'Cam yn ôl' i beidio parhau gydag erthyliadau cartref
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau i wneud erthyliadau cartref yn opsiwn parhaol i fenywod yng Nghymru, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno mesur dros dro ar ddechrau'r pandemig.
Dywedodd un darparwr erthyliad, Gwasanaeth Cynghori Beichiogrwydd Prydain (BPAS), y byddai'n "gam yn ôl" os nad oedd y newid yn cael ei wneud yn barhaol.
Er hyn, mae pryderon am ddiogelwch menywod sy'n dewis cael erthyliad adref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ar wneud y newid yn barhaol ym mis Chwefror, ar ôl i'r syniad gael ei groesawu gan glinigwyr a grwpiau menywod.
Mae'n rhaid i fenywod sydd eisiau cael erthyliad cynnar - o fewn naw wythnos gyntaf beichiogrwydd - gymryd dau fath o dabled.
Cyn Ebrill 2020 roedd rhaid cymryd y dabled gyntaf, mifepristone, mewn clinig cofrestredig, cyn cymryd yr ail un gartref.
Ond mae menywod yng Nghymru bellach yn gallu cymryd y ddwy dabled gartref, ar ôl cael ymgynghoriad ar-lein neu dros y ffôn gydag arbenigwr meddygol.
Mae'r newid i'r rheolau fod yn parhau tan 31 Mawrth 2022 neu nes bod y pandemig drosodd, fel rhan o ganllawiau i helpu atal lledaeniad coronafeirws.
Teimlo'n 'ddiolchgar' gallu cael erthyliad adref
Mae Jennifer, nid ei henw go iawn, yn fyfyriwr o dde Cymru.
Pan fethodd y dulliau atal-cenhedlu roedd hi a'i phartner yn defnyddio, yn ogystal â'r dabled atal-cenhedlu argyfwng cymrodd hi, penderfynodd gael erthyliad.
Ar ôl cael ymgynghoriad fideo gyda darparwr lleol, casglodd Jennifer - oedd saith wythnos mewn i'w beichiogrwydd - y tabledi o'r feddygfa cyn cymryd nhw'r un diwrnod.
Mae crampiau, gwaedu a chwydu yn symptomau cyffredin o gael erthyliad meddygol cynnar.
Ond yn achos Jennifer fe barhaodd y gwaedu a gwaethygodd ei symptomau ar ôl pythefnos.
Aeth i'r ysbyty am driniaeth yn y diwedd o ganlyniad i gymhlethdodau, ac roedd rhaid iddi gymryd mwy o feddyginiaeth.
Ond dywedodd Jennifer nad oedd ei phrofiad yn un cyffredin a'i bod hi'n "ddiolchgar" ei bod hi'n gallu cael erthyliad, yn enwedig un ble roedd hi'n gallu "cysuro ei hun" am y boen adref.
"Os oedd rhaid i fi gymryd y dos cyntaf ac wedyn cerdded adref dwi ddim yn meddwl byddwn ni wedi teimlo'n dda iawn oherwydd dechreuais i deimlo'n eitha' sâl," meddai.
"Fi'n falch o'n i'n gallu gorwedd mewn pelen adref."
'Rhoi mwy o bŵer i fenywod'
Dywedodd Vivien Rose, prif weithredwr clinigol yng nghlinig BPAS Caerdydd, bod y ddarpariaeth o ofal erthyliad meddygol ar-lein wedi "rhoi mwy o bŵer" i fenywod.
"Gallan nhw gael ymgynghoriadau ar amser sy'n siwtio nhw felly mae pobl yn cael mynediad i'r gwasanaethau'n gynt - does dim angen iddyn nhw fynd i'w meddyg teulu'n gyntaf."
Dywedodd BPAS bod hynny wedi arwain at ostyngiad mewn amseroedd aros, yn golygu bod erthyliadau'n cael eu cwblhau'n gynharach.
Mae erthyliadau yn fwy diogel y cynharaf maen nhw'n cael eu cynnal, yn ôl y GIG.
Dywedodd BPAS, sy'n rhedeg gwasanaethau erthyliad ar gyfer byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Powys, bod yr amser rhwng y cysylltiad cyntaf gyda'r clinig a'r driniaeth ei hun wedi gostwng o 11 diwrnod rhwng Ebrill a Gorffennaf 2020, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019.
'Pryderon difrifol' am erthyliadau cartref
Ond dywedodd y Gymdeithas Gristnogol Feddygol (CMF) bod ganddyn nhw "bryderon difrifol" am erthyliadau cartref a diogelwch y menywod sy'n eu cael.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â'r mesur dros dro i ben cyn gynted ag sy'n bosib.
Dywedodd Jennie Pollock, Pennaeth Cyswllt Polisi Cyhoeddus CMF: "Mae'r mesurau yma'n cael gwared ar yr amddiffynfeydd a chanllawiau cywir.
"Maen nhw'n cael gwared ar ddoctoriaid a nyrsys sydd yna rhag ofn bod rhywbeth yn mynd o'i le."
Dengys Cais Rhyddid Gwybodaeth bod nifer y galwadau am ambiwlans ar gyfer menywod oedd wedi cymryd meddyginiaethau erthyliad yng Nghymru wedi cynyddu o 11 rhwng Ebrill a Rhagfyr 2019, i 20 yn ystod yr un cyfnod yn 2020, ar ôl i'r rheolau gael eu newid.
Ond dywedodd Dr Jane Dickson, ymgynghorydd ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan bod y niferoedd yn "fychan".
"Yn fy ngwasanaeth i'n unig rydyn ni'n darparu erthyliadau i tua 45 menyw'r wythnos ac ar draws Cymru mae tua 7,500 erthyliad yn cael eu gweithredu pob blwyddyn. Mae'r cynnydd yn fach iawn," meddai.
Ychwanegodd bod menywod yn cael eu "hasesu'n drwyadl am unrhyw bryderon diogelwch" a byddan nhw'n cael eu gofyn i ddod i'r clinig ar gyfer sgan ac ymgynghoriad os oedd unrhyw bryderon.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe gyflwynon ni'r mesurau dros dro yma, a gafodd eu datblygu a'u cefnogi gan glinigwyr, i wella diogelwch yn ystod y pandemig Covid-19.
"Mae'r gwasanaeth hefyd yn cael ei ddarparu ar-lein a rhaid i glinigwyr drefnu i fenyw ddod i glinig os oes yna unrhyw bryderon am gywirdeb y cyfnod beichiogrwydd.
"Mae clinigwyr sy'n gweithredu'r gwasanaeth yn fodlon bod y mesurau dros dro yn ddiogel i'r menywod sy'n eu defnyddio."
Ymateb y pleidiau
Mae Llafur Cymru yn dweud ei fod "yn ymrwymo at gadw sgyrsiau'n agored gyda grwpiau menywod a chlinigwyr ac i ystyried yr ymatebion yn llawn cyn cymryd unrhyw gamau".
"Yn bennaf byddan ni'n rhoi ystyriaeth i unrhyw beryglon clinigol a diogelwch cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol am wneud y mesur yn barhaol."
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn "ystyried erthyliad i fod yn fater o gydwybod" a'i fod "lan i bob cynrychiolwr etholedig i bleidleisio felly".
Gofynnwyd i Blaid Cymru am sylw.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig byddan nhw'n "parhau i ddatblygu meddyginiaeth ar-lein ac ymgynghoriadau o bell, yn cynnwys cyngor erthyliad a Gwasanaeth Rhyw Gymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018