Ymosodiad Trefynwy: Dyn yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc 19 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa mewn cysylltiad a marwolaeth dyn ynghanol tref Trefynwy yn hwyr nos Sadwrn 26 Mehefin.
Cafodd corff Andrew Nicholas, 43, o Poole, Dorset ei ddarganfod yn gorwedd yn anymwybodol ym mhrif stryd y dref yn oriau man bore Sul. Bu farw o'i anafiadau ar 30 Mehefin.
Bu Morgan Wainewright, 19, o Mid Summer Way, Trefynwy, o flaen ynadon wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Yn dilyn marwolaeth Mr Nicholas fe ymddangosodd Wainewright yn Llys y Goron Casnewydd a'i gadw yn y ddalfa.
Fe fydd o flaen y llys eto yn ddiweddarach yn y mis.