Dan Biggar yn holliach ar gyfer y gêm fawr yn Cape Town
- Cyhoeddwyd
Mae Dan Biggar wedi ei enwi yn nhîm Cymru i wynebu De Affrica yn y gêm brawf yn Cape Town ddydd Sadwrn.
Bydd capten Cymru yn dechrau fel maswr ar ôl gwella o anaf i'w ysgwydd.
Mae'r prop Dillon Lewis hefyd yn ffit ond mae Alex Cuthbert wedi dychwelyd adref, gyda Josh Adams yn cymryd ei le ar yr asgell.
Cafodd Biggar, Lewis a Cuthbert eu hanafu yn ystod y gêm ddydd Sadwrn diwethaf yn Bloemfontein wrth i Gymru hawlio buddugoliaeth gyntaf dros y Springboks ar eu tomen eu hunain.
Ond mae Pivac wedi llwyddo i ddewis y tîm ddechreuodd y prawf cyntaf 12 diwrnod yn ôl pan gafodd Cymru eu curo 32-29 gyda chic gosb hwyr Damian Willemse yn Pretoria.
Yn y cyfamser, bydd y canolwr George North yn gwneud ei 105fed ymddangosiad rhyngwladol.
Mae'n symud uwchben Stephen Jones i fod yr olwr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau rhyngwladol i dîm y dynion.
Tîm Cymru i wynebu De Affrica ar 16 Gorffennaf:
Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar (capt), Kieran Hardy; Gareth Thomas, Ryan Elias, Dillon Lewis, Will Rowlands, Adam Beard, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Dewi Lake, Wyn Jones, Sam Wainwright, Alun Wyn Jones, Josh Navidi, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Owen Watkin.
Tîm De Affrica:
Damian Willemse; Cheslin Kolbe, Lukhanyo Am, Damian de Allende, Makazole Mapimpi; Handre Pollard, Jaden Hendrikse; Trevor Nyakane, Bongi Mbonambi, Frans Malherbe; Eben Etzebeth, Lood de Jager; Siya Kolisi (capt), Pieter-Steph du Toit, Jasper Wiese,
Eilyddion: Malcolm Marx, Steven Kitshoff, Vincent Koch, Franco Mostert, Kwagga Smith, Elrigh Louw, Faf de Klerk, Willie le Roux.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2022