Lluniau: Gŵyl y Felinheli nôl wedi'r pandemig
- Cyhoeddwyd

Wedi seibiant oherwydd y pandemig mae gŵyl gymunedol pentref Y Felinheli ar lannau'r Fenai wedi dychwelyd o'r diwedd ar gyfer wythnos o ddigwyddiadau a dathliadau.
"Mi fuodd na gynnwrf mawr ar lannau'r Fenai wrth i'r pentref ddod at ei gilydd yn iawn am y tro cyntaf ers blynyddoedd," meddai Osian Owen o bwyllgor Gŵyl Y Felinheli, dolen allanol.
"Mi rydan ni'n teimlo'n falch ohoni. Dyma lle mae'r pentref cyfan yn dod ynghyd, o bob cenhedlaeth, i ddathlu'r gymuned unigryw ydan ni'n cael y fraint o fod yn rhan ohoni."
Dyma flas ar rhai o uchafbwyntiau'r wythnos mewn lluniau - o sioe dalent Stŵr wrth y Dŵr, noson gwis, Ras 10k, ffair cynnyrch lleol, noson lawen, a gorymdaith a charnifal ar y dydd Sadwrn olaf.

Y babell yn orlawn ar noson Stŵr wrth y Dŵr

Dave Parry Evans a 'Cags' a'u giamocs blynyddol

Aelodau o'r pwyllgor yn cael eu hypnoteiddio!

Llŷr Ifans yn diddannu ar Noson Stŵr wrth y Dŵr

Mae rhai yno am un rheswm yn unig...

Sesiwn Mentro Hwylio yng nghlwb hwylio'r pentref

Plant y Felin yn defnyddio'u holl nerth i wthio'n erbyn lli'r Afon Menai

O hwylio i synfyfyrio... blas ar ioga efo Leisa Mererid

A blas ar win ar y Noson Blasu Gwin

Awyr las yn croesawu'r busnesau bach ar gyfer Ffair Cynnyrch Lleol

Gwneud y mwyaf o'r 'freebies'...

'Be ga'i dwad?'

Noson Hwyl i'r Plant

Gruff John a 'Fish' o bwyllgor yr ŵyl yn mentro yn y cwis

Enillydd y ras 10k oedd Adam Jones

I Amgueddfa Lechi Llanberis aeth Taith yr Henoed eleni

Band Pres Porthaethwy yn llenwi'r stryd gyda sŵn i'r orymdaith a'r carnifal i gloi'r ŵyl ar ddydd Sadwrn

CPD y Felinheli ar eu ffordd i Gwpan y Byd?

Gwyliwch mae'r Minions wedi cyrraedd!

Roedd yr oedolion yn ymuno yn hwyl y gwisg ffansi hefyd

Un fôr-forwyn fach ar ei ffordd at y Fenai

Ymysg y bandiau oedd yn diddanu ddydd Sadwrn roedd Fleur de Lys ac Achlysurol

Trampolîn, hwyl, haul a golygfa hyfryd dros y Fenai - y cyfuniad perffaith

Drymwyr Bloc o Sŵn gyda'u mascot arbennig

Roedd y gymuned wedi dod i fwynhau yn yr haul wedi colli dwy flynedd o'r ŵyl oherwydd Covid

Machlud ar y Fenai
Mae mwy o luniau i'w gweld ar wefan yr ŵyl., dolen allanol