Gêm gyfeillgar ryngwladol: Cymru 0-0 Seland Newydd
- Cyhoeddwyd
Gêm ddi-sgôr oedd hi rhwng Seland Newydd a Chymru ar noson boeth yn Arena Pinatar, Sbaen nos Fawrth.
Seland Newydd oedd y tîm cryfaf yn y munudau cyntaf a Chymru'n ei chael hi'n anodd manteisio ar gyfleoedd.
Fe ddechreuodd tîm Gemma Grainger ennill mwy o hyder wrth i'r gêm fynd yn ei blaen. Roedd yna gyfleoedd gwych i Sophie Ingle a Natasha Harding - ond heb ganfod y rhwyd.
Roedd sawl ymdrech arall gan chwaraewyr fel Angharad James a Carrie Jones - ond bob un yn ofer.
Cafodd Seland Newydd gyfleoedd hefyd gyda Elizabeth Anton a Meikayla Moore yn bygwth.
Ar ôl yr egwyl roedd Cymru'n ei chael hi'n anodd i gadw meddiant a Seland Newydd yn herio ond y naill dim na'r llall yn llwyddo gyda'u pasio na'u hergydio.
Fe serennodd Rhiannon Roberts wrth atal gôl bosib i Seland Newydd.
Gyda 15 munud i fynd, daeth Helen Ward a Megan Wynne i'r cae - a gobeithion Cymru yn cynyddu.
Ond er gwaetha'r newidiadau a phedair munud o amser ychwanegol roedd hi'n ddiweddglo di-sgôr i'r gêm gyfeillgar.
Nawr bydd sylw Gemma Grainger a'r tîm yn troi at y ddwy gêm sy'n weddill yn eu hymdrechion i gyrraedd Cwpan y Byd - yn erbyn Slofenia a Gwlad Groeg ym mis Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2022