Niwed i'r ymennydd: Gobaith daw 'loteri côd post' i ben
- Cyhoeddwyd
Mae doctoriaid, cleifion ac elusennau yn gobeithio y bydd strategaeth newydd ar gyfer anafiadau i'r ymennydd yn dod â'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio'n "loteri côd post" am gefnogaeth i ben.
Mae Anafiadau a Gafwyd i'r Ymennydd, neu Acquired Brain Injuries, yn cyfeirio at niwed sydd wedi digwydd yn ystod eich bywyd, yn hytrach na chyn neu yn ystod genedigaeth.
Nod y strategaeth yw cynnig yr un math o gymorth i bobl ble bynnag maen nhw'n byw.
Un sy'n ystyried ei hun yn ffodus yw Tony Jenkins o Gasnewydd, sy'n derbyn triniaeth adferiad yn Nhŷ Aberdafen, canolfan arbenigol yn Llanelli.
Mae'n dweud ei fod yn benderfynol o "godi ar y ddwy droed yma eto", ac yn teimlo bod y ganolfan wedi rhoi ei ryddid yn ôl iddo.
"Dwi'n teimlo'n gryf," meddai, yn sgil rhaglen o ymarferion sy'n helpu iddo gryfhau'n gorfforol a chyd-symud ei gyhyrau'n well.
"Mae'r staff yn anhygoel ac rwy' mor ddiolchgar. Fydden i byth yn gallu ei wneud e heb y tîm yma.
"Mae 'na bositifrwydd tu mewn i mi."
Un teulu sy'n falch o weld y newidiadau ydy un Ian Morris Jones, gafodd ddamwain ddifrifol ar ei feic y llynedd, ac mae'n dal i wella.
Dywedodd ei wraig, Rhian Mair ar Dros Frecwast y byddai wedi gwerthfawrogi "cefnogaeth i ddelio efo'r sefyllfa" a mwy o wybodaeth am beth oedd o'u blaenau.
Rhywbeth arall y byddai'n hoffi ei weld, meddai, ydy cysylltiad gwell rhwng gwasanaethau ac arbenigeddau - un o amcanion y strategaeth newydd.
Y sefyllfa bresennol
Gall anaf i'r ymennydd gael effaith andwyol ar y sawl sy'n cael eu heffeithio;
Mae rhai wedi eu hachosi yn sgil trawma - yn dilyn damwain ffordd, cwymp neu ymosodiad;
Mae eraill yn gysylltiedig â salwch neu gyflyrau meddygol - er enghraifft enseffalitis, meningitis, strôc, camddefnyddio sylweddau, neu diwmor;
Bob blwyddyn yn y DU mae ychydig dan 350,000 o achosion angen triniaeth ysbyty;
Mae'r effeithio'n amrywio'n fawr o glaf i glaf, gan ddibynnu ar fath, difrifoldeb a lleoliad yr anaf.
Ffynhonnell: Elusen Headway
Yn ôl Simon Gerhand, niwroseicolegydd yn Nhŷ Aberdafen, fe fydd y strategaeth newydd yn gwneud "gwahaniaeth anferthol".
"Dyw anaf i'r ymennydd ddim yn unig yn effeithio ar yr unigolyn - mae'n effeithio pawb o'u hamgylch, eu teuluoedd, eu ffrindiau," meddai.
"Mae angen i gymdeithas yn gyffredinol gael gwell ymwybyddiaeth o hyn er mwyn helpu pobl i ffitio mewn unwaith eto."
Ond mae'n bryder ymhlith ymgyrchwyr ers blynyddoedd nad yw pawb yn cael yr un lefel o gefnogaeth.
Mae elusen Headway yn dadlau bod angen cydweithio ar draws llywodraethau ac adrannau gan fod cymaint o gyrff ac asiantaethau gwahanol yn delio â chlaf wedi niwed i'r ymennydd.
Mae'r rheiny'n cynnwys gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, ysgolion, carchardai a chyrff chwaraeon.
Y gobaith yw, trwy gael un strategaeth ac un set o safonau ac amcanion, y bydd yna gefnogaeth debycach ar draws y DU er budd pawb.
Gobaith am 'lai o anafiadau mewn degawd'
Un o'r rhai sy'n pwyso am y newid hwn yw AS Llafur Y Rhondda, Chris Bryant.
Cafodd ei ysgogi wedi i chwaraewyr rygbi yn ei etholaeth a oedd wedi dioddef anafiadau i'r pen gysylltu ag ef dros gyfnod o flynyddoedd.
Fe gyflwynodd Fesur Preifat yn Nhŷ'r Cyffredin yn galw am strategaeth newydd. O ganlyniad, aeth Llywodraeth y DU ati i sefydlu grŵp dan adain Adran Iechyd San Steffan, gyda Mr Bryant yn gyd-gadeirydd.
"Rwy' wedi dweud ers blynyddoedd bod cymaint o wahanol gategorïau o niwed i'r ymennydd, a bod llywodraethau ddim yn cydweithio fel un uned," meddai.
Dywed Mr Bryant y byddai cael un strategaeth a'r un protocolau ar draws y DU yn fuddiol o fewn y byd chwaraeon - wrth ymateb i achosion o gyfergyd, er enghraifft.
Mae hefyd yn pryderu "ynghylch nifer y carcharorion sydd ag anaf i'r ymennydd, a'r ystadegyn gofidus bod plant o gefndiroedd anghenus yn fwy tebygol o gael un na chyfoedion mwy cyfoethog".
Ychwanegodd: "Rwy'n gobeithio, mewn degawd, y bydd nid yn unig llai o anafiadau, ond gwell cefnogaeth ar draws Cymru."
Mae nifer o'r meysydd a fyddai'n cael eu heffeithio gan y strategaeth - fel iechyd, gofal cymdeithasol ac ysgolion - wedi eu datganoli.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau fod pobl Cymru'n gallu cymryd rhan mewn ymgynghoriad er mwyn cyfrannu at y strategaeth.
"Mater wedi'i ddatganoli yw iechyd, ond rydym yn edrych ymlaen at weld manylion llawn y strategaeth wrth iddo ddatblygu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd25 Awst 2021