Ail Brawf: De Affrica 12-13 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Josh Adams yn erbyn De AffricaFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Josh Adams unig gais y prynhawn ar ôl dod i'r maes yn lle Alex Cuthbert

Mae Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth hanesyddol a chofiadwy, os annisgwyl, yn erbyn De Affrica yn Ail Brawf Cyfres yr Haf.

Gareth Anscombe a Josh Adams oedd yr arwyr yn Stadiwm Toyota, Bloemfontein wrth droi'r fantol ar ddiwedd gêm yr oedd y tîm cartref wedi ei rheoli'n llwyr am gyfnodau helaeth.

Gyda llai na chwarter awr yn weddill, a thîm Wayne Pivac dan bwysau, roedd yn ymddangos bod ciciau'r capten Handre Pollard wedi sicrhau'r fuddugoliaeth - a'r gyfres - i'r Springboks.

Ond fe sgoriodd Adams gais hwyr - unig gais y gêm - cyn i Anscombe gadw'i ben a throsi un o giciau pwysicaf ei yrfa i gipio'r fuddugoliaeth.

Cafodd Cymru'r dechrau gorau bosib, gan sgorio triphwynt cyntaf y gêm gyda munud yn unig ar y cloc. Troseddodd y blaenasgellwr Pieter-Steph du Toit i ildio cic gosb ac fe giciodd y capten Dan Biggar yn gywir i wneud hi'n 0-3.

Ond yn fuan iawn roedd y Springboks wedi setlo a Kurt-Lee Arendse a'r wythwr Evan Roos yn bygwth llinell Cymru yn gynnar yn eu gemau prawf cyntaf. Gyda naw munud ar y cloc roedd y gêm yn gyfartal wedi cic gosb lwyddiannus Pollard.

Roedd yna gyfle i Gymru fynd ar y blaen eto, ond fe fethodd Biggar gic gosb o bell.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Dan Biggar pwyntiau cyntaf y gêm

Bu'n rhaid i Alex Cuthbert - yr unig newid i'r tîm a gollodd yn y prawf cyntaf - adael y maes yn yr 17eg munud ac fe ddychwelodd Josh Adams i'r asgell yn ei le.

Cynyddu'r momentwm wnaeth De Affrica wedi hynny gan orfodi Cymru i dreulio cyfnod helaeth yn eu hardal 22 eu hunain. Ond fe fethodd Pollard gyfle i roi ei dîm ar y blaen wedi i Gymru ildio cic gosb.

Serch hynny, y Springboks wnaeth rheoli'r chwarae weddill yr hanner ac fe ddangosodd chwaraewyr fel Tommy Reffell a Dan Lydiate gymeriad wrth atal ymosodiadau a chadw'r sgôr yn gyfartal.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd y gyfres yn dal yn y fantol felly ar ddechrau'r ail hanner, gyda Tomos Williams ar y cae yn lle Keiran Hardy.

Ond wedi pedwar munud o chwarae roedd De Affrica ar y blaen am y tro cyntaf wedi ail gic gosb Pollard.

Fe allai Biggar wedi gallu unioni'r sgôr ddau funud yn ddiweddarach ond fe giciodd yn aflwyddiannus am yr eildro.

Ond llwyddo wnaeth Pollard gyda'i drydedd gic gosb yntau o'r prynhawn, gan estyn mantais ei dîm i 9-3 wedi 52 o funudau.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Will Rowlands yn ei ugeinfed ymddangosiad rhyngwladol

Cynyddodd y tempo, a'r pwysau ar Gymru, wrth i chwaraewyr De Affrica godi gêr, ac fe ddaeth Alun Wyn Jones i'r maes yn lle Will Rowlands yn yr ail reng.

Ond o fewn ychydig funudau, ac am yr ail benwythnos yn olynol, fe welodd gerdyn melyn a'i hel i'r gell gosb ond roedd sylwebwyr o'r farn iddo gael ei gosbi'n annheg.

Gyda Chymru lawr i 14 dyn, fe estynnodd Pollard y bwlch i 12-3 gyda'i bedwaredd gic gosb gywir.

Daeth Josh Navidi ymlaen yn lle Lydiate, ac yna Sam Wainwright i sicrhau ei gap rhyngwladol cyntaf wedi i Dillon Lewis adael yn dilyn anaf.

Roedd yna lygedyn o obaith wedi cic gosb berffaith o bell gan Anscombe i wneud hi'n 12-6 gyda 13 munud o'r 80 i fynd.

Dychwelodd Alun Wyn Jones i'r cae, ond roedd yna arwyddion o flinder ymhlith chwaraewyr y ddwy garfan ar drothwy'r 10 munud olaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gyda phum munud yn weddill, fe lwyddodd Cymru i gyfeirio'r bêl o'r lein yn ddwfn i dir y tîm cartref, gan greu'r cyfle gwirioneddol cyntaf i'w rhoi hwythau dan bwysau a mentro er mwyn ceisio cipio'r fuddugoliaeth.

A dyna'n union y gwnaethon nhw gyda dau funud yn weddill - prin oedd George North wedi cael cyffyrddiad drwy'r gêm, ond roedd ei bás at Adams yn allweddol ac fe wibiodd yr asgellwr i'r gornel a thirio.

Roedd trosiad Anscombe o ongl dynn yr un mor gampus, ac yn groes i lif y chwarae am fwyafrif y prynhawn roedd Cymru bwynt ar y blaen gyda munudau'n unig i amddiffyn y fantais.

12-13 oedd y sgôr terfynol felly ac mae buddugoliaeth hanesyddol Cymru'n cadw'r gyfres yn fyw ar gyfer diweddglo cyffrous i Gyfres yr Haf yn y Trydydd Prawf yn Cape Town ddydd Sadwrn nesaf.

Pynciau cysylltiedig