Rhedeg pob un Ras Yr Wyddfa ers 1976
- Cyhoeddwyd
"Os wnâi o gwmpas dwy awr mi fyddai'n eitha' hapus, os dorra'i ddwy awr, mi ga'i ddau beint!"
Mae Malcolm Jones, 71, o Dremadog wedi rhedeg pob Ras Yr Wyddfa ers iddo ddechrau fel ras fach leol yn 1976.
Does 'na neb arall yn gallu hawlio'r teitl hwnnw ac er y rhwystrau, fel brwydro canser un flwyddyn, mae'n mentro am y 45fed tro eleni.
"Gweld o ar y telifision noson gynt nes i," meddai Malcolm wrth gofio'n ôl i '76. "Dwi'n cofio mynd i Lanberis ag oedda' chdi yn registro yn y clwb ffwtbol, oedd Gwyneth y wraig a'r plant yn car.
"Doedd gen i ddim digon o bres yn fy mhocad a dyma fi'n gorfod mynd yn ôl i'r car i chwilio am fwy! £1 oedd o bryd hynny.
"Oni erioed di bod fyny'r wyddfa... honno oedd y tro cynta' i fi fod i fyny."
Awr a 44 munud oedd amser Malcolm ar y diwrnod hwnnw ac ar ôl blas ar redeg mynydd uchaf Cymru fe ddaeth yr achlysur blynyddol yn rhan o'i fywyd am byth.
"Oni'n ceiso gwella fy amser bob blwyddyn. Ar ôl 10 mlynedd nes i feddwl, sgwn i os fedrwn i gario mlaen i wneud 15, ac yna sgwn i os fedrai gwneud 20? Ac fel na mae hi di bod yn mynd a dwi di cyrraedd 45 mlynedd."
'Pethau wedi newid'
Roedd y byd rhedeg yn edrych yn wahanol iawn yng nghanol y 70au i sut mae hi heddiw.
"Doedd gen i ddim sgidia iawn a dwi'n cofio dod yn ôl lawr ag oeddan nhw yn racs," meddai Malcolm.
"Mae gen i gof o hogia Llanber yn rhedag - a hwyl oedd hi dyddia 'na. A dwi'n cofio crowd o hogia rygbi yn dod o Sir Fôn ag yn rhedag fyny ag yn cal cwpwl o beints ar y top!
"Mae pethau 'di newid wan, mae'r agwedd 'di newid, y sgidia 'di newid, y dillad 'di newid ac mae 'na lot o glybiau."
Dyddiau hynny mi fyddai Malcolm yn ymarfer wrth redeg o'i gartref i'w waith ac yn ôl pan roedd ganddo swydd yn ffatri ffrwydron ACI ym Mhenrhyndeudraeth.
"Dyna sut oeddwn i'n gallu ymarfer yn gyson, oni'n rhedag 10 milltir i'r gwaith ac yn ôl.
"O'n i'n rhedag o gwmpas lle. Ond adeg hynny os oeddat ti yn mynd i redag roedd pobl yn meddwl bod 'na rwbath yn matar arnat ti. O'n i'n gorfod mynd yn nos a rhoi cap ar fy mhen!"
"Oedd pobl yn meddwl 'pwy di'r ffŵl ma sy'n rhedag o gwmpas y lle 'ma?"
Ras Rhyngwladol
Wedi'r ras gyntaf honno yn 1976 mi dyfodd Ras Yr Wyddfa yn y blynyddoedd wnaeth ddilyn. Sefydlwyd clwb rhedeg Eryri Harriers yn 1977 ac erbyn dechrau'r 1980au roedd clybiau rhedeg o ar draws y byd yn gwneud eu ffordd i Lanberis.
"Wnaeth o ddatblygu efo Ken Jones o Lanberis - y trefnydd adeg hynny. Roedd o yn ffrindiau efo grŵp o'r Eidal a wnaeth o roi gwadd iddyn nhw tua 81/82.
"Wedyn gath o'r syniad i wneud o'n rhyngwladol a rhoi gwadd i Iwerddon, Yr Alban, Lloegr, Swistir a Ffrainc."
"Yn 1977, 130 oedd yn y ras - rŵan mi gawn ni 500, ella 600. Ras fach oedd hi ac mae hi di datblygu llawer iawn. Mae hi'n ras ryngwladol rŵan - mae gen ti redwyr o Kenya ac Ethiopia erbyn hyn."
Yn 1986 fe redodd Kenny Stewart o Loegr y ras mewn 1:02:29 a does neb wedi llwyddo torri'r record i'r diwrnod yma gyda'r agosaf hyd yn hyn, y Sais Mark Kinch, yn ei redeg mewn 1:02:58 yn 1995.
Y Cymro cyflymaf erioed ydi Colin Jones ar 1:05:14 a'r ferch gyflymaf ydi Carol Greenwood o Loegr gydag amser o 1:12:48 yn 1993.
"Mewn amser mi eith rhywun yn agos ati masiwr. Dwi wedi synnu fod rhywun sydd yn rhedeg mynyddoedd heb wneud eto.
"Y gorau dwi di gwneud hi ydi awr a 14 munud. Oni'n gyson iawn am rai blynyddoedd yn y cyfnod yna o 1984."
'Fedrai gwneud hi?'
Roedd Malcolm yn rhedeg ar lefel uchel iawn am flynyddoedd. Yn cynrychioli Cymru ar y mynyddoedd, yn cael ail, trydydd a pedwerydd yn Marathon Eryri, yn rhedeg Marathon Llundain ar dair achlysur, ac yn taro 32 munud mewn rasys 10k.
Ond mae gan Ras Yr Wyddfa le mawr yng nghalon y rhedwr, mor fawr ei fod wedi ei rhedeg hi ar ôl brwydro canser un flwyddyn.
"Mae 'na rai cyfnodau wedi bod lle dwi wedi teimlo... fedrai gwneud hi fedrai gwneud hi?" meddai Malcolm.
"Yr un mwya syn dod i'r cof i fi ydi yn '91, mi ges i ganser ag oni'n cael y driniaeth ym mis Chwefror am ddeufis. Ond oni benderfynol o'i gwneud hi. A dwi'n cofio deud wrth Ken Jones adeg hynny fy mod i am ei drio hi a mi roth o ganiatâd i mi chwarae teg ond dweud wrtha'i am gymryd fy amser."
"Ond ges i fy siomi ar yr ochr ora ddeud gwir a gwneud hi mewn awr a 33 munud. Odd hynny yn un o'r rhai gorau sydd yn dal yn fy nghof i."
"Yn fy nghalon"
Mae Malcolm yn 71 oed erbyn hyn ac er nad ydi o'n rhedeg mor galed ag oedd o mae'n parhau i fynd rhyw dair neu bedair gwaith yr wythnos.
Ac wrth gwrs, mae wyneb mwyaf cyfarwydd Ras yr Wyddfa yn barod amdani eto eleni, ond sut ar y ddaear maen dal i lwyddo ei gwneud hi?
"Mae lot fawr o bobl yn gofyn sut dwi'n gallu gwneud o ar ôl gymaint o flynyddoedd," meddai. "Wel… am bo fi'n medru dwi'n meddwl. Swni'n brifo wrth gwrs, swni ddim yn gwneud o."
"Mae o yn fy mhen i ac yn fy nghalon i fwy na mae o yn fy nghoesa' i. Ac maen siŵr bod lwc yn dod mewn hefyd a sut mae fy nghorff.
"Er bo fi di gwneud hi droeon wan dwi dal i deimlo dipyn bach yn nerfus. Dim ofn gwneud hi sgen i, ond ofn peidio gwneud hi ac fel pawb mae 'na lot o'r hen butterflies yn troi yn fy stumog. Ond unwaith mae'r ras yn dechrau, na ni, mae'n iawn.
"Os wnâi o gwmpas dwy awr mi fyddai'n eitha' hapus, os dorra'i ddwy awr, mi ga'i ddau beint!"