Streic trenau: Cyhuddo Drakeford o gamarwain y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y streic effaith enfawr ar wasanaethau rheilffyrdd yr wythnos ddiwethaf

Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Mark Drakeford o gamarwain y Senedd wedi iddo honni fod staff o Gymru wedi cael eu symud i Loegr i gynnal y gwasanaethau yno yn ystod y streic ar y rheilffyrdd.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi sylwadau y Prif Weinidog fod Network Rail wedi symud staff o Gymru i helpu gwasanaethau yn Lloegr.

Gwadodd y cwmni eu bod wedi adleoli staff yn y fath fodd.

Ond mewn llythyr newydd dywed y Prif Weinidog ei fod wedi derbyn gwybodaeth sy'n nodi na chafodd staff eu symud.

Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Mr Drakeford o beidio â chywiro'r sylwadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ag ymateb i'r feirniadaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford yn wreiddiol fod Network Rail wedi symud staff i Loegr

Mewn sesiwn danllyd o Gwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth a oedd yn canolbwyntio ar y streic rheilffordd, dywedodd Mr Drakeford: "Mae Network Rail wedi symud rhai o'r staff, a allai fod wedi bod ar gael i redeg trenau yng Nghymru, er mwyn cadw trenau i redeg yn Lloegr."

Yn dilyn y sylwadau dywedodd llefarydd ar ran Network Rail Cymru a'r Gororau: "Nid oes unrhyw staff Network Rail wedi cael eu hadleoli o Gymru i Loegr yn ystod y gweithredu diwydiannol hwn."

'Angen cywiro'r sylwadau'

Yn wreiddiol dywedodd Llywodraeth Cymru fod Network Rail wedi rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio rhai "signalwyr wrth gefn i gadw llinellau i redeg dros y ffin".

Ond mewn llythyr at arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd dywed Mr Drakeford ei fod wedi derbyn llythyr gan Network Rail a oedd yn "nodi nad oedd staff wedi cael eu symud yr wythnos hon".

Dywedodd bod strategaeth Network Rail ar gyfer delio â'r streic yn "canolbwyntio bron yn llwyr ar reilffyrdd Lloegr" a'u bod wedi penderfynu mai "dim ond un gwasanaeth a fyddai'n cael blaenoriaeth yng Nghymru".

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo'r Prif Weinidog o wrthod â chywiro cofnod y Senedd ar y mater.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Fel un sy'n hoff o gyflwyno ei hun fel lladmerydd gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth mae Mr Drakeford wedi gwyro'n fawr oddi ar hynny."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i'r Llywydd ofyn i'r Prif Weinidog i gywiro ei sylwadau.

Mae Network Rail wedi gwrthod gwneud sylw.