Gwylio Cwpan y Byd yn Sbaen i osgoi costau uchel Qatar
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru yn paratoi i deithio i Tenerife yn ystod Cwpan y Byd yn hytrach na Qatar.
Cododd Bethany Evans yr awgrym ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl cael ei digalonni gan gostau cyrraedd Qatar.
Mae'n dweud y cafodd "llond awyren" o ymateb bron yn syth ar ôl crybwyll y syniad.
Ychwanegodd bod nifer eisiau dod o hyd i ffordd i ailgreu'r awyrgylch o ddilyn Cymru oddi cartref ar gyfer y pencampwriaeth.
Yn ôl Vince Alm o Gymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru, mae Tenerife a Chyprus ill dau yn dod i'r amlwg fel opsiynau poblogaidd.
Y gost yn rhwystr
Cyrhaeddodd Cymru ar gyfer eu Cwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Wcráin mewn gêm ail-gyfle yn gynharach y mis hwn.
Byddant yn chwarae eu tair gêm grŵp yn erbyn UDA, Iran a Lloegr ym mhrifddinas Qatar, Doha, rhwng 21 a 29 Tachwedd mewn stadiwm sy'n dal 40,000.
Dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yr wythnos ddiwethaf bod Cymru am dderbyn 3,200 o docynnau i bob gêm (8% o'r stadiwm) ond eu bod yn "gobeithio am fwy".
Mae tocynnau'n mynd ar werth ar 5 Gorffennaf trwy gynllun teyrngarwch sy'n cael ei redeg gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sy'n dyrannu pwyntiau i gefnogwyr yn seiliedig ar faint o gemau y maen nhw wedi mynychu eisoes.
Mae'r penderfyniad i gynnal y cystadleuaeth yn Qatar wedi'i feirniadu oherwydd pryderon am record hawliau dynol y wlad a'r ffaith fod bod yn hoyw yn anghyfreithlon yno.
Yn ôl swyddogion Qatar, bydd hon yn "dwrnamaint i bawb".
Dywedodd Bethany wrth Wales Live taw ei hymateb greddfol ar ôl gem Wcráin oedd "mae angen i mi fynd allan yna", ond daeth y gost yn rhwystr.
"Y rhataf y gallwn ei wneud e oedd gwario £3,500 i £4,000. Dechreuodd y Plan B yma fel tipyn o jôc a dweud y gwir.
"Roedd post ar un o fforymau Dinas Caerdydd yn sôn am bobl yn mynd i Qatar a chost pethau a dywedodd rhywun fyddai'n ddoniol iawn pe bai ni i gyd yn dod at ein gilydd yn Benidorm neu Tenerife.
"Ac roedd llawer o bobl yn ymateb, dweud mae hynny'n syniad da iawn.
"Felly fe wnes i godi'r peth ar Twitter a chafodd lawer mwy o sylw nag yr oeddwn i'n ddisgwyl."
Mae Bethany a'i ffrindiau eisoes wedi archebu lle mewn grŵp o 16 ac mae mwy na 100 arall wedi dangos diddordeb.
"Mae'n fater o ddod â phobl at ei gilydd fel y gallwn brofi'r teimlad o ddilyn Cymru oddi cartref mae mwyafrif y cefnogwyr eisiau profi, cael diod a chael hwyl gyda chefnogwyr Cymreig eraill."
Dywedodd Vince Alm ei fod yn gwybod am gefnogwyr sy'n gwylio Cymru gartref ac oddi cartref sydd wedi diflasu gyda'r costau a'r "cyfreithiau y mae'n rhaid i chi gadw atynt".
Dywedodd y gallai ddeall atyniad Tenerife a Chyprus oherwydd bod pobl yn teimlo "nad ydyn nhw yn mynd i allu mwynhau eu hunain" yn Qatar.
"Y gymuned bêl-droed i mi yw pan fyddwch chi'n cael cefnogwyr pump neu chwe gwlad efallai yn glanio yng nghanol tref neu ddinas yn rhywle, lle maen nhw'n croesi draw i fynd i ddinasoedd eraill, ac maen nhw'n treulio'r noson gyda'i gilydd, yn prynu cwrw i'w gilydd, canu ar y carioci, prynu pizzas gyda'i gilydd a stwff fel 'na.
"Bydd hynny i gyd ar goll yn Doha."
Mae'n cyferbynnu Qatar â Ffrainc, wnaeth gynnal Euro 2016.
"Rydyn ni i gyd mewn ardal 55km, does gennych chi ddim y dewis o fariau, bwytai, a dynameg gwahanol dinasoedd gwahanol.
"Felly i mi, dyma'r dewis anghywir."
'Llawer drytach nag yn ôl adref'
Mae Ross Struel Clarke o Abertawe yn hyfforddwr pêl-droed sydd wedi gweithio ar draws y byd, ac wedi symud i Doha rai misoedd yn ôl.
Dywedodd ei fod "mor falch" o weld baner Cymru'n codi ar bromenâd glan y dŵr Doha, y Corniche, a dywedodd fod y stadia newydd yn edrych yn "wych".
Ei gyngor i gefnogwyr Cymru sy'n gwneud y daith yw "parchu'r diwylliant" yn Qatar a pheidio â bod yn "rhy swnllyd".
"Dyw alcohol ddim ar dap fel ym Mhrydain, mae'n ddrud hefyd, mewn gwestai a phethau felly mae'n lawer drytach nag yn ôl adref.
"Ond dwi'n gwybod eu bod nhw'n mynd i gael alcohol yn y parthau cefnogwyr.
"Felly dwi'n meddwl yn Qatar a'r cyffiniau, os ewch chi i [farchnad] Souq Waqif, y Corniche neu West Bay, cofiwch i ddefnyddio synnwyr cyffredin, ond fe allwch chi ymddwyn yn normal mewn gwirionedd."
'Cyffrous iawn'
Mae Elin Thomas o Gaerdydd wedi penderfynu "nad yw'n barod i fentro" colli'r cyfle i weld Cymru yng Nghwpan y Byd, er bod ganddi bryderon am Qatar.
Mae'n talu rhwng £2,500 a £3,000 am becyn teithio i Doha, ac mae'n hyderus y bydd yn cael tocynnau gêm gan ei bod wedi bod i bron bob gêm gartref ac oddi cartref yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Dwi wedi gwario llawer o arian yn dilyn Cymru dros y blynyddoedd, ac mae'n debyg mai dyma benllanw'r cyfan," meddai.
"Does neb yn dal gwn yn fy mhen, mae'n rhywbeth rydw i'n dewis ei wneud oherwydd dwi'n meddwl bod yr hyn sydd gyda ni fel tîm ac fel Wal Goch yn hollol wych."
Mae Elin yn gobeithio mynd i rai gemau eraill yn ogystal â gemau Cymru.
"Mae bod yn rhan o'r teulu pêl-droed byd-eang cyfan yna yn gyffrous iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022