Y Gymraes o'r Alban: Y cerddor Gwen Màiri
- Cyhoeddwyd
"Wyt ti'n mynd adref am y gwyliau?" neu "Pryd fyddi di'n symud 'nôl i Gymru?" - dau gwestiwn mae'r cerddor a'r Albanes Gwen Màiri yn 'laru arno'n aml.
Pam? Achos 'dydi hi erioed wedi byw yng Nghymru er mai Cymraeg yw ei hiaith gyntaf gan i'w Mam ddod o Faes-y-Crugiau ger Llandysul.
Wedi ei geni a'i magu yn Fife a St Andrews yn nwyrain yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Glasgow gyda'i theulu ifanc.
Bu'n rhannu sut beth yw bod â hunaniaeth Geltaidd ddeuol gyda Cymru Fyw.
Albanes neu Gymraes?
Y cyflwynydd radio a'r cerddor Georgia Ruth sydd wedi gallu rhoi ei bys ar hunaniaeth Gwen orau.
Eglura Gwen: "Wnaeth Georgia Ruth fy ngalw yn 'Y Gymraes o'r Alban' wrth fy nghyflwyno i ar Radio Cymru un tro.
"Roedd y disgrifiad yna yn 'neud synnwyr i fi. Fyddwn i'n galw'n hunan yn Albanes ond mae'n od - achos fi'n teimlo sa i'n gallu gweud bo fi'n Gymraes achos sa i byth wedi byw yng Nghymru ond dyna ble mae'r rhan fwya' o nheulu.
"Mae teulu Dad sydd o ddinas Stirling, canolbarth yr Alban, yn fach, ond mae teulu mawr 'da fi yng Nghymru felly mae'r traddodiadau wedi dod o Gymru.
"Cymraeg oedd yr iaith gyntaf ar yr aelwyd, wnaeth Dad, sy'n Albanwr, ddysgu Cymraeg a oedd Mam a fi a 'mrawd 'mond yn siarad Cymraeg efo'n gilydd nes o'n i'n teenagers. O'n i'n siarad Cymraeg efo'r ci hefyd!"
Ieithoedd brodorol: Gaeleg a Scots
Mae Gaeleg a Scots yn cael eu cydnabod fel ieithoedd brodorol yn yr Alban; Gaeleg sydd yn iaith Geltaidd a Scots sydd yn perthyn i'r Saesneg.
Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd 1.7% o boblogaeth yr Alban yn gallu ychydig o Aeleg, ac 1.1% yn dweud eu bod yn siarad Scots yn y cartref.
Mewn cymhariaeth, dywedodd 19% o bobl Cymru eu bod yn siarad Cymraeg.
Fel Albanes a siaradai Gymraeg ond nid Gaeleg, roedd yr ysfa i allu siarad un o chwaerieithoedd y Gymraeg yno erioed.
Eglura Gwen: "O'n i wastad â diddordeb. Gath Dad ddim ei fagu yn siarad Gaeleg - heblaw bod teulu gyda ti yn yr ynysoedd 'sdim llawer o Aeleg i'w glywed - ond mae e'n siarad Scots, a mae'r teulu'n llawn o siaradwyr Scots.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Dwi'n cofio mynd i'r coleg ac oedd 'na rywun o Ynys Lewis yna a o'n i mor gyffrous i feddwl bod rhywun arall yn siarad iaith Geltaidd a wedyn wnes i ofyn 'Oh do you speak Gàidhlig then?' a wedodd hi 'na' ac o'dd hi'n horibl ambyti'r iaith ac o'n i mor siomedig."
Bellach, mae Gwen yn dysgu Gaeleg ers cychwyn dysgu'r delyn yn Sgoil Ghàidhlig Ghlaschu, ysgol gynradd ac uwchradd cyfrwng Gaeleg yn Glasgow.
Meddai: "Cyn cael y swydd yn yr ysgol ro'n i'n pigo bach o'r iaith lan achos os ti'n chwarae cerddoriaeth draddodiadol ti'n pigo pethe lan drwy hen alawon ac ati. Wedyn, dwi wedi bod yn cael gwersi nos ambell waith ond dwi ddim yn rhugl o bell ffordd."
Ni chafodd Gwen unrhyw fath o addysg Gaeleg yn yr ysgolion yn St Andrews tra'n tyfu i fyny. Er iddi golli allan ar yr iaith yn ei magwraeth hi, heddiw mae hi'n falch o yrru ei meibion, Lewys ac Aneirin, i'r ysgolion cyfrwng Gaeleg yn Glasgow.
Meddai: "Mae Lewis ac Aneirin, sy'n 14 a 12 oed, yn gwneud eu gwaith ysgol i gyd drwy Gaeleg, a maen nhw'n naturiol ynddo.
"Fasa nhw'n fwy naturiol os fasa ni'n byw ar yr ynysoedd ond maen nhw'n 'neud eu holl bynciau trwy gyfrwng y Gaeleg felly maen nhw yn hollol rhugl er nad ydyn nhw yn siarad yr iaith gyda'u ffrindiau. Ond maen nhw eitha' da."
Aelwyd yn yr Hen Ogledd
O tua'r pumed i'r seithfed ganrif roedd Glasgow yn rhan o deyrnas Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd lle roedd y Brythoniaid yn teyrnasu ac yn siarad Hen Gymraeg.
Fel Cymraes o'r Alban mae'r hen gysylltiad sy'n pontio ei hunaniaeth Albanaidd a Chymreig yn bwysig.
Eglura: "Fi'n hoffi'r ffaith fod y cysylltiad yna i gael. Does dim llawer o ymwybyddiaeth - fe es i rhyw ddiwrnod i weld y Govan Stones lawr yr hewl yn Glasgow; meini sy'n dyddio 'nôl i'r 9fed ganrif a sy' wedi'u cerfio gan y Brythoniaid sef yr hen Gymry.
"Mewn amgueddfeydd ac ati yn yr Alban, maen nhw'n siarad am y Brythoniaid ond does dim llawer o eglurhad am Ystrad Clud a'r Hen Ogledd a'r cysylltiad rhwng fan hyn a Cumbria a Chymru - 'sdim llawer o bwyslais ar hwnna."
Mae Gwen yn falch o gyflwyno rhan o hanes cynnar Cymru i'w meibion, gyda'i mab Aneirin yn rhannu'r un enw â un o feirdd cynharaf yr iaith Gymraeg oedd yn byw yn yr Hen Ogledd.
"Pan oedd y plant yn fach doedd y cysylltiad gyda'r Hen Ogledd ddim yn meddwl dim byd ond yn ddiweddar mae'r geiniog wedi disgyn a maen nhw yn gweld y cysylltiad Celtaidd rhwng siarad Gaeleg a Chymraeg yn Glasgow."
Telynores sy'n plethu diwylliannau
Wedi dysgu chwarae'r delyn fach fel plentyn cyn mynd ymlaen i astudio'r delyn bedal yn Academi Frenhinol Cerdd a Drama yr Alban, mae Gwen yn gerddor llawn amser ac yn rhannu ei hamser rhwng cerddorfeydd proffesiynol, fel athrawes delyn, deuawdau siambr a chyfansoddi a chanu ei halawon ei hun yn ogystal â rhai traddodiadol o'r Alban a Chymru.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni, "sy'n teimlo fel Eisteddfod gartref" i Gwen sydd â theulu o'r ardal, bydd hi'n ail-ryddhau ei halbwm, Mentro.
Mae'r albwm yn cynnwys hen alawon gwerin Cymru ac alawon mae Gwen wedi'u cyfansoddi ei hun. Mae hi hefyd yn dathlu ei chysylltiad personol â Chymru trwy eiriau rhai o'r alawon - cerddi ei thad-cu - y bardd gwlad J.S. Jones o Lanllwni a cherdd fuddugol ei Mam, Mary, yng nghystadleuaeth y gadair yn Ysgol Llanbedr Pont Steffan pan oedd hi'n 16 oed.
"Mae'r traddodiad Cymreig yn rhan fawr o be dwi'n neud. Ond wrth gyfansoddi fy hun, dwi wedi tyfu lan yn yr Alban, dwi wedi dysgu Gaeleg yn yr Alban, a fi'n gwbod bod fy steil i'n fwy Albanaidd na Chymreig, dwi'n siŵr bo' hwnna yn dod trwyddo."
Er y siwrne faith, mae dychwelyd i Gymru i berfformio wastad "yn gyfle da i networkio" ac mae Gwen yn edrych ymlaen at rannu llwyfan yn yr Eisteddfod gyda'i ffrind, Gwilym Bowen Rhys a cherddorion eraill.
Refferendwm yr Alban
Yn ogystal â'r cyfle i ddysgu Gaeleg (fel sydd gan ei meibion) mae'r Alban wedi newid yn ystod ei hoes hi, meddai Gwen, ac ar groesffordd newydd gyda'r posibilrwydd o refferendwm annibyniaeth.
Mae Gwen yn barod i fwrw ei phleidlais ie dros annibyniaeth. Meddai: "Fi'n teimlo bod gymaint wedi newid rŵan yn y flwyddyn dwytha, dwi'n credu fod e'n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd a dwi'n teimlo fwy gobeithiol nac yn 2014."