Ffrae dros roi arian o gyllideb Cymru i Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud na ddylid defnyddio arian ar gyfer y GIG ac addysg yng Nghymru i dalu am gymorth milwrol i Wcráin.
Mae Llywodraeth y DU yn rhoi £1bn i'r wlad, a'r gred yw bod £30m o hwnnw'n dod o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans bod y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd "yn ymroddi i gefnogi Wcráin" ond nad yw'n dderbyniol tynnu'r arian yma o feysydd sydd wedi eu datganoli, fel iechyd ac addysg.
Dywed Llywodraeth Cymru na wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori â nhw cyn cyhoeddi'r penderfyniad, ond gwadu hynny mae Llywodraeth y DU.
'Arfau, offer a hyfforddiant'
Mae cefnogaeth filwrol y DU i Wcráin yn ychwanegol i'r £1.5bn o gefnogaeth ddyngarol ac economaidd sydd eisoes wedi'i roi i'r wlad ers mis Chwefror.
Wrth siarad yn uwchgynhadledd NATO, dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson bod "arfau, offer a hyfforddiant y DU yn trawsnewid amddiffynfeydd Wcráin" rhag ymosodiad Rwsia.
Ychwanegodd: "Byddwn ni'n parhau i sefyll yn gadarn gyda phobl Wcráin i sicrhau bod [arlywydd Rwsia, Vladimir] Putin yn methu yn Wcráin."
Dywedodd Rebecca Evans: "Rydym wedi ymroddi i gefnogi Wcráin a'i phobl wrth i'r rhyfel barhau.
"Mae'n iawn i'r DU barhau i roi cefnogaeth filwrol sydd daer ei angen, a byddwn ni'n parhau i roi cefnogaeth ddyngarol i'r nifer fawr o bobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru bob diwrnod wrth geisio sicrhau noddfa rhag erchyllterau'r rhyfel yma.
"Yr hyn nad sy'n iawn yw defnyddio arian a ddylai fod ar gyfer buddsoddi mewn meysydd datganoledig, fel iechyd ac addysg, i ariannu gwariant maes sydd heb ei ddatganoli - cymorth milwrol ac amddiffyn.
"Rydym wedi derbyn y canlyniad yma oherwydd ein hymroddiad i gefnogi pobl Wcráin ac i osgoi ansicrwydd cyllidebol yn y dyfodol, ond Llywodraeth y DU ddylai fod yn ariannu'r meysydd hynny."
Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles wrth y BBC bod gweinidogion yng Nghaerdydd "wedi cael gwybod gan Drysorlys y DU y byddai'r gyllideb yn cael ei thorri".
"Doedd dim ymgynghori," meddai.
"O ystyried yr amgylchiadau eithriadol, rydyn ni wedi cytuno i hyn gan ein bod ni eisiau cefnogi pobol Wcráin," meddai, gan ychwanegu bod Rebecca Evans yn "trafod gyda gweinidogion Llywodraeth y DU sut y gallai rhywfaint o'r effaith gael ei liniaru".
Llywodraeth y DU 'wedi ymgynghori'
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae dweud na ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn anghywir - ymgynghorwyd â nhw a chytunwyd i wneud cyfraniad.
"Yn dilyn trafodaethau'r wythnos ddiwethaf gyda'r prif ysgrifennydd [yn y Trysorlys], cytunodd gweinidogion cyllid Llywodraethau Cymru a'r Alban i wneud cyfraniad fel rhan o'r cyllid sy'n cael ei ddarparu i wneud y mwyaf o'r ymdrech ryngwladol i gefnogi Wcráin, yn dilyn goresgyniad anghyfreithlon, digymell Rwsia."
Mewn ymateb i'r feirniadaeth ar raglen Dros Frecwast, fe fynnodd yr Is-Ysgrifennydd Gwladol David TC Davies nad yw Llywodraeth y DU yn "mynd i wneud unrhyw beth i danseilio datganoli".
Ychwanegodd bod angen gofyn i weinidogion Cymru "pam maen nhw isio [bod yn] gymysg mewn pethau sydd ddim [wedi eu] datganoli, yn enwedig gyda sefyllfa mor ofnadwy mewn ardaloedd sy'n cael eu datganoli".
Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd bod "dim cwestiwn" ynghylch "awydd amlwg" Llywodraeth Cymru i gyfrannu arian at gymorth milwrol i Wcráin.
Yr hyn sy'n destun dadl, meddai, "yw'r broses y cymerwyd yr arian yma", a'r egwyddor o barchu'r berthynas gydag unrhyw lywodraeth ddatganoledig.
"Mae hyn yn ymddangos yn groes i hynny ac nid am y tro cyntaf," meddai, gan gyfeirio at "fygythiad i danseilio" deddf Gymreig ar reoleiddio undebau llafur yn y sector gyhoeddus.
"Rwy'n meddwl bod hyn yn beryglus o'r safbwynt hwnnw, oherwydd mae'n rhaid i'r perthnasau rhwng llywodraethau'r DU fod yn rhai adeiladol, gan weithio ar sail parch y naill tua'r llall, cydweithio a chyfathrebu.
"O'r hyn rydyn ni'n ei glywed, ni fu ymgynghori gyda Gweinidog Cyllid Cymru o ran y broses yma ac yn sicr doedd dim cais i wneud y cyfraniad yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2021