Angen Senedd fwy ar Gymru, medd gweinidog
- Cyhoeddwyd
Mae angen Senedd fwy ar Gymru i wasanaethu'r genhedlaeth nesaf, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Daw ar ôl i aelodau Llafur mewn dwy etholaeth wrthod cynllun i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd a newid y ffordd maen nhw'n cael eu hethol.
Pleidleisiodd aelodau'r blaid yn Llanelli a'r Rhondda yn erbyn cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Ond fe groesawodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ddadl am "becyn hanfodol bwysig" o newidiadau.
Bydd cynhadledd arbennig Llafur Cymru ar 2 Gorffennaf yn penderfynu a ddylid cymeradwyo cynllun diwygio'r Senedd yn ffurfiol.
Byddai'n cymryd y Senedd o 60 i 96 o aelodau, gan gynrychioli 16 o etholaethau.
Byddai pleidleiswyr yn bwrw un bleidlais dros blaid adeg etholiad, gyda'r pleidiau yn penderfynu ar drefn yr ymgeiswyr y maen nhw'n eu cynnig.
'Da bod trafodaeth'
Dywedodd Ms Hutt fod aelodau Llafur yn ei sedd ym Mro Morgannwg yn cefnogi'r cynllun yn unfrydol, fel y mae pleidiau Llafur etholaethol eraill.
Dywedodd wrth raglen Politics Wales y BBC: "Mae etholaethau ar hyd a lled Cymru, yn gywir, yn trafod hyn.
"Mae hwn yn gyfle hanesyddol i ni, i'n cenhedlaeth nesaf, sicrhau bod gennym ni'r diwygiadau rydyn ni'n gwybod fydd yn gwasanaethu pobl Cymru.
"Mae'n dda bod yna drafodaeth."
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y dylai'r cynigion gael eu rhoi i refferendwm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022