal lliniarol.
Roedd ymhlith wyth claf oedd yn derbyn gofal gan ddau aelod o staff - yr unig weithwyr oedd yn gymwys i fynd i'w hystafelloedd ar y pryd wrth i staff brofi'n bositif am coronafeirws yn ystod y pandemig.
Fel arfer mae'n rhaid cael un nyrs i bob dau glaf sy'n derbyn gofal CPAP.
Cyflwyno trefn newydd
Roedd Mr Johnson wedi marw erbyn i feddyg alw i'w weld yn gynnar yn y prynhawn, ac fe welodd nad oedd tiwb ei fwgwd ocsigen wedi ei gysylltu gyda'r cyflenwad ocsigen.
Methodd ymchwiliad â chadarnhau sut y datgysylltodd y tiwb. Roedd yna ddyfalu y gallai Mr Johnson fod wedi pwyso arno wrth symud ond doedd dim tystiolaeth i gadarnhau hynny.
Ym marn peiriannydd meddygol a archwiliodd yr offer, roedd Mr Johnson yn rhy sâl i fod yn ddigon cryf i dynnu'r tiwb yn fwriadol.
O ganlyniad i'r ymchwiliad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno trefn ble mae angen un aelod staff ar unrhyw adeg yn ystafell claf CPAP i sicrhau eu bod yn cael eu monitro.
![Ysbyty Maelor Wrecsam](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/192D/production/_98054460_ad000dd7-6bf3-48c6-9daf-f5bd869cc75b.jpg)
Bu fawr James Johnson yn Ysbyty Maelor, Wrecsam
Wrth gofnodi casgliad naratif, dywedodd Crwner Canol a Dwyrain Gogledd Cymru, John Gittins, nad oedd yn bwriadu cyhoeddi Adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol yn yr achos yma.
Dywedodd bod y dystiolaeth yn amlygu bod y sefyllfa'n un anarferol iawn. Roedd y bwrdd iechyd, meddai, "dan bwysau enfawr" adeg marwolaeth Mr Johnson a staff "yn gwneud eu gorau".
Ychwanegodd bod hynny "ddim yn bychanu mewn unrhyw ffordd pa mor ofnadwy oedd yr hyn a ddigwyddodd" a oedd, meddai, wedi prysuro'r farwolaeth.
Dywedodd bod y bwrdd iechyd wedi cymryd camau i baratoi gorau medran nhw ar gyfer pandemig arall yn y dyfodol. Ond fe fynegodd bryder bod dim cofnodion cywir wedi eu cadw, er bydd yna hyfforddiant er mwyn mynd i'r afael â hynny.
Roedd James Johnson yn gyn-athro celf yn Ysgol Groves, Wrecsam cyn rhedeg cwmni adeiladu.
Roedd yn ysgrifennydd Clwb Golff Wrecsam ac yn golofnydd golff i bapur newydd y Leader am 40 o flynyddoedd.