'Hogia'r Wyddfa 24'

  • Cyhoeddwyd
ras
Disgrifiad o’r llun,

Rob, Huw, Ceirion, Lyndon a Dyfed, Hogia'r Wyddfa 24, gyda'u medalau

Mae rhedeg i fyny'r Wyddfa a nôl i lawr yn dipyn o gamp. Yn 1085m (3,560 troedfedd) o uchder does dim rhyfedd bod rhai yn dewis y trên er mwyn cyrraedd y copa, yn hytrach na rhedeg.

Ond mae rhedeg i fyny'r Wyddfa sawl gwaith mewn diwrnod, a hynny ar un o ddiwrnodau poetha'r flwyddyn, yn her anoddach fyth.

Dyna oedd y sialens i redwyr ar 9 Gorffennaf 2022, gyda thimau a rhedwyr unigol yn rasio i fyny'r Wyddfa ac yn ôl i Lanberis gymaint o weithiau â phosib o fewn 24 awr.

Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd y ras gyntaf o'i bath i fyny'r Wyddfa gyda hyd at bump yn rhedeg mewn ras gyfnewid

Un o'r timau oedd yn cynnwys aelodau lleol oedd Hogia'r Wyddfa 24; Huw Gwilym, Lyndon Roberts, Dyfed Whiteside Thomas, Ceirion Williams a Rob Mansel.

"Roedd posib cael i fyny at pump o bobl mewn tîm, ac mi roeddan ni'n cystadlu wedyn mewn ras gyfnewid - fel oedd un o ni'n cyrraedd nôl yn Llanberis roedd y nesa'n dechrau i fyny," meddai Huw Gwilym o'r Waunfawr wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Lyndon yn cyrraedd nôl yn Llanberis ar y ffordd lawr o'r Wyddfa

"Roedd y ras yn dechrau am 12:00 dydd Sadwrn ac yn gorffen 12:00 dydd Sul, ac roedden ni'n rhedeg drwy'r prynhawn, gyda'r nos ac yna drwy'r nos i fewn i bora Sul."

'Hogia'r Wyddfa 24'

Roedd 'na 164 o redwyr unigol yn y ras a 22 o dimau. Roedd tîm Hogia'r Wyddfa 24 i gyd yn eu 40au, yr ieuengaf, Huw, yn 43 oed a'r hynaf yn 47.

"Mae 'na griw sy'n mynd i redeg bob nos Iau yn Llanberis o dan arweiniad Dyfed Whiteside, lle 'da ni'n rhedeg y mynyddoedd am tua awr a hanner - mae Dyfed yn adnabyddus fel rhedwr arbennig yn yr ardal.

"Rhyngddon ni fel tîm fe aethon ni i fyny 12 gwaith - tri o'r tîm wedi mynd fyny ddwywaith, a dau o'r tîm wedi mynd fyny dair gwaith - Dyfed Whiteside a Rob Mansel oedd y rhai a wnaeth y cwrs dair gwaith."

Dyfed a Rob yn arwain y ffordd

Fe orffennodd Dyfed a Rob gyda amseroedd arbennig, meddai Huw: "Fe wnaeth Dyfed ei dair lap o fewn 1 awr 30 mun, 1 awr 39 mun ac 1 awr 37 munud! Ac mi wnaeth Rob Mansel ei legs o mewn 1 awr 42 mun, 1 awr 42 mun ac 1 awr 54 mun!"

Disgrifiad o’r llun,

Dyfed ar ei daith cyntaf o dair i fyny tua'r copa

O'r 22 tîm i gymryd rhan daeth tîm Hogia'r Wyddfa 24 yn ail, gyda'r tîm buddugol o Abertawe'n cwblhau 12 lap 16 munud ynghynt.

Yn y rasio unigol fe enillodd David Shearer adran y dynion - fe aeth i fyny ac i lawr yr Wyddfa wyth gwaith mewn 21 awr, 54 munud a 50 eiliad.

Ymysg y merched, Christine Caldwell oedd yn fuddugol, gan hefyd fynd i fyny ac i lawr wyth gwaith, mewn amser o 23 awr, 11 munud, 44 eiliad.

Roedd yr amodau ar gyfer y ras yn cynnig her ychwanegol i'r rhedwyr - tywydd poeth ac ychydig iawn o awel.

"Ar y dydd Sadwrn mi roedd hi'n ofnadwy o boeth. Roedd hi'n amlwg yn oerach yn ystod y nos - ond mi roedd 'na ryw niwl yn llefydd fel Allt Goch ac oddan ni ond yn gweld bedair i bump metr o'n blaenau.

"Ar y copa o'dd hi'n clirio eto, ac oddach chi'n gallu gweld rhesi o lampiau o bobl yn rhedeg. Roedd rhaid cario eich diod, bwyd, waterproofs, torches ac yn y blaen drwy gydol y ras, ddydd a nos - mi roedd hynny'n eitha' trwm i'w gario'n ychwanegol."

Prysurdeb ar y mynydd

"Roedd hi'n eithriadol o brysur ar y mynydd - oedd Dyfed yn dweud wrtha i bod o 'rioed yn cofio hi mor brysur ar y mynydd.

Disgrifiad o’r llun,

Rob yn rhedeg lawr ar ei gymal cyntaf

"Yn amlwg mae gan bawb gymaint o hawl a'r person nesa i fod ar y mynydd, ond roedd hi'n gwneud y rhedeg yn eitha' anodd. Pan 'da chi'n rhedeg lawr 'da chi'n dod i gwrdd â phobl sy'n cerdded fyny, a rhan amla' mae ganddyn nhw eu penna i lawr."

Codi arian

Un peth a oedd yn ysgogi Huw a'i dîm yn ystod cyfnodau anodd y ras oedd eu bod yn codi arian tuag at achos da.

"Nathon ni hel arian at elusen Gafael Llaw, a 'da ni wedi hel tua £2,500 erbyn hyn," meddai Huw.

"Mae'n elusen sy'n helpu teuluoedd sydd â phlant sydd wedi eu heffeithio gan ganser. Mae'n achos teilwng iawn, ac mae pobl wedi bod yn hapus iawn i gyfrannu. Ac mae'r dudalen Justgiving dal yno ar gyfer rhoi at yr achos."

Wedi mwynhau yr her?

"Os 'sa ti wedi gofyn imi prynhawn dydd Sadwrn pan o'dd hi'n boeth ac yn flinedig, o'n i byth isho gweld yr Wyddfa eto. Ond o adlewyrchu nôl rodd o'n grêt ac mae 'na rhyw deimlad o gyfeillgarwch gyda'r tîm o be wnaethon ni ei gyflawni - wnaeth pawb fwynhau."

Disgrifiad o’r llun,

Huw yn dechrau ei gymal cyntaf (trydydd y tîm) am 15:15 ddydd Sadwrn, gyda'r haul yn danbaid uwchben Llanberis

Roedd Huw hefyd yn hapus i weld y cyfeillgarwch a'r gefnogaeth oedd i'w weld rhwng rhedwyr a oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

"Pan ti ar y mynydd, er bo ti'n cystadlu yn erbyn timau eraill, mae'r cystadleuwyr eraill yn gwybod be' ti'n mynd drwyddo ac yn annog ti 'mlaen, felly ro'dd 'na lot o gyfeillgarwch rhwng timau gwahanol hefyd. Roedden ni'n checkio i weld os oedd pobl arall yn iawn, ac os oeddat ti'n gweld rhywun yn stryglo o'dd bobl yn neud siŵr bod nhw'n iawn.

"Roedd ganddon ni dîm yn cefnogi ni hefyd: Sion Stokes, Trystan Gwilym a Dafydd Roberts, ac mi roeddan nhw'n wych. Roedd yn eitha' anodd iddyn nhw drïo darogan pryd oedd y rhedwyr yn dod nôl a pryd oedd angen paratoi bwyd/diod ar gyfer y tîm hefyd, felly mae'n rhaid rhoi lot o ddiolch i'r tim cefnogi."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig