Dan Jervis yn 'hapus ei fyd' wrth drafod ei rywioldeb
- Cyhoeddwyd
"Fe gymerodd o 24 o flynyddoedd i wybod pwy oeddwn i, ond nawr dwi'n hapus. Dwi'n hoffi pwy ydwyf."
Dyna oedd geiriau'r nofiwr Dan Jervis oedd yn llawn gwên wrth drafod yn gyhoeddus am y tro cyntaf y ffaith ei fod yn hoyw.
Ymhen rhai wythnosau, bydd y nofiwr yn cystadlu yn Ngemau'r Gymanwlad am y trydydd tro.
Ei obaith yn Birmingham yw ychwanegu medal aur 1500 metr dull rhydd i'r fedal efydd enillodd yn Glasgow yn 2014 a'r fedal arian ar Yr Arfordir Aur yn Awstralia bedair blynedd yn ôl.
Mae'r dyn o Resolfen ger Castell-nedd yn llawn hyder gan iddo gyrraedd rownd derfynol y 1500m yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo y llynedd, gan orffen yn bumed.
Ond newidiadau yn ei fywyd personol, yn fwy na dim, sy'n gyfrifol am ei hyder a'i bositifrwydd newydd - gyda Jervis nawr yn fodlon trafod ei rywioldeb yn gyhoeddus.
Er mai rygbi oedd yn teyrnasu yn y cwm, meddai, roedd yn gwybod mai nofio oedd y gamp iddo ers i'w fam-gu a'i dad-cu fynd ag e i'r pwll nofio lleol.
"Pe bai chi wedi gofyn i mi 18 mlynedd yn ôl, fy mreuddwyd oedd mynd i'r Gemau Olympaidd ac ennill medal aur - ac mae hynny'n dal yn wir heddiw," dywedodd.
Fe lwyddodd Jervis i gyrraedd y Gemau Olympaidd yn 2021.
Roedd yn cael ei adnabod fel un o nofwyr gorau Prydain, cystadleuydd Olympaidd a Chymro balch.
Ond nawr mae hefyd wedi siarad am y ffaith ei fod yn hoyw.
"Mae siwrne pawb yn wahanol, ond dwi'n meddwl fy mod o hyd wedi gwybod hyn," meddai.
"Doedd e ddim yn effeithio ar fy nofio, ond yn hytrach arnaf fi fel unigolyn. Mae'n swnio yn ddramatig, ond doeddwn i ddim yn mwynhau fy mywyd."
Cyfres o straeon, a bod yn westai ar bodlediad y BBC, The LGBT Sport Podcast, sydd yn rhannol wedi ysgogi Jervis i drafod ei rywioldeb yn gyhoeddus.
"Mae Michael Gunning yn nofiwr ac yn uchel ei glod yn y gamp, a dywedodd wrthyf y dylwn fynd ar ei sioe," meddai.
Dywedodd hefyd iddo glywed Mark Foster yn dweud ei fod am ymuno â'r pwysau i wneud bywydau pobl yn well.
"Roeddwn yn teimlo hynny hefyd. Pan oeddwn yn ifancach ac yn nofio, doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw nofiwr oedd yn gyhoeddus yn hoyw, felly doedd gennyf neb o ni'n teimlo oedd yn debyg i mi.
"Rydw i am fod y person yna i rywun arall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022