Gadael gofal: Lansio cynllun incwm sylfaenol gwerth £20m
- Cyhoeddwyd
Bydd arbrawf gwerth £20m yn cynnig incwm sylfaenol i bobl ifanc sy'n gadael gofal yn cael ei lansio yng Nghymru ddydd Gwener.
O 1 Gorffennaf bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig £19,000 y flwyddyn yn ddiamod i ryw 500 o bobl ifanc 18 oed.
Dywedodd un sydd ar fin gadael gofal y byddai'r arian yn "flanced o ddiogelwch" wrth wynebu'r dyfodol.
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y gallai'r cynllun greu mwy o broblemau nag y mae'n ei ddatrys.
Mae swyddogion yn ceisio darganfod a all yr arian - sydd tua'r un lefel â'r cyflog byw - helpu pobl ifanc i fyw'n annibynnol.
Mae ymchwil yn awgrymu bod y rhai sy'n gadael gofal, yn gyffredinol, mewn mwy o berygl o fod yn ddigartref ac â phroblemau iechyd meddwl.
Dyma'r ymgais ddiweddaraf i brofi'r syniad o incwm sylfaenol, ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai dyma'r cynnig mwyaf hael o arian parod i unigolyn mewn unrhyw le yn y byd dan gynlluniau tebyg.
Ond fe fydd yr incwm, £1,600 y mis, yn cael ei drethu ac fe fydd yn cyfrif yn erbyn unrhyw fudd-daliadau, er gwaethaf gobeithion Llywodraeth Cymru y byddai gweinidogion y DU yn esgusodi'r arian rhag y ddau.
Sut gallai'r cynllun elwa pobl?
Dwy allai elwa o'r cynllun wrth iddyn nhw adael gofal yw Chloe a Chelsea.
Mae Chloe wedi bod mewn gofal ers yn saith oed ond mae ganddi gynlluniau i fynd i'r brifysgol. Dywedodd y byddai'r cynllun yn "ddefnyddiol iawn".
"Rydw i eisiau gwneud cwrs mewn gwaith ieuenctid. Rwy'n credu y bydd y cynllun yn helpu'n ariannol ac yn caniatáu i fi wneud pethau na fyddwn i'n gallu eu gwneud."
Dywedodd ei bod wedi bod yn "eitha' ffodus" gyda chefnogaeth ei theulu maeth, "ond rwy'n gwybod bod rhai pobl sy'n gadael gofal heb yr un fath o gefnogaeth deuluol".
Bydd yr arian yn help i dalu am bethau fel bwyd, meddai, ond mae'n gobeithio bydd modd cynilo rhywfaint hefyd.
"Os af i i'r brifysgol, fydd yn help i fi brynu pethau ar gyfer fy astudiaethau."
Dywedodd y byddai'r arian yn "flanced o ddiogelwch" a'i bod yn teimlo'n "lwcus iawn" i fod yn gallu cymryd rhan.
'Gwneud gwahaniaeth mawr'
Mae Chelsea wedi bod mewn gofal ers pan oedd hi'n bedair oed.
Dywedodd wrth BBC Cymru y byddai llawer o'r incwm sylfaenol yn mynd ar rent.
Mae hi hefyd yn gobeithio cynilo rhywfaint ohono hefyd - ac mae'n gobeithio cael swydd tra ar y cynllun.
"Rwy'n gwneud cais am unrhyw beth ar hyn o bryd."
Mae'n dweud nad yw hi'n "gallu aros" i fod yn oedolyn annibynnol, a dywedodd y byddai'r arian yn gwneud "gwahaniaeth mawr".
Un arall sydd wedi gadael y system gofal ac sydd wedi helpu swyddogion i lunio'r peilot yw Rhian - er na fydd hi ei hun yn gymwys am nad yw'n 18 yn y flwyddyn nesaf.
Mae'n dweud bod prinder cymorth yn aml i'r rhai sy'n gadael gofal.
"Mae'n newid mawr i ni fel pobl sy'n gadael gofal - o fynd o lwyth o gymorth i'r cymorth mwya' sylfaenol.
"Bydd hwn yn bendant yn rhoi hwb i bobl sy'n 18 oed eleni i wynebu bywyd go iawn ac yn rhoi cefnogaeth iddynt o ran cyllidebu."
Bydd y cynllun yn rhedeg tan 2025, gan gostio £20m, ac yn cael ei gynnig i bobl ifanc sy'n gadael gofal ac sy'n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf a 30 Mehefin.
'Buddsoddi mewn pobl ifanc'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y gallai'r peilot fod yn sail i ddadlau dros gynllun "o raddfa ehangach", os yw'r "addewidion sy'n cael eu gosod allan ar gyfer incwm sylfaenol wedi'u gwireddu'n ymarferol".
Dywedodd y bydd y rhai sy'n gadael gofal ac yn derbyn yr arian yn gallu gwneud penderfyniadau i fuddsoddi yn eu dyfodol, mewn pethau fel swyddi ac addysg.
Addawodd Mr Drakeford y byddai "cyngor ac arweiniad" ar gael i'r rhai sy'n rhan o'r peilot am hyd at ddwy flynedd.
"Os ydych chi'n anfon pobl ifanc o ofal allan i'r byd, lle maen nhw'n cael eu gadael ar eu pen eu hunain, rydyn ni'n gwybod bod yr unigolion hynny'n mynd ar goll yn llawer rhy aml - ac yna rydyn ni'n gorfod gwario llawer o arian yn y pen draw i geisio datrys hynny.
"Mae hon yn ffordd o fuddsoddi ym mywydau'r bobl ifanc hynny fel bod yr arian y byddech wedi'i wario'n ddiweddarach yn cael ei ddefnyddio'n llawer gwell."
Mae cynlluniau incwm sylfaenol wedi'u treialu ledled y byd i weld a ydyn nhw'n gweithio'n well na'r systemau lles presennol.
Yn ôl cefnogwyr y syniad o "incwm sylfaenol cyffredinol" - lle mae pawb mewn ardal yn cael swm o arian parod yn ddiamod - fe allai hyn helpu i osgoi "magl budd-daliadau" lle mae pobl yn colli arian trwy ddod o hyd i swydd.
Mae arbrofion ar raddfa fach eisoes wedi eu cynnal yn Kenya, Y Ffindir a Califfornia.
Cyhoeddodd gweinidogion Cymru gynlluniau i brofi incwm sylfaenol yn 2021, ond cafodd y syniad ei feirniadu ar ôl iddi ddod i'r amlwg eu bod am ganolbwyntio ar y rhai sy'n gadael gofal yn hytrach na grŵp ehangach.
'Gallai greu mwy o broblemau'
Mae swyddogion yn awyddus i weld a yw incwm sylfaenol yn ddefnyddiol i helpu pobl ifanc sy'n gadael y system ofal - sy'n aml yn wynebu heriau o ran dod o hyd i gartref sefydlog a chael swydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd rhyw 500 o bobl yn gymwys, ond y gallai'r nifer sy'n dewis cymryd rhan fod yn llai, oherwydd yr effaith posib ar fudd-daliadau ac ansicrwydd anochel sy'n rhan o gynllun newydd.
Ond mae'r cynllun wedi cael ei feirniadu gan y Ceidwadwyr Cymreig. Dywed llefarydd partneriaeth gymdeithasol y blaid, Joel James AS, eu bod yn "cydnabod bod hwn yn grŵp bregus, ac mae angen cymorth ychwanegol arnynt - ond dyma'r ffordd gwbl anghywir o fynd ati a gallai greu mwy o broblemau nag y mae'n ei ddatrys.
"Mae'n nodweddiadol o Lafur - ond mae'n amlwg na fydd rhoi arian am ddim yn ateb cyflym."
Mae Plaid Cymru ar y llaw arall yn croesawu'r cynllun a'u llefarydd ar yr economi, Luke Fletcher, yn dweud ei fod yn "edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei gael ar fywydau'r rhai sy'n cymryd rhan, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n digwydd.
"Wrth i ni ddechrau'r cynllun peilot, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn egluro sut y byddant yn cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal ac yn cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn, nid yn unig yn ystod y cynllun peilot ei hun ond hefyd ar ôl i'r peilot ddod i ben."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021