Apêl dyn a achubodd achub bywyd cricedwr â diffibriliwr

  • Cyhoeddwyd
DiffibriliwrFfynhonnell y llun, CPD Caldicott Town

Mae dyn a achubodd bywyd cricedwr oedd wedi cael ataliad ar y galon yn ystod gêm yn galw am fwy o ymwybyddiaeth ynghylch sut i ddefnyddio diffibriliwr.

Roedd Robb Lewis yng Nghlwb Criced Sudbrook, ger Cil-Y-Coed yn Sir Fynwy, ddydd Sadwrn ble roedd yr ail dîm yn chwarae yn erbyn Dinas Powys.

Roedd y cricedwr, yn ei 40au, yn chwarae ar ran yr ymwelwyr pan gwympodd ar y maes.

Yn ôl Mr Lewis, o Gil-y-Coed, fe ymatebodd yn reddfol o'i brofiad gyda'r fyddin a'r gwasanaeth tân.

Dywedodd y tad i bedwar o blant, oedd hefyd yn dyst i'r hyn a ddigwyddodd, bod llawer o bobl yno "ond doedd neb wir yn gwybod be' i wneud".

"Neidiais i fewn a gwneud be' oedd yn naturiol i mi. Roedd lot o banig. Roedd yna gymaint o bobl ar y ffôn".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robb Lewis ei fod wedi ymateb yn reddfol pan welodd y cricedwr yn cwympo

Dywedodd Mr Lewis bod y cricedwr yn ymddangos fel nad oedd yn anadlu.

"Fe wnaeth ffrind i mi sydd ar bwyllgor y clwb symud pobl i ffwrdd, gan wneud hi'n haws i mi wneud be' rwyf wedi fy hyfforddi i'w wneud ac oedd yn naturiol i mi.

Cafodd y cricedwr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd ac mae Mr Lewis yn cael ar ddeall ei fod "yn effro ond yn ddryslyd".

Ffynhonnell y llun, Charlie Heaven
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd diffibriliwr yn Sudbrook ei ddifrodi ym Mehefin 2021

Y llynedd, cafodd diffibriliwr y clwb ei ddifrodi, ond dywedodd Mr Lewis bod argyfwng dydd Sadwrn wedi tanlinellu pa mor bwysig ydyn nhw.

"Rwy'n credu y dylai diffibrilwyr yn arbennig gael eu gosod ym mhob clwb chwaraeon," ychwanegodd y cyn chwaraewr rygbi.

"Mae ymwybyddiaeth yn rhywbeth anferthol. Gall plant ddefnyddio diffibrilwyr gan eu bod yn eich tywys drwy'r broses."

Pynciau cysylltiedig