Baton y Frenhines yn dod i Gymru ar ôl teithio'r byd
- Cyhoeddwyd
Mae Taith Baton y Frenhines wedi cyrraedd Cymru gyda'r nod o roi cyfle i gymunedau ledled y wlad ddod at ei gilydd cyn dechrau Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham fis nesaf.
Mae'r daith ddechreuodd ym mis Hydref y llynedd yn tynnu tua'i therfyn wedi cyfnod o deithio ar hyd gwledydd y Gymanwlad.
Mae wedi ymweld ag Ewrop, Asia, Ynysoedd y De, y Caribî, a gwledydd America.
Ar gwch, drên stem, neu ar wifren wib, dros y pum niwrnod nesaf fe fydd y baton yn teithio bron i 500 milltir o ogledd Cymru tua'r de.
Bydd bron i 400 o bobl yn cludo'r baton ar draws 22 o ddigwyddiadau.
Mae unigolion sydd â "chefndiroedd a straeon ysbrydoledig" yn cludo'r baton rhwng lleoliadau ar ôl cael eu henwebu am eu cyfraniad i'w cymunedau lleol.
Cyrhaeddodd y baton Ynys Môn ar gwch fore Mercher ar ôl cyfnod o deithio o amgylch Gogledd Iwerddon.
Bydd yn ymweld â Gwynedd, Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro cyn teithio ar draws rhai o siroedd y de.
Mae'r trefnwyr yn annog aelodau'r cyhoedd i ddod i gefnogi'r unigolion sy'n cludo'r baton drwy strydoedd Cymru cyn teithio o amgylch Lloegr nes bydd y Gemau yn dechrau yn Birmingham ar 28 Gorffennaf.
Marc Falloon o'r RNLI yng Nghaergybi wnaeth ddod â'r baton i'r lan yng Nghymru.
Roedd bod yn rhan o'r seremoni, meddai, "yn anrhydedd mawr i fi, i Gaergybi ac i'r RNLI".
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod o'n anrhydedd mawr i'r dref i gyd ac mae'n golygu llawer i bobl i fod yn rhan o'r Gymwlad.
"Wna'i gofio hyn tra mod i'n fyw."
Roedd Llinos Lewis a'i theulu wedi dod i weld y baton yn cyrraedd gan bod un o'i meibion, Jac, wedi cael ei enwebu gan un o'i athrawon i gludo'r baton fore Mercher.
Mae Jac wedi codi arian ar gyfer elusennau ffibrosis systig, gan fod ei frawd, Celt yn byw gyda'r cyflwr.
"Mae'n ddiwrnod ffantastig i'r ynys... 'dan ni'n falch iawn," meddai Llinos.
Dywedodd Jac: "Dwi'n teimlo bod Ynys Môn yn fy mharchu - dwi jyst yn teimlo'n hapus!"
Cafodd Beca Haf Bown o Lannerch-y-medd ei henwebu i gario'r baton gan ei hysgol "achos dwi'n rhedeg lot" ac "wedi bod yn ddigon lwcus i gynrychioli Cymru" fel athletwr.
"Mae o'n golygu lot i mi," meddai. "Mae'n dangos bod yr holl waith caled wedi talu ac mae o jyst yn brofiad anhygoel".
'Ennyn cefnogaeth'
Yn ôl Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru, mae'r daith yn gyfle i "ddod â chymunedau Cymru at ei gilydd".
"Mae'n wir yn cryfhau'r gwaith o ennyn cefnogaeth ar gyfer Tîm Cymru yn Birmingham yr haf hwn," meddai.
"Mae'r trefnu a'r gwaith y mae holl awdurdodau lleol Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y digwyddiadau'n ddiogel, yn ddiffwdan ac yn bwysicaf oll yn ddiddorol ac yn hwyl."
Fe fydd taith y baton hefyd yn gyfle i arddangos "ysgolion, lleoliadau hanesyddol ac yn rhoi sylw i'n tirwedd hardd", medd Mr Jenkins.
Mae cynnal taith y baton wedi bod yn draddodiad ar gyfer Gemau'r Gymanwlad ers i'r baton ymddangos gyntaf yng ngemau Caerdydd yn 1958.
Fe ddechreuodd y daith i nodi'r gemau yn Birmingham ym Mhalas Buckingham ym mis Hydref 2021, pan osododd y Frenhines ei neges i'r Gymanwlad yn y baton cyn ei drosglwyddo draw i enwogion fel y bocsiwr Lauren Price, a enillodd fedal aur i Dîm Cymru yng ngemau 2018.
Mae'r trefnwyr a Thîm Cymru'n gobeithio y bydd modd i ddegau ar filoedd ar draws Cymru brofi'r wefr o weld y baton yn teithio ar draws cymunedau Cymru cyn cyrraedd Birmingham, gan roi hwb i bawb fydd yn cystadlu dros y wlad.
Hwb i gadw'n heini
Dywedodd Dawn Bowden, dirprwy weinidog chwaraeon a'r celfyddydau Llywodraeth Cymru, ei bod yn falch o groesawu'r baton fel rhan o ddathliad o fyd y campau, y celfyddydau a diwylliant.
"Mae Tîm Cymru yn anfon un o'u timau mwyaf o ran niferoedd ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, ac fe fydd yna nifer fawr o gampau i'w gwylio gan fwynhau ein prif athletwyr yn cystadlu yn Birmingham.
"Rwy'n gobeithio drwy wylio ein hathletwyr yn cystadlu fis nesaf, y bydd mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu hysgogi i gymryd rhan mewn chwaraeon neu ryw fath o ymarfer corff. "
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2022